Gwasanaeth ar gyfer pobl sy'n prynu neu'n ail-forgeisio eiddo neu dir yn ardal Rhondda Cynon Taf ac sy'n dymuno cael gwybodaeth a allai effeithio ar hyn yw chwiliad awdurdod lleol.
Er enghraifft, byddai'n sicrhau bod y sawl sy'n prynu tir ddim yn cael ei ddal gan rwymedigaethau neu 'bridiannau' sy'n bodoli y byddai modd eu gorfodi yn erbyn perchnogion olynol.
Mae gyda'r Cyngor ddyletswydd i gadw Cofrestr Pridiannau Tir Lleol gyfredol ac i roi ymateb cywir i geisiadau am chwiliadau. Bydd hyn yn gofyn i'r isadran weithio'n agos gydag isadrannau eraill yn y Cyngor.
Caiff chwiliadau eu cyflwyno ar ffurflenni safonol:
LLC1 yw enw'r ffurflen gyntaf. Cais yw hyn am chwiliad swyddogol o'r Gofrestr, hynny yw, mae'n ymdrin â'r holl bridiannau sydd wedi'u cofnodi yn y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae modd i hyn gynnwys:
- manylion pridiannau ariannol wedi'u cofrestru yn erbyn yr eiddo neu dir
- adeiladau rhestredig
- ardaloedd cadwraeth
- ceisiadau cynllunio sydd wedi eu cymeradwyo ag amodau
Mae'r Awdurdod Lleol o dan ddyletswydd statudol i gydymffurfio â chais LLC1.
CON29 yw'r ail ffurflen, sef ffurflen drawsgludo rhif 29. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr wedi'i llunio er mwyn gofyn cwestiynau am amrywiaeth o faterion sy'n ymwneud â'r eiddo neu'r tir. Caiff y ddwy ffurflen eu cyflwyno yn rhan o weithdrefn y trawsgludiad. Fel arfer, cyfreithiwr sy'n gyfrifol am wneud hyn. Os dydych chi ddim yn nodi cwestiynau eraill y byddech chi'n hoffi atebion iddyn nhw, dim ond y cwestiynau safonol y bydd y Cyngor yn eu hateb. Mae rhestr o gwestiynau dewisol ar ffurflen CON29O.
Pan fydd yr Awdurdod Lleol yn ymateb i Ffurflen CON29, byddan nhw'n darparu gwybodaeth does dim modd ei chael o unrhyw ffynhonnell arall. Enghraifft o hyn fyddai cynlluniau ffordd arfaethedig o fewn pellter penodol o dir neu eiddo. Dim ond drwy gyflwyno Ffurflen CON29 swyddogol y cewch wybod am unrhyw hysbysiadau ffurfiol neu anffurfiol sy'n effeithio ar eiddo penodol. Dydy rhan fwyaf yr wybodaeth yma ddim ar gael i unigolyn y tu allan i'r Awdurdod Lleol. Dogfen gytundebol yw Ffurflen CON29.
Pe hoffech chi gael atebion i unrhyw gwestiynau ychwanegol, dylech chi ddweud wrth eich cyfreithiwr cyn iddo/iddi gyflwyno'r chwiliad.
Bydd yr ymatebion i chwiliad dim ond yn cyfeirio at yr eiddo neu dir sydd wedi'i enwi ar y ffurflenni. Ydych chi angen gwybodaeth am unrhyw safleoedd cyfagos, er enghraifft, manylion unrhyw geisiadau neu ganiatâd cynllunio ar eiddo neu dir cyfagos? Bydd raid i chi godi ymholiad penodol ychwanegol. Cewch ofyn a oes unrhyw ffyrdd neu lwybrau troed ychwanegol sydd ddim yn cael eu crybwyll yng nghyfeiriad yr eiddo yn cael eu cynnal ar gost i'r cyhoedd o dan y Ddeddf Priffyrdd. Gofynnwch i'ch cyfreithiwr nodi'r ffyrdd neu droedffyrdd wrth eu henwau, neu drwy'u lliwio ar gynllun a rhoi cofnod o'r cais ym Mlwch C o Ffurflen Con29.
Mae modd i ni gyflawni chwiliadau Cofrestru Tiroedd Comin hefyd.
