Rôl y Gwasanaeth:
Gan weithio'n agos â'r meysydd gwasanaeth eraill, mae'r Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Dysgu Ychwanegolyn darparu gwasanaeth gweinyddol effeithlon ac effeithiol ar gyfer ysgolion, rhieni, disgyblion a gweithwyr proffesiynol eraill mewn perthynas â disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.
Mae'r gwasanaeth wedi'i drefnu ar sail ysgol/cymdogaeth ac mae gan bob ysgol swyddog sydd wedi'i enwi.
Mae'r Gwasanaethau Allweddol sy'n cael eu cynnig yn cynnwys:
- Cynrychioli'r Awdurdod mewn cyfarfodydd ag asiantaethau allanol.
- Paratoi data ystadegol sy'n ofynnol gan asiantaethau mewnol acallanol.
- Cysylltu ag ysgolion y tu mewn a'r tu allan i'r sir ynghylch erbyniadau newydd.
- Cysylltu ag awdurdodau lleol eraill o ran adennill costau.
- Cynnal a datblygu cronfa ddata ganolog ac adnodd meddalwedd ar gyfer dysgwyr ag ADY.
- Cydlynu'r gwaith gweinyddu sy'n gysylltiedig â'r prosesau AAA/ADY statudol.
- Gweinyddu'r broses adolygu flynyddol ar gyfer yr holl ddisgyblion gyda DGU.
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer rhieni, ysgolion a gweithwyr eraill ar gyfer disgyblion ag AAA/ADY
- Darparu gwybodaeth am Wasanaethau Partneriaeth Rhieni.
- Gweinyddu pob Panel lleoliad, trwy atgyfeiriadau o feysydd gwasanaeth eraill.
- Cysylltu â'r Uned Drafnidiaeth Integredig ynghylch polisi AAA/ADY o'r cartref i'r ysgol a sut i'w weithredu.
- Cysylltu â Chyllid Addysg ynghylch cyllido darpariaeth arbenigol yn Rhondda Cynon Taf a lleoliadau y tu allan i'r sir.
- Cyfathrebu a gweithredu pob penderfyniad panel i rieni, ysgolion a phob gweithiwr proffesiynol.
- Cydlynu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i ddarpariaeth arbenigol, gan gynnwys cludiant o'r cartref i'r ysgol, os yw'n briodol.
- Trefnu a mynychu adolygiadau CDU/cyfarfodydd YCU fel y bo'n briodol.