Skip to main content

Proses Ardoll Seilwaith Cymunedol

Mae'r canlynol yn nodi'r prosesau sy'n ymwneud â chodi a chasglu Ardoll Seilwaith Cymunedol.

CAM 1
Rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais am ddatblygiad a fydd, neu efallai a fydd, yn atebol i Ardoll Seilwaith Cymunedol gyflwyno Ffurflen Cwestiynau Ychwanegol cyn i Gais Cynllunio gael ei ddilysu. Ym mwyafrif yr achosion, bydd y Ffurflen Cwestiynau Ardoll Seilwaith Cymunedol yn cynnwys gwybodaeth ddigonol i'r Cyngor allu cyfrifo'r atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol. Serch hynny, efallai y bydd angen rhagor o wybodaeth mewn rhai achosion, fel ceisiadau mawr neu gymhleth.

Os ydych chi'n gwybod pwy fydd yn atebol i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol, fe fyddai o gymorth pe bai'r Ffurflen Derbyn Atebolrwydd hefyd yn cael ei chyflwyno gyda'r cais cynllunio.

Fydd y Cyngor ddim yn dilysu ceisiadau cynllunio nes ei fod wedi derbyn Ffurflen Cwestiynau Ychwanegol Ardoll Seilwaith Cymunedol.

CAM 2
Pan fydd y Cyngor yn rhoi caniatâd cynllunio, bydd ef yn cyflwyno Hysbysiad Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol, ynghyd â'r Hysbysiad o Benderfyniad. Mewn sefyllfaoedd lle caiff caniatâd ei roi ar apêl, caiff yr Hysbysiad Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol ei gyflwyno cyn gynted ag y bo modd ar ôl i benderfyniad yr apêl gael ei gyflwyno.

Mae'r Hysbysiad Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol yn nodi cyfanswm yr Ardoll Seilwaith Cymunedol sy'n ddyledus ar gyfer y datblygiad. Os yw'r sawl sy'n gwneud cais yn ystyried bod y swm wedi cael ei gyfrifo yn anghywir, fe gânt wneud cais a gofyn i'r Cyngor ei ail-gyfrifo. Os yw'r sawl sy'n gwneud cais, ar ôl ail-gyfrifo’r gost, yn dal i ystyried o hyd fod y swm yn anghywir, fe gânt apelio'r penderfyniad. Mae rhagor o wybodaeth sy'n ymwneud ag apeliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol i'w chael yn Nodyn Cyfarwyddyd 8: Gweithdrefn Apeliadau

CAM 3
Cyn cychwyn y datblygiad, rhaid anfon dwy ffurflen i'r Cyngor. Dyma nhw:

Ffurflen Ardoll Seilwaith Cymunedol - Derbyn Atebolrwydd Dyma'r ffurflen sy'n gadael i'r Cyngor wybod pwy fydd yn atebol am dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol sy'n ymwneud â'r datblygiad. Os yw'r ffurflen hon heb ei chyflwyno eto, bydd raid ei chyflwyno cyn i unrhyw ddatblygiad gychwyn.

Ffurflen Ardoll Seilwaith Cymunedol - Hysbysiad Cychwyn  Dyma'r ffurflen sy'n gadael i'r Cyngor wybod pryd bydd y datblygiad yn cychwyn, ac yn ffurfio sylfaen y dyddiadau y daw'r taliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol yn ddyledus.

Os na chyflwynir y ffurflenni hyn i'r Cyngor cyn i'r datblygiad gychwyn, bydd gordaliadau cosb yn berthnasol, a bydd y person sy'n atebol i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol sy'n ymwneud â'r datblygiad yn colli'r hawl i dalu mewn rhandaliadau. Cewch gyflwyno'r Ffurflen Derbyn Atebolrwydd, ynghyd â'r cais cynllunio, (neu ar unrhyw bryd rhwng cyflwyno'r cais a chychwyn y datblygiad) pan fydd yn hysbys pwy fydd yn derbyn atebolrwydd i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

CAM 4
Pan mae datblygiadau yn gymwys ar gyfer tai fforddiadwy, hunan-adeiladu, neu elusen, rhaid i'r datblygwr yrru Ffurflen Ardoll Seilwaith Cymunedol - Hawlio a Gwneud Cais am Eithriad i'r Cyngor. Mae hawl gwneud cais am y rhyddhad hwn dim ond ar ôl i'r Ffurflen Derbyn Atebolrwydd gael ei gyrru i'r Cyngor. Rhaid iddi gael ei hanfon gan y person sydd wedi derbyn atebolrwydd am dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.

