Skip to main content

Cymeradwyaeth ar gyfer Draenio Cynaliadwy - Cyflwyno Cais

Cyn cychwyn ar unrhyw waith, rhaid cyflwyno cais i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) sy'n dangos eich bod chi'n cydymffurfio â'r Safonau Statudol ar gyfer SuDS mewn perthynas â systemau dŵr wyneb sy'n gwasanaethu datblygiadau newydd.

Llenwi eich ffurflen gais

Rhaid llenwi pob adran yn y ffurflen gais oni bai eich bod wedi cael cyngor cyn cyflwyno cais sy'n nodi'r dogfennau gofynnol rhaid i chi eu cyflwyno. Bydd unrhyw ffurflen sydd ddim yn gyflawn yn annilys a bydd y Corff Cymeradwyo SuDS (SAB) yn gwrthod y cais. Wrth lenwi'r ffurflen gais, dylech ddarllen yr wybodaeth a geir yn Safonau Statudol ar gyfer SuDS a'r Canllawiau ar SuDS. Rhaid i'r ymgeisydd ystyried Tabl A a Thabl B yn y ffurflen gais wrth ddatblygu'r holl ddogfennau ategol.

Os does dim digon o ddogfennau ategol (fel y mae Tabl A a B yn y ffurflen gais yn nodi) yna bydd y Corff Cymeradwyo SuDS yn trin y cais yn annilys ac yn ei wrthod, oni bai bod cyngor cyn gwneud cais yn nodi'n wahanol.

Cyflwyno'ch cais i'w gymeradwyo gan y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy ar-lein

SYLW - Mae'r ffurflen gais ar-lein yn profi materion technegol. Os byddwch yn derbyn neges gwall, cysylltwch â'r SAB trwy SAB.Application@rctcbc.gov.uk i ofyn am ffurflen gais pdf
Rhaid i chi ddefnyddio'n ffurflen ar-lein er mwyn cyflwyno cais i'w gymeradwyo gan y Corff
Nodwch: Yn rhan o'r broses gwneud cais ar-lein, rhaid i'r holl ddogfennau ategol gael eu huwchlwytho a'u cyflwyno.

Cyflwyno cais SuDS: Y broses

Ar ôl cyflwyno cais, bydd yn cael ei wirio i weld a yw'n ddilys. Bydd y Corff Cymeradwyo SuDS yn bwrw ymlaen â'r cais pan fydd yr holl wybodaeth angenrheidiol gydag ef ac mae'r ffi gywir wedi ei thalu. Camau'r broses yw:

    1. Mae'r ymgeisydd yn cyflwyno cais trwy'r ffurflen ar-lein a bydd y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy yn cyhoeddi llythyr cydnabod a fydd yn cynnwys cyfeirnod Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy unigryw;

Bydd angen y rhif cyfeirnod unigryw yma ar gyfer unrhyw gyfathrebu gyda'r Corff Cymeradwyo yn y dyfodol, gan gynnwys taliadau.
  1. Bydd y Corff Cymeradwyo yn pennu a yw'r cais yn ddilys er mwyn bwrw ymlaen ag ef ai peidio;
  2. 3a  Os yw'r cais yn ddilys, bydd y Corff Cymeradwyo yn rhoi gwybod i'r ymgeisydd a gofyn iddo dalu'r ffi gywir mewn perthynas â maint yr ardal adeilad
    neu
    3b  Os yw'r cais yn annilys, bydd y Corff Cymeradwyo yn ei wrthod gan roi gwybod i'r ymgeisydd gan nodi'r rheswm dros y penderfyniad.
  3. Pan fydd y Corff Cymeradwyo yn penderfynu bod cais yn ddilys ac mae'r ymgeisydd wedi talu'r ffi gywir, bydd llythyr yn cael ei anfon ato gan nodi bod modd bwrw ymlaen â'r cais.

Ffi ar gyfer y cais

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi strwythur ffioedd cenedlaethol mewn perthynas â ffioedd ymgeisio yn y Rheoliadau Statudol. Ceir manylion pellach yn y Rheoliad yma; Rheoliadau Draenio Cynaliadwy (Cais am Ffioedd Cymeradwyo) 2018.

Defnyddiwch ein cyfrifiannell i gyfrifo ffioedd arfaethedig eich cais. Nodwch: mae modd i hyn newid yn dilyn cam dilysu'r cais gan y garfan Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy, ac mae’n ganllaw yn unig.

Cyfrifiannell Ffioedd


Ffioedd Ymgeisio:

(yn amodol ar gyfrifiad swyddogol SAB)

Sut i dalu

Mae ein staff yn gweithio gartref ar hyn o bryd oherwydd Covid-19. Felly, er mwyn trefnu talu drwy gerdyn debyd neu gredyd, rhowch wybod i'r Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SAB) am fanylion cyswllt y sawl sy'n talu a bydd y SAB yn trefnu i'r taliad gael ei brosesu. Os oes angen dull talu arall, e-bostiwch y SAB: Ceisiadau.SAB@rhondda-cynon-taf.gov.uk