Skip to main content

Family Liaison And Complex Case

 

Dechreuwyd gweithredu Deddf ADY ym mis Medi 2021, ac mae plant a phobl ifainc yn cael eu symud yn raddol o'r hen system AAA i'r system ADY newydd. Bydd y system ADY a nodir yn y Ddeddf ADY i blant yn cael ei gweithredu'n raddol hyd at ac yn cynnwys y flwyddyn ysgol 2024 i 2025.

O fis Ionawr 2022 dechreuodd y system ADY i blant hyd at, ac yn cynnwys, Blwyddyn 10 a oedd yn cael darpariaeth addysgol arbennig drwy weithredu yn y blynyddoedd cynnar/gweithredu yn y blynyddoedd cynnar a mwy neu weithredu gan yr ysgol/gweithredu gan yr ysgol a mwy ac a oedd yn mynychu meithrinfa awdurdod lleol, ysgol awdurdod lleol neu Uned Atgyfeirio Disgyblion ar 1 Ionawr 2022.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) rhwng 0 a 25 oed, gan sicrhau bod modd iddyn nhw fanteisio ar addysg a/neu hyfforddiant addas, gan gynnwys addysg orfodol ac addysg neu hyfforddiant ôl-16 arbenigol lle bo angen.

Mae'r Cod ADY yn gosod gofynion gorfodol ar Awdurdodau Lleol mewn perthynas â'r canlynol:

Gwasanaethau gwybodaeth a chyngor: Mae'r Garfan Cyswllt â'r Teulu ac Achosion Cymhleth (FLACC) yn cysylltu â phlant, pobl ifainc ac eraill i rannu gwybodaeth a chyngor am ADY a'r system newydd, gan sicrhau bod modd i bawb sydd ei hangen fanteisio arni.

Osgoi a datrys anghytundebau: Rhaid i Awdurdodau Lleol gynllunio ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau. Os bydd anghytundebau, bydd y garfan FLACC yn cysylltu â theuluoedd, plant, a phobl ifainc cyn gynted â phosibl er mwyn eu datrys ar y lefel fwyaf lleol. 

Gwasanaethau eiriolaeth annibynnol: Mae'r Garfan FLACC yn gweithio'n agos gyda SNAP Cymru fel gwasanaeth eiriolaeth annibynnol i gefnogi teuluoedd lle mae anghytundebau'n codi a lle mae'n bosibl bod angen gwasanaeth cyfryngu.

Dolenni defnyddiol:

SNAP Cymru

Tribiwnlys Addysg Cymru