C. 1. Beth yw Seilwaith?
Mae Deddf Cynllunio 2008 yn rhoi diffiniad eang o seilwaith, gan ddatgan y gallant gynnwys y canlynol:
- Ffyrdd a chyfleusterau trafnidiaeth a chludiant eraill;
- Amddiffynfeydd rhag llifogydd
- Ysgolion a chyfleusterau addysgol eraill
- Cyfleusterau meddygol
- Mannau agored
Cyfleusterau chwaraeon a hamdden
C. 2. Pam y dylai datblygiad gyfrannu tuag at seilwaith?
Bydd datblygiadau newydd bron bob amser yn effeithio ar seilwaith. Bydd gwahanol effeithiau gan ddatblygiadau o wahanol fathau a graddfeydd. Fe ddichon, er enghraifft na fydd annedd sengl newydd i'w gweld yn effeithio ryw lawer. Ond hanes hollol wahanol fydd hi gydag effaith gronnus nifer o anheddau sengl. O dan y cytundebau yn Adran 106, dim ond datblygu ar raddfa fawr fyddai'n talu cyfran tuag at gostau'r seilwaith , gwasanaethau, ac amwynderau y bydd pawb yn eu defnyddio. Ond mae'n deg bellach bod bob datblygiad newydd yn talu hefyd.
C. 3. Pam mae tair o wahanol gyfraddau ar gyfer datblygu preswyl?
Mae tystiolaeth glir i'w chael o wahanol brisiau tai mewn gwahanol rannau o Rondda Cynon Taf. Yn ôl yr adroddiad hyfywedd a gomisiynwyd gan y Cyngor, ni fyddai ardaloedd ym Mharth 1 yn ariannol hyfyw pe câi tâl Ardoll Seilwaith Cymunedol ei godi. Ym Mharth 2, ar y llaw arall, fe gafwyd y byddai cyfradd o £40 fesul pob metr sgwâr, ac ym Mharth 3, yn rhannau deheuol Rhondda Cynon Taf , fe gafwyd fod cyfradd uwch o £85 fesul pob metr sgwâr yn hyfyw.
C. 4. Pam mae rhai mathau penodol o ddefnydd ar gyfradd sero yn y Rhestr Daliadau?
A. Mae'r Cyngor wedi pennu'r gyfradd ar gyfer rhai mathau penodol o ddatblygiad ar £0 fesul pob metr sgwâr er mwyn iddynt aros yn ariannol hyfyw. Mae'r defnyddiau hynny yn cynnwys defnyddiau A3 (megis tafarndai a chaffis), B1 Busnes, B2 Diwydiant Cyffredinol, a B8 Gwasanaethau storio neu ddosbarthu, C1 Gwestai, C2 Sefydliadau Preswyl (megis cartrefi nyrsio, ysgolion preswyl, colegau a chanolfannau hyfforddi preswyl) a defnyddiau D1 a D2 (megis clinigau, canolfannau iechyd, addoldai, neuaddau eglwysi, chwaraeon dan do, a champfeydd). Gan hynny, fydd datblygiad o'r math hwn ddim yn talu'r ardoll.
C. 5. Beth os yw'r Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol yn aneglur?
Os nad yw hi'n glir ynghylch pa un a fydd datblygiad yn agored i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ai peidio, rydym ni'n argymell y dylid cyflwyno'r Ffurflen Cwestiynau Ychwanegol. Bydd modd wedyn i'r Cyngor benderfynu a fo'r datblygiad yn agored i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
C. 6. Beth am Rwymedigaethau Cynllunio Adran 106?
Er bod yr Ardoll Seilwaith Cymunedol wedi dod i rym, nid yw'r gallu i ddefnyddio rhwymedigaethau cynllunio Adran 106 (yn unol â dogfen y Cyngor 'Canllawiau Cynllunio Atodol: Rhwymedigaethau Cynllunio') wedi cael ei ddiddymu. Serch hynny, y mae Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 yn cyflwyno cyfyngiadau statudol ar y defnydd o rwymedigaethau cynllunio pan fydd Ardoll Seilwaith Cymunedol yn dod i rym.
