Skip to main content

Cludiant ar gyfer plant ag Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)

A oes gan fy mhlentyn hawl i gludiant ar gyfer plant sydd ag Anghenion Addysgol Arbennig?

Os ydych chi wedi cael llythyr gan y Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Addysgol Arbennig sy'n cadarnhau bod eich plentyn wedi cael ei dderbyn i ysgol neu ddosbarth cymorth dysgu, ac os yw un o'r datganiadau canlynol yn wir, bydd gan eich plentyn hawl i gludiant Anghenion Addysgol Arbennig :-

  • Mae eich plentyn mewn oed i ymuno ag ysgol gynradd; mae'n byw 1.5 milltir neu fwy o'r ysgol neu'r dosbarth cymorth dysgu mwyaf addas; ac mae Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Addysgol Arbennig wedi cadarnhau hynny.
  •  Mae eich plentyn mewn oed i ymuno ag ysgol uwchradd; mae'n byw 2 filltir neu fwy o'r ysgol neu'r dosbarth cymorth dysgu mwyaf addas; ac mae Gwasanaeth Gweinyddu Anghenion Addysgol Arbennig wedi cadarnhau hynny.

Os yw un o'r datganiadau uchod yn wir, rhaid i chi wneud cais am sedd ar drafnidiaeth Anghenion Addysgol Arbennig drwy glicio ar y ddolen isod a thrwy gwblhau cais yn llawn dros bob plentyn unigol. Caiff ffurflenni anghyflawn eu hanfon yn ôl atoch, a bydd raid i'ch plentyn aros yn hirach am gludiant.

Rydyn ni'n deall bod unrhyw wybodaeth a gaiff ei rhannu'n gyfrinachol, a chaiff yr wybodaeth yma ei rhannu â'r bobl sydd ei hangen yn unig.  Mae'r ffurflen yma yn gofyn am wybodaeth a allai, yn ein profiad ni, gael effaith ar daith plentyn i'r ysgol ac ohoni.

Os oes angen unrhyw gymorth ychwanegol arnoch chi i gwblhau'r ffurflen yma, cysylltwch drwy ffonio 01443 425002. Fel arall, galwch heibio i un o Ganolfannau iBobUn neu lyfrgelloedd y Cyngor.

Anghenion Addysgol Arbennig - Cais am gludiant ysgol
Noder, fel arfer mae angen deg o ddiwrnodau gwaith arnom ni i drefnu cludiant.

Os nad yw eich plentyn yn bodloni'r meini prawf o ran pellter sydd wedi'u hamlinellu, neu os nad ydych chi wedi cael llythyr gan Wasanaeth Gweinyddu Anghenion Addysgol Arbennig, does dim modd darparu cludiant. Mae eithriadau i hyn yn bosibl, os oes tystiolaeth feddygol glir sy'n datgan bod problemau symudedd eich plentyn neu ei Anghenion Addysgol Arbennig yn ei rwystro rhag mynd i'r ysgol ac ohoni, hyd yn oed yng nghwmni rhywun. Dylai tystiolaeth feddygol gael ei hanfon i Uned Trafnidiaeth Integredig, Tŷ Glantaf, Uned B23, Taffs Fall Road, Ystad Ddiwydiannol Trefforest, Pontypridd, CF37 5TT.

Pryd caf wybod am drefniadau cludiant fy plentyn?

Gofalwch eich bod hi'n cysylltu mewn da bryd â'r adran derbyn disgyblion i gadarnhau yn swyddogol eich bod chi'n dymuno derbyn y ddarpariaeth arbenigol. I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch DerbynDisgyblionADY@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 281111. Pan fyddwn ni wedi derbyn eich cadarnhad, fe drefnwn ni'r math mwyaf addas o gludiant ar gyfer eich anghenion. Nodwch - efallai bydd angen neilltuo rhagor o amser ar gyfer rhai mathau o drefniadau cludiant, gan ddibynnu ar ba mor gymhleth yw anghenion y dysgwr unigol.

Pa fath o gludiant a gaiff ei ddarparu?

Bwriad y Cyngor, bob amser, yw darparu'r math gorau o gludiant a fydd yn cludo disgyblion yn ddiogel, yn gyfforddus, heb beri straen afresymol iddyn nhw. Caiff cludiant ei ddarparu gan dacsi neu fws mini gan amlaf. Serch hynny, mae'n bosibl bydd Cyllideb Trafnidiaeth Bersonol (CTB) yn cael ei chynnig i chi os yw hynny'n fwy cost-effeithiol. Mae modd cael rhagor o wybodaeth am y CTB yma.

A minnau'n rhiant neu’n ofalwr plentyn sy'n ymuno ag ysgol / dosbarth AAA, am beth rydw i'n gyfrifol?

Dylai rhieni neu ofalwyr wybod y caiff cludiant ei ddarparu i gyfeiriad y cartref ac ohono yn unig, a chaiff mannau gollwng eraill mo'u hawdurdodi.   Mae disgyblion sy'n cael gofal seibiant yn eithriad i'r amod yma, pan fo hynny yn rhan o gytundeb ffurfiol ar wahan y mae'r Cyngor yn gweithredu â'r Contractwr.

Eich cyfrifoldeb chi yw mynd â'ch plentyn i'r cerbyd ac ohono. 

Caiff pob ymdrech ei wneud i gasglu / ollwng eich plentyn wrth ymyl y palmant y tu allan i'ch cartref.  Dylai rhieni neu ofalwyr felly fod yn barod o leiaf deg munud cyn yr amser casglu / gollwng sydd wedi'i nodi gan y contractwr. Os na fydd rhieni neu ofalwyr yn y cyfeiriad cartref er mwyn gofalu am eu plentyn, yn anffodus caiff contractwyr eu cynghori i fynd â disgyblion i fan diogel, er enghraifft yr orsaf heddlu, neu'r swyddfa gwasanaethau cymdeithasol, agosaf.

A fyddaf yn cwrdd â'r gyrrwr a'r cynorthwy-ydd teithio cyn i fy mhlentyn dechrau yn yr ysgol?

Caiff pob gyrrwr a theithiwr gyfarwyddiadau i gyfarfod â phob plentyn newydd a'i rieni / gofalwyr cyn eu cludo i'r ysgol ac yn ôl. Byddan nhw hefyd yn cadarnhau amseroedd casglu a gollwng ar yr un pryd.

Beth os nad yw darparwr cludiant newydd wedi dod i ymweld â mi a'm mhlentyn?

Pan gaiff cludiant ysgol ei bennu ar gyfer eich plentyn, fe gewch chi'r wybodaeth gyswllt gan y darparwr cludiant. Os na fydd y darparwr cludiant wedi trefnu i ymweld â chi cyn i'ch cludiant ddechrau, cysylltwch â gweithredwr y gwasanaeth cludiant gan ddefnyddio'r wybodaeth gyswllt sydd wedi'i darparu i chi.

Mae'r gyrrwr neu'r cynorthwy-ydd teithio yn newid yn barhaus, ac mae hynny'n peri gofid i'm plentyn. Beth rydw i'n ei wneud?

Mae cysondeb yn ein trefniadau gyrwyr a chynorthwywyr teithio yn bwysig, yn enwedig yn achos cludo plant sydd ag anghenion arbennig. Rydyn ni'n gofyn i'n holl ddarparwyr cludiant osgoi newid gyrwyr a chynorthwywyr teithio cymaint â phosibl, a defnyddio gyrwyr a chynorthwywyr teithio gwahanol i gyflenwi yn ystod absenoldebau oherwydd salwch a gwyliau yn unig.    Os ydych chi'n darganfod bod y gyrrwr neu'r cynorthwy-ydd teithio yn newid yn rheolaidd, rhowch wybod am hynny i garfan gludiant yr ysgol naill ai drwy roi gwybod amdano ar-lein neu drwy ffonio 01443 425001.  

Pam y mae darparwr cludiant fy mhlentyn yn newid?

Yn achlysurol mae angen newid y darparwr cludiant. Caiff rhieni / gofalwyr wybod am unrhyw newidiadau i gludiant ysgol ar unwaith a byddwn ni'n osgoi peri anghyfleustra i'r plentyn cymaint â phosibl.

Beth y mae angen i mi ei wneud os bydd fy mhlentyn yn sâl neu os bydd yn aros gartref?

Os na fydd eich plentyn yn mynd i'r ysgol, oherwydd salwch neu resymau eraill, rhaid i chi gysylltu â'ch darparwr cludiant er mwyn rhoi gwybod iddo cyn gynted â phosibl. Drwy hyn, bydd teithiau diangen yn cael eu hosgoi.  Os yw'ch plentyn yn teithio'n unigol, rhowch wybod i garfan gludiant yr ysgol am hynny  drwy ffonio 01443 425001. Bydd raid i chi gysylltu â'r Ysgol yn ogystal â hynny er mwyn rhoi gwybod iddi am yr absenoldeb.

Beth y mae angen i mi ei wneud os byddaf yn symud cyfeiriad?

Os byddwch chi'n symud cyfeiriad, bydd angen i chi roi gwybod i Wasanaethau Gweinyddu Anghenion Addysgol Arbennig – 01443 744348. Bydd yn penderfynu p'un a oes hawl gan eich plentyn i fynychu'r un ysgol a'r un dosbarth cymorth dysgu o hyd. Bydd angen i garfan gludiant yr ysgol, yn sgil hynny, ailasesu p'un a oes gan eich plentyn hawl i gludiant ysgol ar sail pellter.  Pan fydd yr hawl yn cael ei gadarnhau, bydd carfan gludiant yr ysgol yn adolygu eich cais blaenorol am gludiant a bydd yn ceisio rhoi'r trefniant cludiant mwyaf addas ar waith. Gallai hyn gymryd hyd at 10 o ddiwrnodau gwaith.

Mae angen i'm plentyn fynd â meddyginiaeth i'r ysgol. A oes modd dod â hon yn y cerbyd?

Oes. Mae'n bosibl cludo meddyginiaeth i ysgol eich plentyn. Gwnewch yn siŵr bod y feddyginiaeth mewn cynhwysydd caeedig yn ei fag ysgol lle nad oes modd i blant eraill ei chael.  Bydd hefyd angen i chi roi gwybod i'r gyrrwr a/neu'r cynorthwy-ydd teithio fod meddyginiaeth yn cael ei chludo, a bydd angen i chi lenwi'r gofrestr feddyginiaeth ac offer cyn pob taith.

Nodwch: Does dim modd i ni weinyddu meddyginiaeth wrth gludo dysgwr i'r ysgol.

A minnau'n rhiant neu'n ofalwr am blentyn sy'n teithio mewn cadair olwyn neu gadair wthio, am beth rydw i'n gyfrifol?

A chithau'n rhiant / ofalwr, rhaid i chi sicrhau bod y gadair olwyn / wthio yn cael ei chadw mewn cyflwr priodol, er enghraifft gydag ategion dal, cynhalydd pen, ategion angori, dolenni, teiars llawn, brêcs parod ac ati. Dylai'r wybodaeth yma gael ei thrafod â'r darparwr cludiant pan fyddwch chi'n cyfarfod.

Os nad yw'r offer yn cyrraedd safon resymol, mae'n bosibl y caiff cludiant ei ganslo hyd nes bod y gadair olwyn / wthio yn cyrraedd y safonau diogelwch gofynnol.