Mae ein bryniau, ein dolydd a'n coetiroedd yn llawn bywyd gwyllt a phlanhigion a blodau rhyfeddol. Mae'r amrywiaeth sylweddol yn ein tirwedd naturiol a'n cyfoeth o hanes glofaol wedi cyfrannu at ddarparu'r cynefinoedd perffaith ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau. O'r pathew tawedog i'r fritheg werdd, y clychau'r gog godidog i garpedi clych y cerrig, mae rhywbeth anhygoel i'w weld neu i'w ddarganfod o hyd.
Mae modd i chi helpu'r byd natur yn eich cartref eich hun.
Mae yna lawer y gallwch chi ei wneud i helpu'r bywyd gwyllt, y planhigion a'r blodau yn ein Bwrdeistref Sirol. Os ydych chi'n ddigon ffodus ac mae gardd gyda chi, mae nifer o bethau syml y gallwch chi ei wneud yn weddol ddi-drafferth sydd ddim yn gostus chwaith. Beth am osod blychau nythu, gadael y glaswellt i dyfu'n hirach mewn rhai rhannau o'r ardd a'i dorri a'i gasglu yn nes ymlaen yn y tymor, pentyrru boncyffion ar gyfer draenogod a hyd yn oed drilio tyllau ynddyn nhw i greu cynefinoedd nythu ar gyfer anifeiliaid di-asgwrn-cefn? Gallech chi wedyn ymweld â'r rhannau yma o'ch gardd a synnu ar yr hyn sy'n byw, nythu a bwydo dim ond eiliadau o'r tu allan i'ch drws.
Os does dim gardd gyda chi, gallwch chi gymryd rhan mewn gweithgareddau casglu sbwriel gerllaw, monitro peth o'r bywyd gwyllt pan fyddwch chi allan yn yr awyr agored a rhoi gwybod am yr hyn rydych chi'n ei weld. Hefyd, gallwch chi ein helpu i gael gwared ar rywogaethau ymledol fel Jac y Neidiwr o'n cefn gwlad trwy ei dynnu o'i wreiddiau pan fydd yn ei flodau.
Beth arall allwn i ei wneud?
Mae yna lawer o achlysuron lleol a chenedlaethol y mae modd i chi gymryd rhan ynddyn nhw. Mae rhai ohonyn nhw wedi'u rhestru ar ein tudalen Achlysuron. Mae modd i chi wirfoddoli gyda ni a chymryd rhan yn ein hymgyrch 'Gafal yn eich Rhaca'.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud gwaith cadwraeth ymarferol, mae modd i chi hefyd ymuno â Phartneriaeth Natur Leol RhCT a dysgu rhagor am yr hyn y mae rhai o'n grwpiau gwirfoddol lleol yn ei wneud yn eich ardal chi.