Skip to main content

Graeanu - Polisi Cynnal a Chadw yn ystod y Gaeaf

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, fel Awdurdod y Priffyrdd, yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth cynnal a chadw yn ystod y gaeaf. Mae hyn er mwyn i'r cyhoedd allu teithio ar hyd rhwydwaith ffyrdd y sir yn gymharol ddiogel yn ystod tywydd gaeafol.

Y bwriad yw cadw traffig i symud yn hawdd ac yn ddiogel, gan gynnwys adfer y llif cyn gynted â phosibl os bydd rhwystr, ar bob ffordd yn ystod y gaeaf ac i wneud yn siŵr bod modd i yrwyr a cherddwyr fynd o gwmpas yn ddiogel.