Rydw i wedi cael gwybod bod fy Ngherdyn Teithio Rhatach ar fin dod i ben. Oes angen Cerdyn Teithio Rhatach newydd arna i?
Does dim angen i chi boeni. Mae eich Cerdyn Teithio Rhatach presennol yn ddilys o hyd, a chewch chi ei ddefnyddio tan y flwyddyn nesaf.
O fis Mehefin 2019, bydd gan Gerdyn Teithio Rhatach wedd newydd ond bydd dal yn cynnig yr un buddion arbennig sef teithio am ddim ar bob gwasanaeth bysiau lleol cymwys ar hyd a lled Cymru.
Bydd hen docynnau yn ddilys o hyd ac yn cynnig yr un buddion. Bydd y rheiny sy'n berchen ar gardiau'n cael eu gofyn i gyflwyno cais am docyn â gwedd newydd yn ystod yr hydref. Byddwn ni'n rhannu rhagor o wybodaeth am hyn cyn bo hir.
Bydd manylion am sut i gael eich cerdyn newydd ar gael yn ddiweddarach y flwyddyn yma. Cadwch lygad allan am wybodaeth ar wefan y Cyngor, yn y newyddion ac ar y bysiau rydych chi'n teithio arnyn nhw.
Tan hynny, parhewch i deithio yn ôl yr arfer.
Mae gen i anabledd. Oes gen i hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach?
Gweler y canllaw ar gymhwysedd a'r dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu yma: Person Anabl – Gwneud Cais am Gerdyn Teithio Rhatach
Os ydych yn ansicr o hyd a ydych yn gymwys am Gerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl, ffoniwch yr Uned Trafnidiaeth Integredig ar 01443 425001 i gael rhagor o gyngor.
Rwy’n berson anabl ac mae angen cydymaith arna i wrth deithio gan na allaf deithio ar fy mhen fy hun. Sut mae modd imi wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl gyda Chydymaith?
Gweler y canllaw ar gymhwysedd a'r dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu yma: Person Anabl gyda Chydymaith – Gwneud Cais am Gerdyn Teithio Rhatach
Os ydych yn ansicr o hyd a ydych yn gymwys am Gerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl gyda Chydymaith, ffoniwch yr Uned Trafnidiaeth Integredig ar 01443 425001 i gael rhagor o gyngor.
Sut mae modd imi ddefnyddio fy Nhocyn Teithio Rhatach?
Mae defnyddio'ch tocyn yn hawdd. Wrth deithio ar y bws, gwnewch y canlynol:
- Dangos eich cerdyn i'r gyrrwr
- Rhoi eich cerdyn ar y peiriant cofnodi tocynnau
- Dod o hyd i sedd a mwynhau’ch taith am ddim
Cofiwch: dim ond chi sy'n cael defnyddio'ch cerdyn teithio rhatach. Os ydych yn gadael i rywun arall ddefnyddio’ch cerdyn, efallai bydd yn cael ei ganslo a/neu beidio â chael ei adnewyddu. Os oes Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl gyda Chydymaith wedi’i gyhoeddi, bydd y cydymaith ond yn teithio am ddim os yw’n teithio gyda deiliad y cerdyn ar gyfer y daith gyfan.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn nhelerau ac amodau llawn y cynllun.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'ch tocyn mewn man diogel a fydd yn ei atal rhag cael ei blygu, ei grychu na'i ddifrodi, ac ar wahân i gardiau banc ac ati.
Os byddwch chi'n cadw'r cerdyn mewn waled neu bwrs, bydd eisiau i chi adael i'r gyrwyr gael gweld eich llun.
Pryd rydw i'n cael defnyddio fy Ngherdyn Teithio Rhatach?
Cewch chi ddefnyddio'r Cerdyn Teithio Rhatach ar unrhyw adeg ac ar unrhyw ddiwrnod.
Ble ca i ddefnyddio fy Ngherdyn Teithio Rhatach?
Mae’ch Cerdyn Teithio Rhatach yn ddilys ar gyfer pob gwasanaeth bws cymwys sy’n gweithredu’n gyfan gwbl yng Nghymru, neu ar y rhai sy'n cychwyn/terfynu ar fannau sy'n gyfagos i Gymru, ar yr amod nad yw'r daith drawsffiniol yn golygu newid bws yn Lloegr. Cewch chi hefyd ddefnyddio gwasanaethau rheilffyrdd dethol sy'n gweithredu yng Nghymru, fel sydd wedi'i nodi yma: www.trctrenau.cymru/cy/tocynnau-teithio-rhatachw
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn nhelerau ac amodau llawn y cynllun.
Cofiwch na chewch chi ddefnyddio’ch cerdyn ar gyfer gwasanaethau bws fel National Express, Megabus neu fws gweld atyniadau. Fodd bynnag, efallai bydd cwmnïau yn cynnig gostyngiadau i ddeiliaid cardiau teithio rhatach.
Sut rydw i'n cael gwybod am amseroedd y bysiau?
Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth am amseroedd a llwybrau’r holl wasanaethau bysiau, bysiau moethus, trenau, fferis ac awyrennau yng Nghymru. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth ymholi ar y we ar gael yn http://www.cymraeg.traveline.cymru/. Hefyd, mae modd ichi ffonio Traveline Cymru ar 0800 464 00 00.
Ga i ddefnyddio fy Ngherdyn Teithio Rhatach ar y trên?
Cewch chi deithio am ddim ar y gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru canlynol:
- Wrecsam – Pont Penarlâg
- Machynlleth – Pwllheli (Arfordir Cambrian) – Hydref–Mawrth yn unig
- Llandudno – Blaenau Ffestiniog (Llinell Dyffryn Conwy)
- Amwythig a Llanelli/Abertawe (Llinell Calon Cymru) Hydref–Mawrth yn unig
Bydd rhaid i chi dangos eich Cerdyn Teithio Rhatach i gael tocyn am ddim o’r swyddfa docynnau cyn i chi deithio. Os nad oes swyddfa docynnau, neu os yw'r swyddfa docynnau wedi cau, bydd modd i chi gasglu tocyn gan y swyddog tocynnau ar y trên.
Hefyd byddwch chi'n cael 1/3 oddi ar docynnau i deithio ar rwydwaith Caerdydd a'r Cymoedd ar ôl 09:30 dydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw bryd yn ystod y penwythnos a gwyliau banc.
Pam mae’r Cerdyn Teithio Rhatach yn edrych yn wahanol?
Mae cynghorau eisoes wedi cyhoeddi Cerdyn Teithio Rhatach sydd â brand y cyngor.
Mae’ch cerdyn yn edrych yn wahanol, ond cewch yr un hawliau a buddion teithio am ddim ar bob gwasanaeth bws lleol cymwys ledled Cymru. Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng buddion y cerdyn newydd a’r hen gerdyn.
Os oes unrhyw un o’ch ffrindiau neu aelodau’ch teulu yn methu deall pam nad ydyn nhw wedi derbyn eu cerdyn nhw eto, dywedwch wrthyn nhw am beidio â phoeni; byddwn yn gofyn i bawb sydd â cherdyn wneud cais am gerdyn ar ei newydd wedd yn yr hydref. Bydd yr hen gardiau yn parhau i gael eu derbyn tan 31 Rhagfyr 2019.
Dydw i ddim wedi derbyn fy Ngherdyn Teithio Rhatach newydd yn y post. Beth ddylwn i ei wneud?
Dylech aros am 15 diwrnod gwaith i’ch cerdyn gyrraedd yn y post. Os nad ydych chi wedi derbyn eich Tocyn erbyn hynny, cysylltwch â ni.
Mae’r manylion ar fy Ngherdyn Teithio Rhatach yn anghywir neu maen nhw wedi newid. Beth ddylwn i ei wneud?
Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gadw gwybodaeth gywir amdanoch, felly os yw’ch manylion yn anghywir neu os yw’ch cyfeiriad, eich enw, neu unrhyw fanylion eraill yn newid, defnyddiwch y manylion cyswllt ar gefn eich Cerdyn Teithio Rhatach i roi gwybod am y gwall neu i ddiwygio'ch manylion cyn gynted ag sy'n bosibl.
Sut mae modd imi gael Cerdyn Teithio Rhatach newydd?
Cysylltwch â ni os ydych chi wedi colli'ch cerdyn neu os yw'r cerdyn wedi cael ei ddwyn. Mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu ffi am gerdyn newydd.
Rydw i wedi gwneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach newydd a newydd ddod o hyd i’m hen gerdyn. Oes modd atal cyhoeddi’r cerdyn newydd?
Nac oes, yn anffodus. Cyn gynted ag y byddwn ni'n cymryd taliad bydd tocyn newydd yn cael ei archebu a bydd yr hen gerdyn yn cael ei ddiddymu i atal defnydd twyllodrus. Ni fyddwch yn cael ad-daliad. Dinistriwch eich hen docyn teithio gan na fydd yn ddilys bellach.
Mae gen i hen fersiwn o’r cerdyn; ga i gerdyn newydd?
Bydd angen i bawb sydd â cherdyn ar hyn o bryd wneud cais am y cerdyn newydd yn yr hydref. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael bryd hynny.
Ydy fy manylion personol yn ddiogel?
Mae cadw’ch data personol yn ddiogel yn bwysig iawn i ni.
Cedwir eich gwybodaeth yn ddiogel ac fe'i defnyddir gan eich cyngor, Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru i weinyddu'r cynllun ac atal twyll. Dim ond os ydych wedi rhoi caniatâd i ni y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at ddibenion marchnata.
Mae’ch cerdyn yn dangos eich enw a'r dyddiad dod i ben ac nid yw'n cynnwys unrhyw fanylion personol eraill.
Rydyn ni wedi cyhoeddi hysbysiad preifatrwydd https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Council/DataProtectionandFreedomofInformation/DataProtection/Yourinformationrights/Yourinformationrights gan nodi sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth. Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn prosesu'ch gwybodaeth yn unol â datganiad preifatrwydd Trafnidiaeth Cymru.
Beth os does dim angen tocyn teithio arna' i bellach?
Dylech chi roi gwybod i Uned Materion Trafnidiaeth Integredig y Cyngor naill ai drwy ffonio 01443 425001 neu drwy anfon ebost i GwasanaethauTrafnidiaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk os;
- nad ydych chi'n dymuno manteisio ar y Cynllun Teithio Rhatach bellach
- yw aelod o'ch teulu, neu ffrind agos, wedi marw
Cysylltwch â ni
Rhif Ffôn: 01443 425001
E-bost: gwasanaethautrafnidiaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk