Skip to main content

Llwybrau Cerdded a Beicio

Great Glamorgan wayLlwybr Mawr Morgannwg

Mae Llwybr Mawr Morgannwg sy'n gwau drwy bum sir yn Ne Cymru yn rhwydwaith o lwybrau cysylltiedig, o'r môr i'r mynyddoedd, o'r coedwigoedd i'r dyffrynnoedd; gallwch fwynhau dod i adnabod harddwch de Cymru ar geffyl, ar feic neu ar droed. 
Rhagor o wybodaeth yma.
https://greatglamorganway.co.uk/cy/

Visit RCTCroeso Rhondda Cynon Taf

Mae'r ystod o deithiau cerdded yma; rhai hir, rhai cymedrol a rhai byr o ran hyd, yn ffordd wych o ddod i adnabod Rhondda Cynon Taf. Beth am ddringo i gopa'r mynyddoedd i fwynhau'r golygfeydd, crwydro drwy barciau gwledig godidog, neu ymlwybro ger llynnoedd ac afonydd? Neu beth am fynd yn ôl i'r hen ddyddiau gan ymweld â thirnodau hanesyddol? Mae teithiau cerdded tywys a llwybrau sain ar gael. 
Mae rhagor o fanylion yma.
https://www.croesorhct.cymru/cy/walks

Sport RCTChwaraeon RhCT

Bwriwch olwg ar ystod o fapiau rhyngweithiol a fideos sy'n rhoi arweiniad ar lwybrau cerdded a beicio yn RhCT.
Mae rhagor o fanylion yma:
https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/SportsandLeisure/SportRCT/Whatsinmyarea/WalkingandCyclingtrails/WalkingandCyclingTrails.aspx

PenrhysPilgrimageLlwybr Pererindod Pen-rhys

Mae Llwybr Pererindod Pen-rhys yn llwybr cerdded 21 milltir o hyd. Arno byddwch yn dilyn ôl troed y pererinion fu’n cerdded y llwybr hanesyddol yma rhwng Eglwys Gadeiriol Llandaf yng Nghaerdydd a Phen-rhys yng Nghwm Rhondda. Mae iddo chwe rhan, ac mae modd defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd nifer o'r mannau cychwyn. Mae modd cerdded rhannau ohono ar wahanol adegau, neu wneud y cyfan dros ddeuddydd gan aros dros nos yn Llantrisant.

Ynysybwl PartnershipPartneriaeth Adfywio Ynys-y-bwl

Yn rhan o brosiect Llwybrau Gweledigaeth Ynys-y-bwl mae llwybrau cylchol wedi'u datblygu yn Ynys-y-bwl a choedwig Sant Gwynno a'r cyffiniau i'w mwynhau ar droed, ar feic, neu ar geffyl. Mae'r llwybrau yma’n uno hawliau tramwy cyhoeddus â llwybrau â chaniatâd.
Mae rhagor o fanylion yma:
https://www.ynysybwlvision.wales/paths-and-trails

Pontyclun Badger WalkTeithiau Cerdded Cymuned Pont-y-clun

Mae Cyngor Cymuned Pont-y-clun, mewn cydweithrediad â Ramblers Cymru, wedi creu pum taith gerdded. Wrth ddilyn y rhain cewch gyfle i fwynhau golygfeydd hardd a mannau hanesyddol yn ardal Pont-y-clun.
Mae rhagor o fanylion yma:
https://staging-pontyclun.darkgreen.media/walking-in-pontyclun/

Llantrisant Bunny WalksLlwybrau Cerdded Cymuned Llantrisant

Mae Cyngor Cymuned Llantrisant, mewn partneriaeth â Cherddwyr Taf-elái, wedi creu cyfres o chwe llwybr cerdded ledled ardal Llantrisant. Wrth ddilyn y rhain cewch weld mannau byd natur a hanesyddol hardd yr ardal.
Mae rhagor o fanylion yma:
https://www.llantrisant-cc.gov.wales/about-us/footpaths-rights-of-way/

Sustrans-LogoLlwybr Taith Taf Sustrans – Caerdydd i Aberhonddu

Mae Llwybr Taith Taf yn llwybr cerdded a beicio 55 milltir o hyd rhwng Caerdydd ac Aberhonddu, sy'n ystod o lwybrau ger yr afon, llwybrau ger rheilffyrdd a llwybrau trwy goedwigoedd.
Mae rhagor o fanylion yma:
https://www.sustrans.org.uk/find-a-route-on-the-national-cycle-network/taff-trail-cardiff-to-brecon