Skip to main content

Newidiadau i Wasanaethau Bysiau yn Aberdâr – o fis Medi 2019

Mae nifer o newidiadau i wasanaethau'r bysiau yn ardal Aberdâr o 1 Medi, 2019. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud gan gwmni Stagecoach, oni bai bod nodyn gwahanol.

Gwasanaeth 1 Aberdâr i Aber-nant - Bydd taith ychwanegol o ddydd Llun i ddydd Sadwrn am 08.15 o Derfynfa Aber-nant mewn ymateb i geisiadau cwsmeriaid. Mae pob taith wedi'i hail-amseru i roi cysylltiadau gwell ar gyfer Aberdâr i Ysbyty Cwm Cynon.

Gwasanaeth 2 Aberdâr i Dŷ Fry - Bydd y gwasanaeth pob awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn cael ei ail-amseru i wella cysylltiadau â llwybrau eraill. Bydd y daith 19.43 yn ôl o Aberdâr yn cael ei thynnu'n ôl oherwydd ei defnydd isel.

Gwasanaeth 6 Aberdâr i Ferthyr Tudful trwy Lwydcoed - bydd teithiau ychwanegol yn gynnar yn y bore a gyda'r nos ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn am 07.05 a 18.10 o Aberdâr a 07.45 a 18.50 o Ferthyr Tudful. Oherwydd poblogrwydd cynyddol y gwasanaeth, bydd cerbydau mwy yn cael eu defnyddio ar gyfer y gwasanaeth yma, ond fydd dim modd gwasanaethu Ystad Tre Ifor mwyach. Dylai preswylwyr ddal y bws ar Heol Merthyr.

Gwasanaeth 7 Glynhafod i Benderyn trwy Aberdâr a Hirwaun - Mae pob taith wedi cael ei hail-amseru i wella cysylltiadau ar y gwasanaeth â llwybrau eraill. 

Gwasanaeth 8 Glynhafod i Lyn-nedd trwy Aberdâr, Hirwaun a'r Rhigos - Mae'r holl deithiau wedi'u hail-amseru i wella cysylltiadau, yn enwedig gyda gwasanaeth X7 First Bus yng Nglyn-nedd ar gyfer teithio i Abertawe a Chanolfan Iechyd Bro Castell-nedd.

Gwasanaeth 9 Glynhafod i Ferthyr Tudful trwy Aberdâr a Hirwaun - Mae'r holl deithiau wedi'u hail-amseru i wella cysylltiadau ar y gwasanaeth â llwybrau eraill. Gyda'r nos ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn, bydd dwy daith ddwyffordd yn cael eu hymestyn y tu hwnt i Hirwaun i Ferthyr Tudful.

Gwasanaethau 11A/11C Aberdâr i Gwmdâr - Mae pob taith wedi'i hail-amseru i wella cysylltiadau ar y gwasanaeth â llwybrau eraill. Bydd y teithiau estynedig i Derfynfa'r Bwllfa Dâr ar ddydd Llun i ddydd Sadwrn a phob gwasanaeth ar y Sul yn cael eu tynnu'n ôl oherwydd defnydd isel.

Gwasanaethau 13A a 13C Aberdâr i Gwm-bach -– Bydd y gwasanaethau hyn yn cael eu cyfuno i ddod yn wasanaeth 13. Bydd pob taith yn gwasanaethu ASDA ac yn gweithredu o amgylch Cwm-bach mewn cyfeiriad gwrth-glocwedd. Dim ond gwasanaeth 113 fydd yn gwasanaethu Ystad Fferm Pant. Bydd gwasanaethau Sul yn cael eu tynnu'n ôl oherwydd defnydd isel.

Gwasanaethau 60 / 60A Aberdâr i Bontypridd - Mân addasiadau i'r amserlen i wella dibynadwyedd a chysylltiadau â llwybrau eraill.

Gwasanaeth 95A Aberdâr i Berthcelyn drwy Ysbyty Cwm Cynon ac Aberpennar -mân addasiadau i'r amserlen i wella dibynadwyedd a chysylltiadau â llwybrau eraill.

Gwasanaeth 113 Aberdâr i Gwm-bach (Street Bus)  -mân addasiadau i'r amserlen i wella dibynadwyedd a chysylltiadau â llwybrau eraill. Bydd y gwasanaeth yn parhau i redeg bob hanner awr o ddydd Llun i ddydd Sadwrn ac ar ben hynny bydd yn gwasanaethu Ystad Fferm Pant.

Gwasanaeth 172 Aberdâr i Borthcawl  -mân addasiadau i'r amserlen i wella dibynadwyedd a chysylltiadau â llwybrau eraill. Fydd Garden City (Tonyrefail) ddim yn cael ei wasanaethu mwyach oherwydd problemau parhaus gyda cheir wedi'u parcio. Bydd Gwasanaeth 152 yn cael ei newid i ddarparu cysylltiad o Garden City â Thonyrefail a Thonypandy.   

Gorsaf Fysiau Aberdâr - Bydd newid i'r stondinau fel a ganlyn: -

  • Stondin 1 Gwasanaethau 60/60A i Aberpennar a Phontypridd
  • Stondin 2 Gwasanaeth 95A i Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar a Pherthcelyn
  • Stondin 3 GWAG
  • Stondin 4 Gwasanaethau 7, 8 a 9 i Hirwaun, Penderyn, Rhigos, Glyn-nedd a Merthyr Tudful
  • Stondin 5 Gwasanaethau 7, 8 a 9 i Glynhafod
  • Stondin 6 Gwasanaeth 6 i Lwydcoed a Merthyr Tudful
  • Stondin 7 Gwasanaethau 1, 2, 11A ac 11C i Aber-nant, Tŷ Fry a Chwm-dâr
  •  Stondin 8 Gwasanaethau 13 a 113 i Gwm-bach
  •  Stondin 9 Gwasanaethau 89, 600 i Gaerdydd, Merthyr Tudful a Phontypridd (NAT Group)
  •  Stondin 10 Gwasanaeth 91 i Abercwmboi a Phen-y-waun (Globe Coaches)
  •  Stondin 11 GWAG
  •  Stondin 12 Gwasanaeth 172 i'r Maerdy, Glynrhedynog, Tonypandy, Tonyrefail, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorthcawl