Skip to main content

Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl gyda Chydymaith

Os oes hawl gennych chi i gael Cerdyn Teithio Rhatach, ond rydych chi'n methu â theithio ar fws heb gymorth rhywun arall, mae'n bosibl eich bod yn gymwys i gael eich asesu am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl Gyda Chydymaith.

Efallai byddwch chi'n gymwys os oes gennych chi;

1.  Ymddygiad heriol y mae angen ei oruchwylio trwy'r amser

2.  Namau ac anhwylderau difrifol o ran gwybyddiaeth a'r meddwl (gan gynnwys pobl nad ydyn nhw'n effro
     i risgiau ac sydd â gallu cyfyngedig i gynllunio taith neu'i dilyn hi)

3.  Cyfuniad o golli golwg a cholli clyw/lleferydd, sy'n eich atal chi rhag symud o gwmpas ar eich pen eich hun

4.  Anhawster defnyddio cadair olwyn yn annibynnol

Os ydy un o'r meini prawf uchod yn WIR yn eich achos chi, rydych chi'n gymwys i gael asesiad am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl Gyda Chydymaith.  Mae modd i chi wneud cais trwy ddilyn y cyfarwyddiadau o dan y penawdau 'Sut mae gwneud cais' a 'Tystiolaeth angenrheidiol er mwyn cyflwyno cais'

Os does dim un  o'r meini prawf uchod yn wir yn eich achos chi, yn anffodus, dydych chi ddim yn bodloni'r meini prawf er mwyn cael Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl Gyda Chydymaith 

Sut mae gwneud cais

Os ydy unrhyw un o'r meini prawf uchod yn berthnasol i chi, e-bostiwch yr Uned Trafnidiaeth Integredig gan ofyn am Ffurflen Gais am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl gyda Chydymaith a darparu'r wybodaeth ganlynol:

y meini prawf sydd fwyaf perthnasol i'ch anabledd

enw, dyddiad geni a chyfeiriad cartref

(Heb y manylion yma, does dim modd i ni anfon y ffurflen asesu atoch chi.)

Bydd y ffurflen asesu yn cael ei hanfon drwy'r post i'ch cyfeiriad cartref o fewn 10 diwrnod o dderbyn eich cais.

Tystiolaeth angenrheidiol er mwyn cyflwyno cais

Prawf o Ddyddiad Geni

Bydd raid ichi gyflwyno un o'r dogfennau canlynol
tystysgrif geni
pasbort cyfredol
neu drwydded yrru gyfredol.

Tystiolaeth o'ch cyfeiriad

Bydd angen i chi ddarparu dau o'r dogfennau canlynol
17 oed neu'n hŷn: Bil Treth y Cyngor neu dystiolaeth eich bod wedi’ch eithrio rhag talu Treth y Cyngor
llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau
llythyr oddi wrth Gyllid a Thollau ei Mawrhydi (rhaid dyddio'r holl ddogfennau o fewn y 12 mis diwethaf)
trwydded yrru gyfredol
tystiolaeth o daliadau rhent (rhaid i ddogfennau ymwneud â'r flwyddyn ariannol gyfredol)
Bil Cyfleustodau (heb gynnwys ffôn symudol)
Cadarnhad bod yr ymgeisydd ar y Rhestr Etholiadol ar gyfer etholiadau Seneddol y DU
Cadarnhad bod yr ymgeisydd ar Gofrestr Ysgol
Tystiolaeth bod yr ymgeisydd yn ddibynnol ar berson sy'n byw yn ardal yr awdurdod
Tystiolaeth bod yr ymgeisydd yng ngofal yr awdurdod lleol neu asiantaeth gymeradwy ac yn byw yn ardal yr awdurdod
Tystiolaeth bod gan yr ymgeisydd gofrestriad parhaol gyda meddyg teulu lleol, Tystiolaeth o ddogfennaeth y Swyddfa Gartref yn cadarnhau trefniadau byw

16 Oed neu'n Iau
Bydd angen i chi ddarparu dau o'r dogfennau canlynol
Budd-dal Plant Cyfredol
llythyr dyfarnu Credyd Treth Plant
llythyr dyfarnu Credyd Cynhwysol
Llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (rhaid i ddogfennau ymwneud â'r flwyddyn ariannol gyfredol)
Cerdyn Meddygol fel tystiolaeth o gofrestriad parhaol gyda meddyg teulu lleol
Cadarnhad bod yr ymgeisydd ar Gofrestr Ysgol
Tystiolaeth bod yr ymgeisydd yn ddibynnol ar berson sy'n byw yn ardal yr awdurdod
Tystiolaeth bod yr ymgeisydd yng ngofal yr awdurdod lleol neu asiantaeth gymeradwy ac yn byw yn ardal yr awdurdod
Tystiolaeth o ddogfennaeth y Swyddfa Gartref yn cadarnhau trefniadau byw.

Ffotograff lliw a fyddai'n dderbyniol ar gyfer pasbort

Bydd angen i chi ddarparu un ffotograff lliw. Gwnewch yn siŵr ei fod yn bodloni'r meini prawf canlynol:

Llun lliw diweddar sy'n dangos gwir debygrwydd i chi
Cefndir llwyd golau, hufen neu wyn
Eich bod chi'n wynebu'r camera ac yn edrych yn syth tuag ato
Mae'r llun yn dangos eich wyneb cyfan
Rhaid bod y cyferbyniad rhwng y wyneb a'r cefndir yn eglur
Os yw'n bosibl, byddwn ni'n eich annog chi i dynnu'ch sbectol.  Ond, os oes rhaid i chi wisgo sbectol am resymau meddygol, ddylen nhw ddim gorchuddio'r llygaid, nac adlewyrchu golau na chael ei harlliwio

Rhif Yswiriant Gwladol

Bydd angen i chi ddarparu'ch Rhif Yswiriant Gwladol.

Rhaid darparu'r holl dystiolaeth uchod neu fydd dim modd i ni ymateb i'ch cais.

Ar ôl i chi dderbyn a chwblhau eich ffurflen gais am Gerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl Gyda Chydymaith, anfonwch hi i'r cyfeiriad canlynol:

Ymateb ar Unwaith
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 1NY

I gael rhagor o wybodaeth am y broses asesu, edrychwch ar y cwestiynau cyffredin isod.

Beth sy'n digwydd ar ôl i'r Cyngor gwblhau'r asesiad?

Ar ôl i ni gwblhau eich asesiad chi, byddwn ni ond yn cysylltu â chi os bydd eich cais yn cael ei wrthod.  Os bydd eich asesiad yn cael ei gymeradwyo, byddwn ni'n gofyn i Drafnidiaeth Cymru am gerdyn i chi. Bydd y cerdyn yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad cartref. Sylwch: os oes gyda chi gerdyn teithio yn barod, bydd hwn yn cael ei ganslo o'r diwrnod y byddwn ni'n gofyn i Drafnidiaeth Cymru am eich cerdyn teithio rhatach i berson anabl gyda chydymaith o Drafnidiaeth Cymru. Bydd eich cerdyn newydd yn cyrraedd cyn pen 10 diwrnod gwaith ar ôl i ni ofyn amdano.

Rydw i wedi derbyn fy Ngherdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl gyda Chydymaith – beth sy'n digwydd i fy hen Gerdyn Teithio?      

Eich Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl gyda Chydymaith yw'r unig gerdyn y mae modd i chi ei ddefnyddio i deithio, ac rydyn ni'n argymell eich bod chi'n dinistrio unrhyw Gardiau Teithio blaenorol sydd gyda chi.  Os oes angen eglurhad pellach ynghylch pa Gerdyn Teithio sy'n ddilys, ffoniwch 0300 303 4240 neu e-bostio: travelcards@tfw.wales gan nodi'r rhif cyfresol ar flaen eich Cardiau Teithio.

Beth os ydw i'n anfodlon ar y penderfyniad ynglŷn â fy asesiad?

Byddai'r Cyngor wedi cwblhau'ch asesiad ac wedi ystyried y manylion roeddech chi wedi'u darparu ar eich ffurflen gais ynghylch eich anabledd, yn ogystal ag unrhyw wybodaeth ychwanegol a oedd wedi'i chynnwys. 

Er mwyn derbyn Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl Gyda Chydymaith, mae'r pwyslais yn cael ei roi ar yr angen ichi fodloni un o'r meini prawf canlynol;

1.  Ymddygiad heriol y mae angen ei oruchwylio trwy'r amser.

2.  Bod â namau ac anhwylderau difrifol o ran gwybyddiaeth a'r meddwl (gan gynnwys pobl nad ydyn nhw'n
     effro i risgiau ac sydd â gallu cyfyngedig i gynllunio taith a'i dilyn hi).

3.  Bod â chyfuniad o golli golwg a cholli clyw/lleferydd, sy'n eich atal chi rhag symud o gwmpas ar eich pen
     eich hun.

4.  Anhawster defnyddio cadair olwyn yn annibynnol.

Ar ôl ystyried yr holl feini prawf a'r wybodaeth uchod, os ydych chi'n anfodlon ar y penderfyniad ynglŷn â'ch Asesiad Hawl i gael Cerdyn Teithio Rhatach i Berson Anabl gyda Chydymaith, bydd croeso i chi apelio yn ei erbyn.  Serch hynny, wrth wneud hynny, byddai angen i chi nodi ar ba sail rydych chi eisiau apelio. Bydd raid ichi hefyd gyflwyno rhagor o dystiolaeth nad oedd ar gael adeg cyflwyno cais.  Anfonwch yr wybodaeth ar bapur i:

Uned Sylwadau a Chwynion
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY