Skip to main content

Absenoldebau yn ystod tymor yr ysgol

Absenoldebau achlysurol/absenoldebau mae rhieni wedi’u caniatáu

Rydyn ni’n disgwyl i chi sicrhau bod eich plentyn yn mynd i’r ysgol bob dydd yn ystod y tymor, os yw e’n ddigon iach i wneud hynny.

Mae ysgolion ar agor i ddisgyblion 190 diwrnod y flwyddyn, sy’n gadael 175 diwrnod (gan gynnwys gwyliau’r ysgol a phenwythnosau) i deuluoedd dreulio amser gyda’i gilydd a mynd i apwyntiadau arferol.

Dydy’r canlynol ddim yn rhesymau derbyniol dros beidio ag anfon eich plentyn i’r ysgol:

  • Gwarchod brodyr a chwiorydd
  • Teithiau siopa
  • Pen-blwyddi
  • Ymweld â'r teulu
  • Cysgu'n hwyr
  • Mynd ar deithiau diwrnod

Fe fydd diwrnodau pan na fydd modd i’ch plentyn fynd i’r ysgol.

Bob diwrnod mae eich plentyn yn absennol mae rhaid ichi roi gwybod i'r ysgol yn unol â pholisi presenoldeb yr ysgol. Bydd yr ysgol yn penderfynu p’un ai awdurdodi’r absenoldeb neu beidio. Mae hawl i ysgol eich plentyn awdurdodi absenoldeb o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • os yw'ch plentyn yn rhy sâl i ddod i'r ysgol
  • bod apwyntiad gyda'r deintydd, meddyg neu ysbyty gyda'r plentyn
  • bod rhywun yn y teulu wedi marw
  • bod defod/arfer grefyddol
  • bod y plentyn yn hunanynysu/ yn unol â rheoliadau COVID-19

Salwch

Ydy'ch plentyn yn ddigon iach i ddod i'r ysgol?

Does dim rhaid i bob salwch gadw eich plentyn rhag dod i'r ysgol. Os ydych chi'n penderfynu cadw eich plentyn rhag dod i'r ysgol, sicrhewch fod yr ysgol yn gwybod am hyn ar ddiwrnod cyntaf ei absenoldeb a thrwy gydol y cyfnod fydd e ddim yn yr ysgol.

Defnyddiwch synnwyr cyffredin wrth benderfynu a yw eich plentyn yn rhy sâl i fynychu'r ysgol neu beidio a glynwch wrth ganllawiau diweddaraf y Llywodraeth ar COVID-19.

Peidiwch ag anghofio i ddweud wrth yr ysgol.

Os ydy'ch plentyn yn mynd i fod yn absennol, mae'n bwysig eich bod chi'n rhoi gwybod i'r ysgol. Ffoniwch yr ysgol i roi gwybod y bydd eich plentyn yn aros gartref ar ddiwrnod cyntaf ei salwch. Bydd yr ysgol yn gofyn ynghylch natur y salwch, ac yn gofyn i chi pa mor hir yr ydych chi'n disgwyl i'r cyfnod absenoldeb bara.  Os daw i'r amlwg y bydd eich plentyn yn absennol o'r ysgol am gyfnod hirach na'r disgwyl, ffoniwch yr ysgol cyn gynted  â phosibl er mwyn egluro hyn.

Gwyliau

Os ydych chi’n bwriadu mynd ar wyliau fel teulu yn ystod tymor yr ysgol, mae rhaid i chi gyflwyno cais ffurfiol i ofyn am ganiatâd gan y Pennaeth ysgol cyn i chi fynd ati i drefnu unrhyw wyliau.

Ym Medi 2014, fe weithredodd yr Awdurdod Lleol agwedd lemach at y mater o wyliau yn ystod tymor yr ysgol. Bydd Penaethiaid Ysgol yn ystyried pob cais yn unigol.  Eu penderfyniad nhw yw p'un ai awdurdodi neu beidio ag awdurdodi pob cais am gyfnod o absenoldeb. Os oes amgylchiadau arbennig sy'n rhwystro teulu rhag mynd ar wyliau yn ystod gwyliau'r ysgol, efallai y bydd y pennaeth ysgol yn penderfynu awdurdodi'r cais. Dyma rai o'r eithriadau:

  • Teuluoedd personél sy'n gwasanaethu gyda'r Lluoedd Arfog (rhieni)
  • Rhiant neu blentyn sydd â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd
  • Teuluoedd sydd wedi dioddef trawma difrifol

Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd absenoldeb heb ei awdurdodi yn arwain at , Hysbysiad Cosb Benodedig, os yw’r disgybl o oedran ysgol gorfodol. Cliciwch ar y ddolen am yr wybodaeth ddiweddaraf am Hysbysiadau Cosb Benodedig ar gyfer Peidio â Mynychu’r Ysgol

Os ydych angen cysylltu â'n gwasanaeth, e-bostiwch PresenoldebaLles@rctcbc.gov.uk.