Mae'r cyfyngiadau yn cynnwys y ddarpariaeth na chaiff y Cyngor sicrhau rhwymedigaethau cynllunio drwy drefniadau Adran 106 ar gyfer math o seilwaith pan fydd wedi cael ei bennu o'i gyflwyno drwy'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ar restr Rheoliad 123. Nod y ddarpariaeth hon yw sicrhau na fydd y Cyngor yn codi tâl ddwywaith am yr un eitem o seilwaith – caiff ei darparu naill ai drwy'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, neu drwy Adran 106, ond nid y ddwy.
Diben y cyfyngiadau hyn yw gofalu na fydd y Cyngor yn defnyddio Adran 106 ond yn unig i sicrhau cael rhwymedigaethau cynllunio sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r datblygiad, heb fod yn cael ei ddarparu drwy'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, ac sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi caniatâd cynllunio. Enghreifftiau o hyn fyddai sicrhau cael tai fforddiadwy (sydd tu allan i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol), neu groesfan i gerddwyr y mae'n ofynnol i liniaru effaith benodol. Mae dogfen Rhwymedigaethau Cynllunio'r Cyngor: Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) (yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor ar hyn o bryd) yn darparu arweiniad ar yr amgylchiadau lle ceisir am rwymedigaethau cynllunio, yn ogystal â chyngor ar natur debygol y rhwymedigaethau.
C. 7. Beth am geisiadau Adran 73?
Mae ceisiadau o dan Adran 73 o Ddeddf Cynllunio 1990 yn achos arbennig. Mewn achosion pontio lle rhoddwyd y caniatâd cynllunio gwreiddiol cyn i dâl Ardoll Seilwaith Cymunedol gael ei chyflwyno, ond fod y cais Adran 73 wedi'i ganiatáu yn dilyn cyflwyno'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, fydd y caniatâd Adran 7 ddim yn sbarduno'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ond yn unig ar gyfer unrhyw atebolrwydd ychwanegol (megis cynnydd arwynebedd llawr) y mae'n ei gyflwyno i'r datblygiad. Ar ôl i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol gael ei chyflwyno, mae'r Rheoliadau yn darparu ar gyfer gwrthbwyso taliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â chaniatâd blaenorol yn erbyn unrhyw atebolrwydd pellach sy'n codi yn unol â chaniatâd Adran 7. Gellir asesu hyn pan fydd ffurflenni wedi cael eu cyflwyno.
C.8. Ar ba ddiwrnod y bydd caniatâd cynllunio yn caniatáu datblygiad gyntaf?
Diffinnir y diwrnod y bydd caniatâd cynllunio yn caniatáu'r datblygiad taladwy gyntaf fel a ganlyn:
- ar gyfer ceisiadau llawn, y dyddiad pryd y rhoir caniatâd cynllunio, oni bai fod y datblygiad yn raddol fesul cam, ac os felly efallai mai dyddiad cymeradwyaeth derfynol yr amodau cyn-cychwyn ar gyfer y cam hwnnw fydd hynny.
- ar gyfer caniatadau cynllunio amlinellol, dyddiad cymeradwyo'n derfynol y mater olaf a gadwyd yn ôl, neu, os yw'r datblygiad i fod yn raddol fesul cam, naill ai dyddiad cymeradwyo'r mater olaf a gadwyd yn ôl ar gyfer un o'r camau, neu, os yn gynharach a thrwy gytundeb ysgrifenedig gan yr awdurdod casglu, dyddiad cymeradwyo'n derfynol yr amodau cyn-cychwyn sy'n gysylltiedig â'r cam hwnnw.
yn achos datblygiad a ganiateir o dan ganiatâd cyffredinol, y diwrnod y mae'r awdurdod casglu yn derbyn hysbysiad o'r datblygiad taladwy a gyflwynwyd iddo yn unol â Rheoliad 64, neu, os na chyflwynir hysbysiad o ddatblygiad taladwy iddo yn unol â Rheoliad 64, y diwrnod y cyflwynwyd hysbysiad o ddatblygiad taladwy i'r person diwethaf yn unol â Rheoliad 64A(3).
C. 9. Sut caiff Ardoll Seilwaith Cymunedol ei chyfrifo?
Swm yr Ardoll Seilwaith Cymunedol sy'n daladwy fydd arwynebedd llawr trethadwy net yr adeilad, wedi'i luosi â chyfradd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, wedi'i addasu ar gyfer chwyddiant. O ran anheddau newydd, mae cyfradd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn amrywio yn ôl parthau daearyddol. Mae garejys ac adeiladau ategol eraill sy'n ffurfio rhan o'r cynigion, cynlluniau, a bwriadau arfaethedig y ceisir caniatâd cynllunio ar eu cyfer, yn agored i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Mae'r arwynebedd llawr trethadwy net yn gyfwerth ag arwynebedd mewnol gros y datblygiad taladwy, gan ddidynnu arwynebedd mewnol gros unrhyw adeiladau presennol a chwrdd â'r meini prawf o fewn safle'r cais.
Defnyddir fformiwlâu safonol wedi'u diffinio ar gyfer Cymru a Lloegr yn Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol i bennu'r Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol Mae'r taliadau yn Rhestr Daliadau'r Cyngor yn rhan o sail y cyfrifo.
Mae'r gwaith cyfrifo yn cynnwys lluosi cyfradd codi tâl y Cyngor â'r cynnydd net yn yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, gan addasu ar gyfer chwyddiant.
Mynegai chwyddiant yw'r Mynegai Prisiau Tendro Cynhwysfawr, a gyhoeddir gan Wasanaeth Gwybodaeth Costau Adeiladu Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Y ffigur a ddefnyddir ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol yw'r ffigur ar gyfer mis Tachwedd y flwyddyn flaenorol.
C. 10. A yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn daladwy ar garejys a chysgodfeydd ceir?
Mae garejys sy'n rhan annatod o geisiadau cynllunio am dai newydd yn cyfrif fel arwynebedd llawr preswyl. Maent yn agored i'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, boed yn annatod i ddyluniad y tŷ newydd ai peidio,
Fydd cais am garej newydd ar gyfer annedd bresennol ddim yn agored i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol fel rheol gan y bydd yr arwynebedd llawr yn llai na 100 metr sgwâr.
Does dim Ardoll Seilwaith Cymunedol yn daladwy ar gysgodfeydd ceir.
C. 11. Ddylai croglofftydd gael eu cynnwys wrth gyfrifo'r arwynebedd llawr Ardoll Seilwaith Cymunedol?
Fyddai gofod yn y croglofft nad yw'n hygyrch yn gyffredinol ac eithrio drwy ysgol croglofft fel arwynebedd llawr trethadwy. Arwynebedd llawr trethadwy yw gofod croglofft a ddefnyddir fel ystafelloedd gyda grisiau, neu gydag ysgol barhaol. Mae hyn yn cynnwys mannau storio hygyrch.
C. 12. Isrannu tŷ yn ddau neu ragor o gartrefi.
Does dim Ardoll Seilwaith Cymunedol oni bai fod arwynebedd llawr ychwanegol yn cael ei ddarparu. Os felly, fe geir gwneud yr arwynebedd llawr ychwanegol yn agored i’r Arddoll.
C. 13. A oes Ardoll Seilwaith Cymunedol i'w chodi a'i thalu ar gartrefi symudol?
Nac oes. Chaiff Ardoll Seilwaith Cymunedol mo’i chodi ond ar adeiladau yn unig. Nid adeiladau fel y'u diffinir yn ôl y Gyfraith mo gartrefi symudol. Gan hynny, fyddai dim Ardoll Seilwaith Cymunedol ar eu cyfer oni ystyrir taw adeilad yw'r cynllun arfaethedig.
C. 14. Sefyllfaoedd pan y caiff datblygiad wneud cais am ryddhad o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
Bydd raid i Ddatblygiad sy'n Agored i’r Ardoll Seilwaith Cymunedol dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn unol â'r cyfraddau a nodir yn y Rhestr Daliadau. Serch hynny, mewn rhai sefyllfeydd penodol fe ddichon y caiff datblygiad wneud cais am ryddhad o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Efallai bydd ryddhad o'r Ardoll ar gael mewn pump o enghreifftiau penodol. Rhyddhad Elusennol, Rhyddhad Tai Cymdeithasol, Rhyddhad Amgylchiadau Eithriadol, ac Eithriad ar gyfer tai, estyniadau, rhandai, hunan-adeiladu. Serch hyn, fydd dim rhyddhad o'r Ardoll yn gymwys oni bai fod yr hawliwr yn berchen ar fuddiant perthnasol yn y tir perthnasol.
Mae'r Cyngor wedi penderfynu peidio â hoi rhyddhad eithriadol o atebolrwydd i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol ar unrhyw ddatblygiad taladwy. Bydd hyn, serch hynny, yn amodol ar adolygiad yn y dyfodol.
Croeso i chi gyfeirio at y Nodiadau Canllaw canlynol os am weld rhagor o wybodaeth.Nodyn Canllaw 3:Rhyddhad Datblygiad Elusennol, Nodyn Canllaw 4: Rhyddhad Tai Cymdeithasol (Cyfeirer hefyd at Bolisi Rhyddhad Tai Cymdeithasol drwy Ddisgresiwn y Cyngor) Nodyn Canllaw 5: Eithriadau ar gyfer Eiddo Hunan-Adeiladu, Estyniadau, a Rhandai,
C. 15. Beth os yw adeiladau presennol yn cael eu dymchwel, neu’u haddasu/trosi?
Byddai modd didynnu Arwynebedd Mewnol Gros unrhyw adeiladau presennol ar y tir y mae caniatâd cynllunio yn ymwneud ag ef ac sydd i fod i gael eu chwalu, eu dymchwel, neu'u hailddefnyddio, o gyfrifo Atebolrwydd Ardoll Seilwaith Cymunedol ar yr amod eu bod yn adeiladau parhaol a sylweddol. Serch hynny, ni chynhwysir didyniadau ond yn unig lle mae'r adeiladau hynny wedi bod mewn defnydd cyfreithlon am gyfnod parhaol o chwe mis o leiaf yn ystod a y cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar y diwrnod y mae caniatâd cynllunio yn caniatáu'r datblygiad taladwy gyntaf? (Gweler cwestiwn 8). Yn y cyd-destun hwn, ystyr 'mewn defnydd' yw fod rhan o leiaf o'r adeilad wedi bod mewn defnydd. Mae 'defnydd cyfreithlon' yn ddefnydd, gweithrediad, neu weithgaredd y defnyddir adeilad ar ei gyfer, sy'n gyfreithiol a at ddibenion rheolaeth cynllunio ac mae'r term ('mewn defnydd') at ddibenion yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn cynnwys defnyddio'r cyfan neu ran o'r adeilad at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â'r defnydd cyfreithlon.
Lle nad yw adeilad presennol yn bodloni'r gofynion chwe mis o ddefnydd cyfreithlon, ni chymerir ei chwalu a'i ddymchwel, i ystyriaeth. Os yw dymchwel yn rhan o'r sefyllfa, mae'n bwysig fod Ffurflen Cwestiynau Ychwanegol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn pennu yn glir ddefnydd cyfreithlon, lleoliad, ac arwynebedd llawr pob un o'r adeiladau sydd i'w dymchwel, a bod y cynlluniau ar raddfa a gyflwynir gyda'ch cais yn dangos yn glir yr adeiladau a ddymchwelir, yn ogystal ag unrhyw adeiladau newydd arfaethedig.
