Skip to main content

Y Garfan Cynnal Ymddygiad

Rôl y garfan:

Mae'r Garfan Cynnal (Cymorth) Ymddygiad (CCY) yn cynnwys carfan o ymarferwyr ymroddedig sydd â phrofiad helaeth o weithio yn ysgolion Rhondda Cynon Taf er mwyn hyrwyddo lles emosiynol ac ymddygiad plant a phobl ifainc. Mae'r garfan yn rhan o Wasanaeth Cynnal Dysgu yr Awdurdod Lleol (ALl). Mae'r gwasanaeth yma'n ymdrechu i gyflawni deilliannau cadarnhaol i blant a phobl ifainc a'u teuluoedd, a'i fwriad yw cynorthwyo ysgolion i feithrin diwylliant o reoli ymddygiad mewn modd cadarnhaol ac effeithiol.

Rydyn ni o'r farn:

  • bod ymddygiad yn ffordd o fynegi anghenion sydd heb eu diwallu
  • bod pob plentyn a pherson ifanc yn haeddu cael ei glywed a bod modd dysgu strategaethau iddo er mwyn llwyddo a dysgu
  • bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gyfle cyfartal a chael ei gynnwys, ac y dylid bodloni anghenion unigol drwy ymagwedd sy'n canolbwyntio ar y plentyn
  • bod modd i bob plentyn a pherson ifanc ddatblygu ei fedrau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol a chreu'i gyfle ei hun i newid
  • y gall cymorth cynnar wedi'i dargedu helpu i ddatblygu annibyniaeth a gwytnwch emosiynol
  • bod perthnasoedd cadarnhaol rhwng yr ysgol, teuluoedd, plant a phobl ifainc yn helpu i oresgyn rhwystrau i ddysgu ac ymgysylltu
  • bod rhieni/gwarcheidwaid yn ddylanwadol a bod modd iddyn nhw ysgogi newid ar gyfer eu plant
  • bod modd i bob plentyn a pherson ifanc lwyddo, datblygu ei gryfderau unigol a gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r gymdeithas.

Mae'r gwasanaeth yn cynnig darpariaethau craidd megis ymgynghoriadau, cyngor a chanllawiau i ysgolion i gynorthwyo ystod eang o ddisgyblion ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol (SEBD) ar lefel ysgol gyfan, grŵp ac yn unigol, asesu a nodi anghenion disgyblion, ymateb i atgyfeiriadau unigol, pecynnau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol unigryw.

Drwy weithio'n effeithiol mewn partneriaeth, bydd y CCY yn anelu at wella profiadau plant a phobl ifainc sydd ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol sylweddol a sicrhau eu bod nhw'n cael eu cynnwys. Bydd hynny'n lleihau'r angen i ysgolion eu gwahardd.

Dyma'r cymorth ar Ymyraethau Strategol sydd ar gael i ysgolion gan y Garfan Cynnal Ymddygiad:

  • Cyngor a darparu cyfleoedd hyfforddiant sy'n ymwneud â materion Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol ar gyfer athrawon ac amrywiaeth o staff cymorth
  • Hwyluso dull aml-asiantaeth o reoli ymddygiad
  • Cynnig cyngor a sesiynau hyfforddiant i ysgolion sy'n ymwneud â thargedau a strategaethau'r Cynllun Addysg Unigol (IEP) a'r Cynllun Ymddygiad Unigol (CYU)
  • Rhoi cyngor i ysgolion ynglŷn â'r broses wahardd cyfnod penodol a pharhaol
  • Rhoi cyngor i ysgolion ynglŷn â strategaethau atal
  • Gwaith systemig i gefnogi datblygu a gwella ysgolion, gan gynnwys adolygiadau cefnogol
  • Ymgynghori a chyngor ar ddatblygu polisïau a gweithdrefnau mewn perthynas ag ymddygiad a lles
  • Ymweliadau cymorth a herio i fynd i'r afael â meysydd pryder e.e. gwahardd, achosion o fwlio, defnyddio cyfnodau tawelu, ymyrryd yn gorfforol mewn modd cadarnhaol ac ati 
  • Cymorth ar gyfer gwaith prosiect mewn ysgolion ac ymyriadau sy'n ymwneud â Chynlluniau Gwella Ysgolion
  • Archwiliad ac adolygiadau ysgol gyfan, e.e. strategaethau gwrth-fwlio, darpariaeth AAA ar gyfer ymddygiad/lles ac ati
  • Rhoi cyngor i ysgolion ar ddatblygiadau cenedlaethol a lleol mewn perthynas ag ymddygiad a lles.

