Mae modd i chi dalu am brydau ysgol eich plentyn ar-lein, drwy naill ai gofrestru cyfrif ar ein system dalu neu drwy dalu heb gofrestru.
Beth yw manteision cofrestru i dalu ar-lein?
- Cyfleustra
- Mae modd i chi gadw cyfeirnod arian cinio eich plentyn i'ch hafan er mwyn osgoi ei fewnbynnu bob tro rydych chi'n talu
- Gallu gweld 'Fy Hanes Talu' i weld gwybodaeth a derbynebau am daliadau gafodd eu gwneud o'ch cyfrif chi
- Gweld 'Fy Nghyfrif', a chadw manylion eich cerdyn chi'n ddiogel
Mae gan bob disgybl rif cyfeirnod 10 digid. Mae modd i chi gysylltu ag ysgol eich plentyn i gael y rhif yma.
Os ydy'ch plentyn chi yn newid ysgol, bydd y cyfeirnod hefyd yn newid.
I gael gwybod swm eich arian prydau ysgol, cysylltwch â'r ysgol.
Gwibdeithiau Ysgol
Mae modd i rai ysgolion dderbyn taliadau ar-lein ar gyfer eitemau eraill e.e. gwibdeithiau ysgol, gwersi cerddoriaeth.
Ewch i weld os ydy'ch ysgol chi yn derbyn taliadau ar-lein