Ceisiadau am Eithriadau Hunan-adeiladu

Dylid cyflwyno ceisiadau am eithriad hunan-adeiladu (yn ymwneud â thŷ cyfan) ar ffurflen SB1-1: Ffurflen Hawlio Eithriad Hunan-Adeiladu Rhan 1 i'w dilyn gan wybodaeth ategol, pan fydd y datblygiad wedi'i gwblhau, ar ffurflen SB1-2: Ffurflen Hawlio Eithriad Hunan-Adeiladu Rhan 2

Dylid cyflwyno ceisiadau am eithriad hunan-adeiladu sy'n ymwneud ag annecs neu estyniad preswyl ar ffurflen SB2: Ffurflen Hawlio Eithriad Hunan-Adeiladu Annecs neu Estyniad

Croeso ichi gyfeirio at Nodyn Cyfarwyddyd 5: Eithriadau ar gyfer Eiddo Hunan-Adeiladu, Estyniadau ac Anecsys, pe hoffech chi ragor o wybodaeth am ddatblygiadau hunan-adeiladu.

Os bydd y datblygiad yn cychwyn cyn i'r Cyngor benderfynu swm y Rhyddhad, a chyhoeddi Hysbysiad Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol diwygiedig, bydd y cais am ryddhad yn dod i ben, ac ni chaiff rhyddhad ei roi. Mae rhagor o wybodaeth am hawlio rhyddhad i'w chael ar Nodiadau Cyfarwyddyd 3: Rhyddhad Datblygu Elusennol, 4: Rhyddhad Tai Cymdeithasol (Croeso ici gyfeirio hefyd at bolisi Rhyddhad Tai Cymdeithasol drwy Ddisgresiwn y Cyngor), a 5: Eithriadau i Eiddo Hunan-Adeiladu, Estyniadau ac Anecsys ac yn 'Canllaw Ardoll Seilwaith Cymunedol' Llywodraeth San Steffan, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014.

CAM 5
Ar ôl i'r Cyngor dderbyn y Ffurflen Ardoll Seilwaith Cymunedol - Hysbysiad Cychwyn, bydd yn cyhoeddi Hysbysiad Galw i Dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol i'r person neu bersonau sydd wedi derbyn atebolrwydd i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Mae'r Hysbysiad hwn yn nodi erbyn pa ddyddiad y bydd raid talu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Yn ogystal â hynny, mae'r Hysbysiad yn nodi'r swm sy'n ddyledus ym mhob rhandaliad, ac erbyn pa ddyddiad y bydd raid ei dalu.

Mae'r Polisi Rhandaliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol yn nodi polisi'r Cyngor ynghylch talu mewn rhandaliadau. Os na chaiff taliad ei wneud erbyn y dyddiad priodol, bydd gordaliadau cosb yn gymwys. Nid oes gan y Cyngor yr hyblygrwydd i ohirio'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn yr un ffordd ag y caiff mewn perthynas â rhwymedigaethau cynllunio. Mae modd gorfodi talu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, drwy'r Llysoedd a thrwy'r broses gynllunio. Mae Nodyn Cyfarwyddyd 7: Canlyniadau posibl peidio â thalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn darparu rhagor o wybodaeth am bryd y bydd gordaliadau yn berthnasol, ac ar ba lefel y cânt eu gosod. Os na chaiff rhandaliad ei dalu, bydd y Polisi Rhandaliadau yn peidio i fod yn gymwys a bydd cyfanswm yr Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol i'w dalu ar unwaith.

CAM 6
Ar ôl i'r Cyngor dderbyn y taliad Ardoll Seilwaith Cymunedol, bydd yn cydnabod derbyn y taliad. Pan gaiff taliad terfynol ei dderbyn sy'n ddyledus o ran datblygiad, caiff yr Arwystl Ardoll Seilwaith Cymunedol ei symud o'r Gofrestr Arwystlon Tir.

Bydd y broses hon yn gymwys ym mwyafrif helaeth yr achosion. Serch hynny, y mae ychydig sefyllfaoedd i'w cael lle efallai bydd y broses yn wahanol. Er enghraifft:

  • Lle mae'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn daladwy ar ddatblygiadau a ganiateir, neu ar ddatblygiadau a ganiateir o dan gydsyniad cyffredinol, fel Gorchymyn Datblygu Lleol neu Ganiatâd Hysbysiad Ymlaen Llaw.
  • Pan fydd pobl yn tynnu'n ôl, neu'n trosglwyddo, eu hatebolrwydd i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.