Skip to main content

Priffyrdd Buddsoddi

Mae’r Rhaglen Buddsoddi mewn Priffyrdd yn gyfres o waith hanfodol y mae angen ei wneud yn dilyn tywydd garw dros y 3 gaeaf diwethaf.

Mae’r gwaith yma’n arwydd o ymrwymiad Cyngor Rhondda Cynon Taf tuag at gynnal rhwydwaith y priffyrdd a’i wella er budd trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae bod â seilwaith trafnidiaeth effeithiol hefyd yn cefnogi adfywio parhaol y fwrdeistref sirol ac yn denu rhagor o fuddsoddi.

Mae £5.289 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer mynd i’r afael â’r broblem sydd wedi’i hachosi gan dywydd garw y mae’r Fwrdeistref Sirol wedi’i wynebu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn ar ben y £29 miliwn sydd wedi cael ei fuddsoddi ers 2011. Dyma’r buddsoddiad mwyaf yn rhwydwaith y priffyrdd ers degawd.

Mae hi’n debygol y bydd hyn yn achosi rhywfaint o darfu i chi os ydych chi yng nghyffiniau’r gwaith.  Gofynnwn ichi fod yn amyneddgar tra bod y gwaith hanfodol yn cael ei wneud, er budd trigolion dros y tymor hir.

Bydd y Cyngor yn dosbarthu llythyron trwy ddrysau trigolion yn yr ardaloedd lle byddwn ni’n cynnal gwaith. Pan fydd y gwaith yn dechrau yn eich ardal chi, gofynnwn i chi am eich cydweithrediad wrth i’r ffyrdd gael eu gwella yn eich cylch.  Ystyriwch le byddwch chi’n parcio’ch car, neu pryd byddwch chi’n disgwyl nwyddau, a ph’un a fyddai’r hyn byddwch chi’n ei wneud yn mynd i achosi problem gyda golwg ar gynnal y gwaith. Os na fyddwch chi’n symud eich car pan fyddwn ni’n gofyn ichi wneud hynny, efallai bydd yr heddlu’n mynd ag e i ffwrdd a/neu’ch nwyddau’n cael eu hanfon yn ôl.

Cyn belled mae cannoedd o strydoedd/ffyrdd wedi cael naill ai wyneb newydd neu’u hatgyfnerthu yng Nghwm Rhondda, Cwm Cynon a Thaf-elái.

Yn ogystal â’r gwaith rhoi wyneb newydd a chryfhau, mae’r Cyngor yn anfon carfanau neilltuol i bob ardal yn y Fwrdeistref Sirol i drwsio ceudyllau gan fod hyn yn gymaint o flaenoriaeth (os nad yn fwy o flaenoriaeth) i’r Cyngor ag y mae i’w drigolion. Felly, mae’r Cyngor yn bwriadu mynd i’r afael a’r sefyllfa cyn gynted â phosibl. 

Mae degau o filoedd o geudyllau wedi’u trwsio ar draws y Fwrdeistref Sirol hefyd.

Wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen, mae’r Cyngor yn annog trigolion i barhau i gefnogi’r cynllun trwy dalu sylw i’r arwyddion traffig dros dro e.e. dim marciau ar y ffordd, terfynau cyflymder is a gwyriadau, tra bod y gwaith hanfodol yma’n cael ei wneud, er eu diogelwch a’u lles hirdymor nhw.

Mae’r terfynau cyflymder yn eu lle i sicrhau lles pob unigolyn sy’n defnyddio’r ffyrdd, a hoffen ni atgoffa trigolion y dylen nhw fod yn ofalus wrth deithio ar ffyrdd sydd newydd eu trin.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01443 425001