Pa wybodaeth sy'n ofynnol wrth gyflwyno chwiliad?
Cewch gyflwyno Chwiliadau Awdurdod Lleol drwy'r post arferol, neu yn electronig drwy'r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol neu gwmni TM Search Choice.
Rydyn ni am ddechrau prosesu eich chwiliad cyn gynted ag y bo modd, ond weithiau mae dogfennau anghyflawn yn peri i ni oedi. Felly dyma ychydig o awgrymiadau ac, mewn rhai achosion, anghenion hanfodol:
- rhaid anfon dwy ffurflen LLC1 a Con29 wedi'u llenwi bob amser, a ffurflenni Con29O os oes angen.
- rhaid anfon dau gopi o gynllun bob amser, gyda'r safle sydd i'w chwilio wedi'i amlinellu'n goch.
- rhaid gofalu eich bod yn cynnwys pob un o'r ymholiadau dewisol ac ychwanegol rydych chi'u hangen
Os ydych chi'n dymuno cynnwys ffyrdd a throedffyrdd ayyb eraill ym Mlwch C Ffurflen Con29, cofiwch eu nodi wrth eu henwau, ac amgáu cynllun. Os dydy'r enw ddim yn hysbys, dylech gyflwyno cynllun yn eu nodi drwy'u lliwio neu drwy'u dangos â llinellau.
Rhaid i'r ffi sy'n dod i law fod yn gywir cyn bod modd dychwelyd chwiliad. Cofiwch gynnwys y ffi ar gyfer unrhyw ymchwiliadau dewisol ac ychwanegol. (Gwnewch eich sieciau'n daladwy i ‘Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf’.) Pan ddaw chwiliad ddod i law, os bydd y ffi yn anghywir, byddwn ni'n cysylltu â chi.
Faint o amser bydd yn ei gymryd i ddychwelyd chwiliad Awdurdod Lleol safonol?
Targed cenedlaethol y Llywodraeth ar gyfer dychwelyd chwiliadau safonol yw deng niwrnod gwaith neu'n llai. Bydd y rhan fwyaf o chwiliadau sy'n cael eu cyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cael eu dychwelyd mewn llawer llai o amser; mae llawer yn dibynnu, wrth gwrs, ar nifer y chwiliadau sy'n dod i law.
Er mwyn sicrhau ein bod yn monitro ein lefelau cyflawniad o hyd, rydyn ni wedi pennu targedau cyflawniad lleol hefyd ar gyfer dychwelyd chwiliadau safonol o fewn tri diwrnod gwaith a phum niwrnod gwaith.
Beth yw'r gofrestr pridiannau tir lleol?
Deuddeg rhan sydd i'r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol. Mae'n rhoi manylion pridiannau sy'n rhan o'r eiddo, waeth pwy yw'r perchennog. Y Garfan Pridiannau Tir Lleol sy'n cynnal y Gofrestrfa. Mae'r canlynol yn enghreifftiau o'r mathau o wybodaeth neu bridiannau y mae modd dod o hyd iddyn nhw ar y Gofrestr Pridiannau Tir Lleol:
Pridiannau Ariannol
Mae'r rhain yn rhoi manylion symiau o arian sy'n ddyledus i'r Awdurdod Lleol. Fel arfer, mae'r symiau yma o ganlyniad i waith y mae'r Cyngor wedi'i gynnal ('works in default').
Pridiannau Cynllunio
- Ceisiadau cynllunio:- Pa geisiadau am ganiatâd cynllunio sydd wedi'u caniatáu, eu gwrthod, neu y mae disgwyl penderfyniad arnyn nhw?
- Ardaloedd cadwraeth:- Ardaloedd yw'r rhain sydd wedi'u dynodi gan yr Awdurdod Lleol yn ardaloedd sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig. Byddai'n ddymunol cadw neu gyfoethogi'r ardaloedd yma.
- Gorchmynion Cadw Coed:- Mae'r gorchmynion yma'n cael eu datgelu er mwyn atal torri, cwympo, tocio, neu ddadwreiddio yr un goeden, neu grŵp o goed, heb ganiatâd penodol yr Awdurdod Lleol.
