O 30 Medi, fydd y Cyngor ddim yn casglu gwastraff cyffredinol o finiau ar olwynion gwyrdd. 

Dylai gwastraff cyffredinol gael ei roi mewn bag du maint safonol (tua 70 litr) a'i roi yn eich man casglu ar eich diwrnod casglu.

Mae croeso i breswylwyr ddefnyddio eu cynwysyddion eu hunain i storio bagiau du rhwng casgliadau. Rhaid cadw'r cynwysyddion yma o fewn eich ffin eich hun, e.e. gardd flaen neu lain barcio/dramwyfa, ac ati.

Gallai methu â gwneud hyn arwain at symud cynwysyddion, gan gynnwys biniau gwyrdd ar olwynion, sydd i'w gweld ar y briffordd neu lwybr cyhoeddus.

Wheelie-bin

Gwnewch gais i'ch bin ar olwynion gael ei gludo yn ôl yn rhad ac am ddim neu ewch ag ef i'r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol os nad ydych chi ei eisiau mwyach.

Wheelie-bin

Gofyn am fin 120 litr am ddim yn lle’ch bin 240 litr.