Skip to main content

Early Years & Additional Learning Provision

 

Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY)

 Mae’r gwasanaeth Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn cynnwys carfan arbenigol o weithwyr proffesiynol gydag ystod eang o gefndiroedd Addysg ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r garfan yn cefnogi ysgolion i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn unol â Chod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 trwy hyfforddiant, cyngor, cymorth ac arweiniad.

 

 

Gwasanaeth ADY Blynyddoedd Cynnar

 Mae gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) y Blynyddoedd Cynnar yn cefnogi plant sydd o dan oedran ysgol statudol ac nad ydyn nhw'n mynychu lleoliad ysgol eto, trwy brosesau Fforwm y Blynyddoedd Cynnar. Mae Fforwm y Blynyddoedd Cynnar yn fforwm aml-asiantaeth sy’n darparu pwynt cymorth canolog i blant ag ADY posibl. Mae prosesau’r Blynyddoedd Cynnar yn sicrhau bod modd i blant gael mynediad at wasanaethau a darpariaeth sy’n ofynnol i ddiwallu eu hanghenion drwy Fforwm y Blynyddoedd Cynnar a Phanel Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar. Mae'r gwasanaeth yma'n ymdrechu i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant y blynyddoedd cynnar a'u teuluoedd, a'i nod yw cefnogi darparwyr cyn-ysgol, gwarchodwyr plant a gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu diwylliant o ymyrraeth gynnar a chymorth i bawb.