Skip to main content

Urddas Mislif yn yr Ysgol

Mae cynnyrch mislif ar gael i ddysgwyr ym mhob ysgol (ac eithrio ysgolion babanod oherwydd oedran y dysgwyr), Rydyn ni o'r farn dylai bod cynnyrch mislif ar gael am ddim, mewn llefydd sy'n hawdd i'w cyrraedd (e.e. o fewn ciwbicl tai bach) fel bod modd eu cymryd heb orfod gofyn i aelod o staff.

Mae ystod eang o gynnyrch ar gael i ddisgyblion yn cynnwys cynnyrch mislif mae modd ailddefnyddio. Rydyn ni'n gwrando ar lais y disgyblion yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cynnyrch sydd wedi'u prynu yn cwrdd ag anghenion ein dysgwyr. Ar y cyfan, dydy'r cynnyrch rydyn ni'n ei brynu ddim yn cynnwys plastig, ac mae modd ei ailddefnyddio. Mae ein dewisiadau'n gyfeillgar i'r amgylchedd.

Rydyn ni'n annog pob ysgol i sicrhau bod y dysgwyr yn ymwybodol o leoliad y cynnyrch sydd ar gael. Siaradwch â'ch ysgol os oes angen rhagor o wybodaeth yn ymwneud â lleoliad y cynnyrch, neu os oes gyda chi bryderon am gyflenwad y cynnyrch.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Gweithredu Strategol Urddas Mislif, ac yn rhan o'r cynllun yma mae pob ysgol yn derbyn cyllid i wario ar gynnyrch mislif.

Os ydych chi'n oedloyn neu berson ifanc sydd newydd adael yr ysgol, rydyn ni hefyd yn cefnogi cynllun Urddas Mislif yn y Gymuned, mae rhagor o wybodaeth am sut mae dod o hyd i gynnyrch mislif am ddim yn y cynllun yma.

Os ydych chi'n grŵp cymunedol sy'n cefnogi aelodau'r cyhoedd gyda rhwystrau ariannol neu emosiynol ac sydd â'r gallu i gefnogi trwy storio cynhyrchion mislif i'w dosbarthu, yna cyswlltwch â ni trwy ddilyn y ddolen uchod.