Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Stryd Victor

Nod Cynllun Lliniaru Llifogydd Stryd Victor yw mynd i’r afael â phroblemau llifogydd yng nghymuned Aberpennar yng Nghwm Cynon. Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'u harwyddocâd i gymuned Aberpennar. 

Crynodeb o'r Cynllun 

Ardal Risg Llifogydd Strategol

Canol Cynon 2

Lleoliad

Stryd Victor, Aberpennar

Eiddo sy'n elwa

Oddeutu 25 eiddo preswyl ac 11 busnes

Math o Gynllun

Adsefydlu Rhwydwaith Cwlfert

Statws

Yn aros am gyllid ar gyfer Manylion Adeiladu

Ffynhonnell Ariannu 

Grant Cyfalaf Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru 

 

Cefndir y Cynllun

Mae materion llifogydd hanesyddol sy'n gysylltiedig â chwrs dŵr cyffredin dienw yn cludo trwy Aberpennar, yn ogystal â llifogydd dŵr wyneb lleol sy'n achosi aflonyddwch ar hyd y briffordd yn Stryd Victor, wedi effeithio ar yr ardal hon ar sawl achlysur.

Yn ystod Storm Dennis yn Chwefror 2020, effeithiodd llifogydd eang ar Rhondda Cynon Taf (RhCT), gyda 1,476 eiddo yn dioddef llifogydd mewnol. Yng nghymuned Aberpennar, cafodd 44 o gartrefi a 23 o fusnesau eu heffeithio gan llifogydd mewnol, a chafodd dros 100 eiddo lifogydd allanol.

Roedd prif achos y llifogydd yn ardal Stryd Victor yn ystod Storm Dennis o ganlyniad i falurion yn blocio sianeli’r cwrs dŵr dienw a’r gilfach cwlfert gysylltiedig, gan arwain at lifoedd gormodiant yn cludo dros y tir ar hyd y rhwydwaith priffyrdd a thuag at eiddo. Yn dilyn y storm, canfuwyd bod sawl rhan o rwydwaith cwlfert Stryd Victor mewn cyflwr gwael, gyda diffygion strwythurol yn bresennol.

Mae Aberpennar wedi’i nodi fel ardal lle mae perygl llifogydd dŵr wyneb uchel a chyrsiau dŵr cyffredin yn seiliedig ar fapiau Asesiad Risg Llifogydd Cymru (FRAW) Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Mae cymuned Aberpennar hefyd wedi’i nodi fel y 92ain gymuned sy’n wynebu’r perygl mwyaf ar gyfer llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin a dŵr wyneb yng Nghymru yn ôl y Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR) a ddatblygwyd gan CNC i ddarparu dull gwrthrychol o nodi risg a blaenoriaethu gweithgareddau rheoli risg ar lefel gymunedol Cymru gyfan.

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

  • Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
  • Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
  • Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
  • Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a llesiant.
  • Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd. 
  • Gwella bioamrywiaeth lleol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
  • Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel.
  • Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd – lliniaru maint ôl troed carbon y prosiect.
  • Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.  

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Mae'r Cyngor yn bwriadu gwneud gwaith gwella draenio tir ar gwrs dŵr cyffredin dienw sy'n tarddu i'r gorllewin o Stryd Victor yn Aberpennar ac sy'n cludo i'w ollyngfa yn Afon Cynon. 

Bydd lleoliad y gwaith hwn yn digwydd o fewn ac o gwmpas Stryd Victor, Stryd Eva, Stryd y Ffrwd, y Stryd Fawr a Stryd Pryce yn Aberpennar.

Bwriad y gwaith yw ailsefydlu'r rhwydweithiau cwrs dŵr cyffredin sydd wedi’u ceuffos yn strwythurol trwy ail-leinio mewnol a dulliau atgyweirio. Bydd hyn yn lleihau'r risg o fethiant strwythurol i’r rhwydweithiau cwlfert dŵr cyffredin presennol. Bydd y gwelliannau hyn yn lleihau'r perygl o lifogydd dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin mewn ardal lle ystyrir bod risg uchel o lifogydd.  

Dyw'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, ni ystyrir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd oherwydd nodweddion y gwaith gwella, sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith gwella, a math a nodweddion yr effaith bosibl ar yr amgylchedd yn sgil y gwelliant. Cyflwynwyd hysbysiad ar gyfer y gwaith hwn ar 25 Gorffennaf 2024. Gellir gweld copi o'r hysbysiad yma.

 

Flood Risk Management 

Highways, Transportation and Strategic Projects,
Rhondda Cynon Taff County Borough Council
Floor 2
Llys Cadwyn
Pontypridd

CF37 4TH