Skip to main content

Prynu Sedd ar Gludiant Ysgol ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2023/24

Cyflwyno cais

Mae'r cyfnod cyflwyno cais yn dechrau ddydd Llun 24 Gorffennaf 2023. Bydd angen i chi gyflwyno cais i brynu sedd drwy lenwi ffurflen gais ar-lein neu drwy ffonio’r adran Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001. 

  • Fydd ffurflenni cais sy'n dod i law cyn dydd Llun 24 Gorffennaf 2023 ddim yn cael eu hystyried
  • Rhaid llenwi pob adran o'r ffurflen. Fydd ffurflenni sydd dim ond wedi'u llenwi’n rhannol ddim yn cael eu prosesu.
  • Fydd llenwi ffurflen gais ddim yn gwarantu y byddwch chi'n cael prynu sedd. Dim ond hyn a hyn o seddi gwag sydd, ac efallai y bydd y galw yn fwy na'r hyn sydd ar gael.
  • Bydd seddi gwag yn cael eu gwerthu ar sail y cyntaf i'r felin
  • Fydd arosfannau bysiau ychwanegol ddim yn cael eu hychwanegu at wasanaethau Cludiant Ysgol ar gyfer disgyblion sydd â dim hawl i gludiant ysgol am ddim
  • Peidiwch â chysylltu â’r Cyngor i holi am gynnydd eich cais. Nodwch, pan ac os bydd sedd ar gael i’w phrynu, byddwn ni’n cysylltu â chi.
Prynu Sedd ar Gludiant Ysgol 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Os bydd sedd ar gael i'w phrynu, byddwch yn derbyn e-bost gyda chyfarwyddiadau ar sut i gyrchu system talu ar-lein y Cyngor. Bydd yr e-bost yn cynnwys rhif cyfeirnod eich plentyn. Byddwch chi angen y rhif yma er mwyn i ni allu prosesu'ch taliad. Bydd y sedd yn cael ei rhyddhau unwaith i'r taliad gael ei dderbyn. Mae modd i gwsmeriaid gyflwyno cais ysgrifenedig i dalu yn fisol mewn amgylchiadau eithriadol. Caiff ceisiadau o'r fath eu trin yn unigol.

Os ydych chi'n prynu sedd a bod nifer y plant sy'n gymwys i deithio am ddim yn cynyddu yn ystod y tymor, mae'n bosib fydd dim digon o seddi ar gael. Os felly, fyddwn ni ddim yn gallu caniatáu i'ch plentyn deithio. Os ydy'r sefyllfa yma'n codi, bydd ad-daliad ar sail 'pro rata' yn cael ei roi i chi ar gyfer gweddill y flwyddyn.      

Cost gyfredol y sedd ar gyfer y flwyddyn academaidd yw £140.25 (£147.30 o fis Medi 2024) ac mae hwn i'w dalu'n llawn ar gyfer y flwyddyn academaidd neu ar sail 'pro rata' yn unol â'r dyddiad y mae'r sedd yn cael ei ryddhau. Fyddwn ni ddim yn gwerthu sedd ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24 i unrhyw gwsmer sydd heb dalu am seddi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Dydy’r Cyngor ddim yn goddef unrhyw fath o ymddygiad treisgar neu fygythiol tuag at ei weithwyr. Os bydd unrhyw gwsmer yn dangos ymddygiad o’r fath, fydd ei hawl i wneud cais i brynu sedd yn cael i dynnu oddi wrtho/wrthi. Bydd unrhyw ohebiaeth bellach yn cael ei hanfon yn ysgrifenedig ac nid ar lafar.