Skip to main content

Siopau Talwch fel y Mynnwch - Big Bocs Bwyd

Mae'r cynllun Big Bocs Bwyd ar gael mewn nifer o ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Mae gan yr ysgolion yma siop 'Talwch fel y Mynnwch', ble mae modd i bobl o'r gymuned leol gael bwyd sydd wedi'u rhoi i'r ysgol gan archfarchnadoedd, siopau lleol a chymdeithasau rhandiroedd. Mae rhai ysgolion hefyd wedi ychwanegu ardaloedd dysgu, llefydd i dyfu bwyd a llefydd bwyta ac yfed i'w siopau.

Bwriad y prosiectau yma ydy lleihau gwastraff bwyd. Yn aml mae'r bwyd yn dod o archfarchnadoedd sy'n cael trafferth gwerthu'r bwyd sydd gyda nhw. Diolch i'r Big Bocs Bwyd mae llai o fwyd da yn mynd i'r safleoedd tirlenwi. Mae'r elfen 'Talu fel y Mynnwch' yn galluogi teuluoedd i gyfrannu tuag at gost y pethau maen nhw'n ei brynu. Mae'r arian sy'n cael ei dderbyn yn cael ei ailfuddsoddi i'r cynllun Big Bocs Bwyd i sicrhau bod cyflenwad bwyd yn cael eu cynnal.

Mae siopau ar gael yn yr ysgolion canlynol:

  • Ysgol Gynradd Pen-pych
  • Ysgol Gynradd Treorci
  • Ysgol Gynradd Bodringallt
  • Ysgol Gynradd y Gelli
  • Ysgol Nant-gwyn
  • Ysgol Gymuned Tonyrefail
  • Ysgol Gynradd y Santes Fererid Eglwys Gatholig
  • Ysgol Gynradd Gymuned Glenbói
  • Ysgol Gynradd Cwmaman
  • Ysgol Gynradd Pont-y-gwaith

Cysylltwch â'r ysgolion yn uniongyrchol er mwyn cael gwybod am yr amseroedd agor ac unrhyw wybodaeth ychwanegol megis cyfleoedd i wirfoddoli a ffyrdd i gefnogi'r cynllun Big Bocs Bwyd yn eich ysgol leol.

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r cynllun Big Bocs Bwyd cenedlaethol ar gael yma: www.bigbocsbwyd.co.uk

Mae nifer o ysgolion arall yn cynnig pantris bwyd ar raddfa lai, neu mae modd i'r rhai sydd angen cymorth ddefnyddiol banciau bwyd. Siaradwch â'ch ysgol i ddarganfod os yw'r opsiynau yma ar gael yn eich ardal.