Cyfrifoldeb y ceisydd yw darparu tystiolaeth i'r perwyl fod adeilad neu adeiladau yn strwythur parhaol a sylweddol, mewn defnydd cyfreithlon, a bod y cyfan neu ran o'r adeilad wedi bod mewn defnydd am gyfnod parhaol o chwe mis o leiaf yn ystod y cyfnod o chwe miso leiaf sy'n dod i ben ar y diwrnod y mae caniatâd cynllunio yn caniatáu'r datblygiad taladwy gyntaf.
Dylai rhai sy'n gwneud cais fod yn deall fod y Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol yn caniatáu i Awdurdod dybio fod arwynebedd mewnol gros adeilad yn sero at bwrpasau didyniad os nad oes ganddo wybodaeth ddigonol, neu os yw'r wybodaeth o ansawdd digonol i ganfod yn glir beth yw mannau o ddefnydd cyfreithlon.
Diffiniad 'mewn defnydd' Mae diffiniad 'mewn defnydd' i'w gael yn Rheoliad 40(11) o Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'u diwygiwyd). Mae hwn yn datgan fod 'adeilad mewn defnydd' yn adeilad sydd
"yn cynnwys darn sydd wedi bod mewn defnydd cyfreithlon am gyfnod parhaol o chwe mis o leiaf yn ystod cyfnod o dair blynedd sy'n dod i ben ar y diwrnod y mae caniatâd cynllunio yn caniatáu'r datblygiad taladwy gyntaf"
C. 16. Beth os yw fy natblygiad i yn Ddatblygiad a Ganiateir, neu'n Ddatblygiad i'w Gymeradwyo Ymlaen Llaw
Mae d datblygiadau a ganiateir o dan ganiatâd cyffredinol, megis datblygu a ganiateir, neu gymeradwyaeth ymlaen llaw, yn agored i’r Ardoll Seilwaith Cymunedol, hynny yw, cyfrifir eu ffïoedd yn unol â Rhestr Daliadau'r Cyngor. A ydych chi'n bwriadu cychwyn datblygiad o dan ganiatâd cyffredinol? A yw'r datblygiad yn agored i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol? Bydd raid i chi gyflwyno Hysbysiad o Ddatblygiad Taladwy i'r Cyngor cyn i chi gychwyn y datblygiad. Yna fe gyfrifir tâl yr Ardoll Seilwaith Cymunedol wedyn, a'i gymhwyso fel pe bai caniatâd cynllunio wedi cael ei roi.
C. 17. A gaiff taliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol eu talu yn raddol fesul cam?
Yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, fe geir isrannu cais cynllunio yn gyfnodau at ddibenion yr Ardoll. Mae'r Rheoliadau yn caniatáu trin caniatâd manwl yn ogystal â chaniatâd amlinellol, a chaniatâd hybrid hefyd, fel datblygiad graddol fesul cam at ddibenion yr Ardoll. Gan hynny, fe fyddai pob cam yn ddatblygiad taladwy ar wahan, ac o'r herwydd i'w dalu yn unol â Pholisi Rhandaliadau'r Cyngor.
C. 18.Dyw fy natblygiad i ddim yn hyfyw: beth yw fy opsiynau?
Anfonwyd y cyfraddau a nodir yn y Rhestr Daliadau i'w harchwilio'n annibynnol. Casgliad yr archwiliad oedd fod y cyfraddau cyffredinol ar gyfer datblygiadau manwerthu a datblygiadau preswyl (wedi'u rhannu yn barthau 1, 2, a 3) ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf wedi'u seilio ar dybiaethau rhesymol ynglŷn â gwerthoedd datblygu lleol a chostau tebygol ar hyn o bryd. Bydd raid i bob un o'r holl ganiatadau cynllunio sy'n agored i dalu Ardoll Seilwaith Cymunedol ar neu ar ôl dyddiad gweithredu Ardoll Seilwaith Cymunedol y Cyngor dalu cyfradd yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn unol â'r Rhestr Daliadau.
