Skip to main content

Ysgol Gynradd Ffynnon Taf

Mae’r ysgol gynradd yn Ffynnon Taf wedi derbyn estyniad pedair ystafell ddosbarth ar gyfer disgyblion y cyfnod sylfaen, gyda mannau chwarae awyr agored ychwanegol newydd – a hynny’n rhan o fuddsoddiad gwerth dros £3m.

Cafodd yr adeilad sy'n gwbl hygyrch ei gwblhau mewn pryd ar gyfer dechrau'r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2022. Mae'n cynnwys toiledau newydd, ystafell gotiau a neuadd newydd sydd â lle i'r ysgol gyfan. Mae modd i'r gymuned ehangach ddefnyddio'r neuadd yma, hefyd.

Gan fod cyfleusterau newydd wedi cael eu darparu, cafwyd gwared ar ddosbarthiadau dros dro'r ysgol gan eu bod nhw mewn cyflwr gwael iawn. Golygodd hyn fod mwy o le i ehangu prif iard yr ysgol. Yn ogystal â hyn, mae llwybr troed newydd diogel wedi cael ei greu sy'n arwain yn syth at dderbynfa'r ysgol, ynghyd â man cadw beiciau.

Elfen unigryw o'r cynllun yma yw ei gysylltiad â Ffynnon Dwym Ffynnon Taf, yr unig ffynnon geothermol wedi'i chynhesu'n naturiol yng Nghymru. Mae'r system yn pwmpio dŵr o'r ffynnon (tua 21°C) i gyfnewidydd gwres cyfagos, sy'n ei droi’n ynni ar gyfer bloc newydd yr ysgol.

Ymweliad Aelod o'r Cabinet ar ôl cwblhau'r prosiect – Hydref 2022

Fynnon Taf Primary - 21st Century Schools - Cllr Lewis 1
Fynnon Taf Primary - 21st Century Schools - Cllr Lewis 2
Fynnon Taf Primary - 21st Century Schools - Cllr Lewis 4
 
Fynnon Taf Primary - 21st Century Schools - Cllr Lewis 6
Fynnon Taf Primary - 21st Century Schools - Cllr Lewis 7
Fynnon Taf Primary - 21st Century Schools - Cllr Lewis - October 22 - GDPR Approved-11

Hoffech chi ragor o wybodaeth am y prosiect yma? Anfonwch ebost i Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif