Skip to main content

Virtual School

 

Mae gan Gyngor Rhondda Cynon Taf Ysgol Rithwir sy'n cefnogi plant a phobl ifainc yr Awdurdod Lleol sy'n derbyn gofal. Mae'r Ysgol Rithwir yn meithrin dull integredig ac felly'n gweithio gyda Gwasanaethau i Blant er mwyn gwella canlyniadau addysgol a chyfleoedd bywyd yr holl blant a phobl ifainc o oedran ysgol statudol sy'n derbyn gofal. Mae'r Ysgol Rithwir hefyd yn cefnogi plant sy'n derbyn gofal gan Rondda Cynon Taf ac sy'n mynychu ysgolion y tu allan i ffiniau RhCT: mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Ar hyn o bryd, does dim plant sy'n derbyn gofal gan Rondda Cynon Taf yn mynychu ysgolion yng Ngogledd Iwerddon. Mae'r ysgol yn 'rhithwir' gan nad yw'n bodoli fel sefydliad nac adeilad ffisegol; yn lle hynny, mae plant yn mynychu eu hysgol neu sefydliad addysgol ac yn parhau i fod o dan gyfrifoldeb y sefydliad addysgol yma, ond mae pob agwedd arall ar eu lles a'u cynnydd yn cael eu monitro a'u cefnogi gan yr Ysgol Rithwir.

Mae datganiad cenhadaeth yr ysgol, sef 'Mae pob plentyn yn haeddu Pencampwr', yn ategu gwaith yr Ysgol Rithwir ac yn sicrhau bod gan bob plentyn/person ifanc 'lais'. Mae pwyllgor rheoli o Benaethiaid a Phenaethiaid Gwasanaethau o fyd Addysg a Gwasanaethau i Blant yn craffu ar waith Pennaeth yr Ysgol Rithwir wrth iddi gyflawni ei dyletswyddau er mwyn gwella'r canlyniadau cyffredinol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.

Mae'r garfan yn cynnwys Pennaeth, cydlynydd addysg ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, gweithiwr cymorth i blant sy'n derbyn gofal, seicolegydd addysg arbenigol i blant sy'n derbyn gofal a chynorthwy-ydd gweinyddol. Mae'r garfan yn gweithio ar y cyd â gweithwyr yr adran addysg, gwasanaethau i blant, plant a phobl ifainc, rhieni maeth a rhieni. Mae'r garfan yn gweithio yng Nghanolfan Menter y Cymoedd ym Mharc Hen Lofa'r Navigation, Abercynon. Dyma'r cyfeiriad e-bost canolog: ysgolrithwir@rctcbc.gov.uk.

 Mae'r rôl o 'berson dynodedig (PD) ar gyfer plant sy'n derbyn gofal' bellach yn un statudol ac o ganlyniad i hyn, mae disgwyl i bob ysgol benodi aelod o staff i'r rôl yma yn unol â'u dyletswyddau statudol. Mae'r Ysgol Rithwir yn cynnig cymorth i bob PD ledled RhCT trwy gynnig hyfforddiant, ymweliadau ysgol a fforymau bob tymor. Mae'r Ysgol Rithwir yn gweithio'n agos gydag ysgolion yn RhCT i sicrhau bod staff ysgolion yn derbyn hyfforddiant o ran gwneud penderfyniadau sy'n ystyriol o drawma a sicrhau bod ystafelloedd dosbarth yn addas i blant sy'n derbyn gofal. Mae presenoldeb, cynnydd academaidd, iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifainc yn RhCT sydd wedi cael profiad o dderbyn gofal yn cael eu monitro gan yr Ysgol Rithwir; gan sicrhau bod gan blant sy'n derbyn gofal yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant a phobl ifainc sydd ddim yn derbyn gofal.

 Mae'r plant a phobl ifainc o oedran ysgol statudol yn cael eu cefnogi trwy Gynllun Addysg Personol (CAP). Mae cynlluniau addysg personol yn cynnwys targedau addysgol uchelgeisiol a chyraeddadwy. Mae'r Ysgol Rithwir yn sicrhau ansawdd y Cynllun Addysg Personol ac yn olrhain cynnydd disgyblion yn erbyn y targedau wedi'u gosod. Mae gan yr Ysgol Rithwir fwrsariaeth fach ac mae'n gallu ariannu hyfforddiant, cymorth o fewn yr ysgol, tiwtora ar-lein, prosiectau grŵp ac ymyraethau unigol. Caiff y rhain eu trefnu gyda Gweithiwr Cymdeithasol y plentyn neu berson ifanc.  Rhaid i weithiwr cymdeithasol wneud cais am gyllid.