Er nad yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol yn agored i'w negodi, ac eithrio ar gyfer Rhyddhad Tai Cymdeithasol a Rhyddhad Elusennol, fe geir cyflwyno dadl hyfywedd i adolygu'r rhwymedigaethau cynllunio o fewn y Gytundeb Adran 106. Os ystyrir gan hynny fod hyfywedd yn broblem, dyma'r opsiynau a fydd ar gael:
Nodi a dangos a fo'r cynllun yn bodloni un neu ragor o'r meini prawf rhyddhad.
Cyflwyno asesiad hyfywedd i adolygu lefel y rhwymedigaethau cynllunio yn y Gytundeb Adran 106.
Croeso i chi gyfeirio at ddogfen y Cyngor Canllawiau Cynllunio Atodol Rhwymedigaethau Cynllunio ar Gyfraniadau Datblygwyr.
C. 19.Beth sy'n digwydd os na fyddaf yn talu'r ffi?
Yn wahanol i rwymedigaethau Adran 106, nid proses a negodir yw'r Ardoll Seilwaith Cymunedol. Os yw datblygiad yn agored i dalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, bydd talu yn orfodol. Mae pwerau gorfodi a chosbau i'w cael am fethu â thalu, gan gynnwys hysbysiadau atal, gordaliadau, llog am dalu a thaliadau hwyr, a chyfnodau o garchar. Mae gwybodaeth ychwanegol i'w cael yn Nodyn Cyfarwyddyd, Canllaw, ac Arweiniad Ardoll Seilwaith Cymunedol 7: Canlyniadau posibl peidio neu fethu â thalu'r Ardoll Seilwaith Cymunedol.
C. 20. A fydd y Cyngor yn trefnu fod rhyddhad drwy ddisgresiwn o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn amgylchiadau eithriadol ar gael?
Nid yw'r Cyngor wedi trefnu fod rhyddhad drwy ddisgresiwn o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn amgylchiadau eithriadol ar gael yn ei ardal. Serch hynny, y mae'r Cyngor wedi gwneud darpariaeth i gyflwyno'r cyfryw ryddhad os daw angen i'w gynnig i'r amlwg, Nid yw'r Cyngor yn dymuno arwain datblygwyr i'r casgliad y trefnir fod y cyfryw ryddhad ar gael fel arfer. Disgwylir y bydd yr amgylchiadau lle y ceir sicrhau fod y cyfryw ryddhad ar gael yn wirioneddol eithriadol.
Dylai datblygwyr nodi fod bodolaeth cytundeb Adran 106 a wnaed eisoes yn un o'r amodau am gynnig rhyddhad drwy ddisgresiwn o'r Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn amgylchiadau eithriadol. Gan hynny, mae'r Cyngor yn deall na cheir cynnig rhyddhad drwy ddisgresiwn mewn amgylchiadau eithriadol ond yn unig lle mae amgylchiadau economaidd yn newid yn sylweddol a bod y datblygwr yn gallu dangos fod yr amgylchiadau o fath fel bod newid yr amgylchiadau wedi amharu'r datblygiad yn arwyddocaol.
C. 21. A oes cwmpas er mwyn gwneud taliad mewn da yn y taliad Ardoll Seilwaith Cymunedol gofynnol mewn arian parod?
Yn unol â rheoliad 73, 73A, 73B a 74 o Reoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'i diwygiwyd), bydd Rhondda Cynon Taf, ac yntau'n awdurdod codi tâl yr ardal, yn caniatáu talu Arddoll Seilwaith Cymunedol drwy daliadau tir neu daliadau isadeiledd. Mae'r mecanwaith o 'daliad mewn nwyddau' yn cael ei gynnig yn ôl disgresiwn y Cyngor. Os ydych chi eisiau talu am Arddoll Seilwaith Cymunedol gan ddefnyddio un o'r dulliau yma, dylech chi drafod hyn â'r Cyngor cyn gynted â phosibl.Mae'r Polisi Taliad mewn Nwyddau – Taliad Tir ac Isadeiledd Policy yn weithredol o'r 16 Medi 2016.