Ardoll Seilwaith Cymunedol
PWYSIG - MAE ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL YN CAEL EI DAL FEL PRIDIANT AR DIR. OS DYDY ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL DDIM YN CAEL EI THALU, MAE'N BOSIBL Y BYDDWCH CHI'N CAEL ANHAWSTER WRTH WERTHU EICH TIR NEU EIDDO
Ar 31 Rhagfyr 2014, daeth Rhestr Codi Tâl Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) Cyngor Rhondda Cynon Taf i rym.
Eisiau gwybod rhagor am beth fydd datblygiad yn agored iddo mewn Ardoll Seilwaith Cymunedol? Croeso i chi ymweld â'n tudalennau Ardoll Seilwaith Cymunedol ni.
Os yw Ardoll Seilwaith Cymunedol yn ofyniad ar gyfer datblygiad cymeradwy, caiff hyn ei gofnodi ar y Gofrestr Pridiannau Lleol, a'i ddatgelu i bartïon sydd â buddiant wrth i chwiliad swyddogol ddod i law. Dyma fel y mae hi ar gyfer unrhyw gamau gorfodi sy'n cael eu cymryd mewn perthynas â'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Gwasanaethau Chwilio Electronig
Mae'n bosibl y bydd cyfreithwyr yn gallu cyflwyno ceisiadau drwy'r Gwasanaeth Gwybodaeth Tir Cenedlaethol (GGTC) neu gwmni tmcore. Mae'n caniatáu i bobl gael mynediad haws at wybodaeth awdurdodol, fanwl gywir, a chynhwysfawr ar yr holl dir ac eiddo yng Nghymru a Lloegr.
Darparwyr Sianeli Cyfredol:
SearchFlow (Chwiliad y GGTC) :
0870 755 9940
http://www.searchflow.co.uk.
Cwmni tmcore:
0844 249 9200
http://www.tmofficialsearchservices.co.uk
Infotrack
0207 1866 9638
https://www.infotrack.co.uk/
Beth yw'r Ffioedd Pridiannau Lleol?
Ffïoedd Chwilio'r Awdurdod Lleol 2024/25 (gan gynnwys TAW lle bo'n berthnasol) Adeg 1 Ebrill 2024
Chwiliadau Post | NET | TAW | CYFANSWM |
Tystysgrif Chwiliad (LLC1 yn unig)
|
|
£6.00
|
Dd/B
|
£6.00
|
Con29 yn unig
|
|
£171.66
|
£34.33
|
£206.00
|
Chwiliad llawn (LLC1 a Con29)
|
|
£176.66
|
£35.33
|
£212.00
|
Chwiliad llawn ar garlam (eiddo preswyl yn unig)
|
|
£207.50
|
£41.50
|
£249.00
|
Ymholiadau ychwanegol (wedi'u cyflwyno gyda chwiliad) | | | |
Ymholiadau Con29O dewisol (Rhifau 4 i 22)
|
Fesul un
|
£22.83
|
£4.57
|
£27.40
|
Parseli ychwanegol
|
Fesul un
|
£26.66
|
£5.34
|
£32.00
|
Cwestiynau ychwanegol cyfreithwyr
|
Fesul un
|
£27.75
|
£5.55
|
£33.30
|
Ymholiadau ychwanegol (wedi'u cyflwyno ar ôl chwiliad) | | | |
Ymholiadau Con29O dewisol (Rhifau 4 i 22)
|
Fesul un
|
£22.83
|
£4.57
|
£27.40
|
Cwestiynau ychwanegol cyfreithwyr
|
Fesul un
|
£48.00
|
£9.60
|
£57.60
|
Chwiliad cofrestru tiroedd comin (Rhif 22 ar Con29)
|
Fesul un
|
£22.83
|
£4.57
|
£27.40
|
|
|
|
|
|
Nodwch y bydd unrhyw ymholiadau Con29O dewisol Rhan II a gyflwynir ar ôl chwiliad, neu fel chwiliad Con290 yn unig, yn gofyn am ffi weinyddu
|
|
£12.66
|
£2.54
|
£15.20
|
Isadran Pridiannau Tir
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Eiddo'r Cyngor
Tŷ Trevithick
Abercynon
CF45 4UQ