Skip to main content

Partneriaeth Natur Leol RhCT

Cyfuniad o sefydliadau, pobl a chymunedau sydd â diddordeb mewn gweithredu dros fyd natur yn Rhondda Cynon Taf yw Partneriaeth Natur Leol RhCT, a gafodd ei sefydlu ym 1998.

Nod y bartneriaeth yw cynllunio a chyflawni camau gweithredu ar gyfer natur yn y sir. Mae'r bartneriaeth yn codi ymwybyddiaeth, cofnodi, diogelu a rheoli ardaloedd er budd natur, ac yn y pen draw er budd ein cymunedau lleol.

Mae yna nifer o weithgareddau y mae modd i gymunedau lleol gymryd rhan ynddyn nhw, o gael gwared ar Jac y Neidiwr i godi sbwriel, a hynny drwy gynnal arolygon a theithiau cerdded i weld bywyd gwyllt.

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn gwneud rhywfaint o waith cadwraeth neu os oes gyda chi ddiddordeb yn ein gwaith, mae modd i chi ein dilyn ni ar Facebook neu Twitter@RCTLNPneu ymweld â thudalennau ein gwefan.