Cymorth i ysgolion sydd eisiau'r Garfan Cynnal Ymddygiad i gefnogi Ymyraethau Grŵp

Mae modd i'r rhain gynnwys:

  • cyngor ac arweiniad ymgynghori ar ymyriadau grŵp a/neu strategaethau i wella ymddygiad a lles
  • ymyriadau grŵp wedi'u hanelu at ddatblygu sgiliau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
  • dadansoddi perthynas yn yr ystafell ddosbarth drwy ddefnyddio data sosiometrig a datblygu ymyriadau i sicrhau newid (prosiect Lles mewn Addysg)
  • datblygu dulliau pontio
  • cynorthwyo ysgolion i ddatblygu darpariaeth fewnol ar gyfer disgyblion sy'n agored i niwed, sydd wedi'u dadrithio a/neu sydd wedi'u hymddieithrio
  • gwaith datblygu prosiectau treialu
  • cymorth ar gyfer trefnu'r ystafell ddosbarth a'i rheoli
  • addysgu enghreifftiol ac ar y cyd, i hyrwyddo rheoli ymddygiad a pherthynas gadarnhaol mewn modd cadarn yn yr ystafell ddosbarth (Amser Cylch a Chylch Ffrindiau)
  • dadansoddi ac ymyriadau amgylcheddol
  • darparu sesiynau cyd-chwarae penodol yn ystod cyfnodau distrwythur e.e. amser cinio, er mwyn gwella
  • sgiliau cymdeithasol dysgwyr a gwella sgiliau'r staff cymorth

Cymorth sydd ar gael gan y Garfan Cynnal Ymddygiad ar gyfer Ymyraethau Unigol

Mae modd i'r rhain gynnwys:

  • ymgynghori, cyngor ac arweiniad ar ymyriadau i wella ymddygiad a lles
  • ymgynghori, cyngor ac arweiniad ar ddatblygu Cynlluniau Chwarae Unigol, Cynlluniau Ymddygiad Unigol, Cynlluniau Cymorth Bugeiliol, Asesiadau Risg, Cynlluniau Trin Cadarnhaol
  • cymryd rhan mewn adolygiadau cynnydd, e.e. gweithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy, datganiadau AAA, Cynlluniau Cymorth Bugeiliol, a'r Garfan o Amgylch y Teulu ac ati
  • datblygu strategaethau cymorth i ddisgyblion ar y cyd
  • cymorth arbenigol ac ymyriadau uniongyrchol i fynd i'r afael ag anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol
  • hyfforddi plant a phobl ifainc ynglŷn â strategaethau ymddygiad
  • cymorthfeydd ymddygiad/sesiynau galw heibio ar gyfer rhoi cyngor i blant, pobl ifainc, staff neu rieni
  • cymorth un pwrpas ar gyfer trosglwyddo ac ailintegreiddio
  • ymyriadau therapiwtig/sy'n canolbwyntio ar atebion
  • arsylwi ar anghenion plant a phobl ifainc a'u hasesu
  • paratoi adroddiadau 
  • cyngor, cymorth a hyfforddiant ar gyfer staff ystafell ddosbarth a staff bugeiliol
  • ymyriadau, cyfarfodydd a chynadleddau adferol
  • gweithredu amlasiantaeth i gefnogi rhieni/gwarcheidwaid, gan gynnwys bod yn bresennol mewn cyfarfodydd
  • cyngor ac arweiniad ynglŷn â gwahardd
  • cymorth i hwyluso ailintegreiddio yn dilyn cyfnod o waharddiad
  • cymorth dros y ffôn a thrwy e-bost
  • cynrychiolaeth mewn cyfarfodydd panel/pwyllgor disgyblu 

Polisi Gwrth-fwlio

Canllawiau gwrth-fwlio newydd gan Lywodraeth Cymru i herio bwlio mewn ysgolion.

Y canllawiau, sydd wedi’u hanelu at gyrff llywodraethu ar gyfer ysgolion a gynhelir, awdurdodau lleol, rhieni, gwarcheidwaid a phlant a phobl ifainc.