Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci Cam 2

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci Cam 2 yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i leihau peryglon llifogydd yng nghymuned Treorci yng Nghwm Rhondda. Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'r arwyddocâd i gymuned Treorci.

Crynodeb o'r Cynllun

Ardal Risg Llifogydd Strategol

Rhondda Fawr Uchaf

Lleoliad

Treorci

Eiddo sy'n elwa

Oddeutu 234 eiddo preswyl a 30 busnes 

Math o Gynllun

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cymhleth

Statws

Yn aros am gyllid ar gyfer Manylion Dylunio

Ffynhonnell Ariannu

Grant Cyfalaf Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

 

Cefndir y Cynllun

Mae Treorci wedi wynebu sawl digwyddiad llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf. Digwyddodd y digwyddiad mwyaf sylweddol ar y 15-16 Chwefror 2020 yn dilyn Storm Dennis, a arweiniodd at lifogydd mewnol mewn 44 eiddo, gan gynnwys 4 eiddo masnachol a llifogydd ar y briffordd.

Mae Treorci wedi’i nodi fel ardal o risg llifogydd dŵr wyneb uchel a chyrsiau dŵr cyffredin yn seiliedig ar fapiau Asesiad Perygl Llifogydd Cymru (FRAW) Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae wedi'i osod ar safle 3 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd dŵr wyneb a chwrs dŵr cyffredin ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR).

Mae’r risg uchaf i bobl ac eiddo yn Nhreorci o ganlyniad i’r rhwydwaith o gyrsiau dŵr cyffredin sy’n draenio’r ucheldiroedd serth i’r gogledd o’r dref ac yn arllwys i Afon Rhondda Fawr. Mae'r cyrsiau dŵr yma mewn ceuffosydd mawr o dan ardal drefol Treorci, gyda llifogydd yn bennaf yn dod o gilfachau cwlfer ac argloddiau yn gorlifo.

Ers Storm Dennis, mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith amrywiol i leihau'r perygl o lifogydd yn Nhreorci tra bod rhaglen y Cynllun Lliniaru Llifogydd ehangach yn cael ei gyflawni. Mae'r gwaith yma yn cynnwys:

  • Cynnal arolwg a glanhau tua 1673 metr o'r rhwydwaith cwrs dŵr cyffredin mewn cwlferi yn Nhreorci.
  • Cynnal gwaith clirio ac uwchraddio strwythurau cilfach y cwlfer sydd wedi'u nodi yn ffynonellau llifogydd yn dilyn Storm Dennis.
  • Gosod dyfeisiau monitro telemetreg o bell ar strwythurau cwlfer allweddol.
  • Cwblhawyd Cam 1A Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci yn 2023 gyda’r nod o hwyluso gwelliannau ac uwchraddio Rhwydwaith Cwlferi a Chyrsiau Dŵr Cyffredin yn Nhreorci, yn benodol cwrs dŵr Nant Tyle Du. 

 

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

  • Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
  • Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
  • Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
  • Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddol cynaliadwyedd a lles.
  • Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd.
  • Gwella bioamrywiaeth lleol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
  • Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel
  • Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd - lliniaru ôl troed carbon y prosiectau.
  • Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.

 

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Treorci Cam 2 yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i leihau peryglon llifogydd dŵr arwyneb a chwrs dŵr cyffredin yn Nhreorci.

Hyd yn hyn, mae ymgynghorydd penodedig Rhondda Cynon Taf, Redstart, wedi archwilio a dadansoddi nifer o opsiynau ac wedi cynnal arfarniad technegol ac economaidd.   Mae'r broses yma wedi esgor ar opsiwn a ffefrir i'w ddatblygu ymhellach.

Cafodd yr opsiwn a ffefrir yma ei gynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn cael ei gynnal rhwng 23 Medi a 23 Hydref ac yn cynnwys dau ddigwyddiad wyneb yn wyneb i drafod y cynllun ar y 10 ac 11 Hydref. Mae modd i chi fwrw golwg ar wybodaeth fanwl am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein yma.

Mae’r opsiwn a ffefrir yn cynnwys y canlynol: 

  • Technegau rheoli llifogydd yn naturiol (NFM) er mwyn storio ac arafu llif y dŵr o'r dalgylch uchaf.
  • Gwyriad dalgylch uchaf a gwelliannau draenio mynwentydd gyda'r nod o fynd i'r afael â phroblemau dŵr wyneb yn y fynwent a dargyfeirio'r dŵr o'r dalgylch uchaf i fasn gwanhau newydd.
  • Adeiladu sianeli glaswelltog o amgylch y fynwent i ailgyfeirio'r llif i'r ceuffosydd, lleddfu llifogydd o fewn y fynwent.
  • Creu  basn gwanhau er mwyn annog bywyd gwyllt a bioamrywiaeth yn ogystal â gweithredu fel mesur lliniaru llifogydd ar gyfer storio dŵr.
  • Gwaith draenio trefol o fewn yr ardal drefol er mwyn dargyfeirio llif trwy'r dref i mewn i Afon Rhondda.
  • Cwlferi arfaethedig i greu mwy o gapasiti yn y rhwydwaith i liniaru perygl llifogydd. Bydd y ceuffosydd arfaethedig yma yn fwy ac yn cael eu defnyddio i gyfeirio llif dŵr uniongyrchol i'r pwll gwanhau a Nant Orci.
  • Bydd y cwlfertau presennol yn parhau i gael eu defnyddio yn ystod y gwaith adeiladu ac ar ôl i'r cynllun gael ei gwblhau, byddwn ni'n peidio â defnyddio'r ceuffosydd sydd wedi darfod ac mewn cyflwr gwael.

Bydd yr adborth sy'n cael ei dderbyn gan randdeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad yma'n cael ei adolygu gan garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor, a'i ddefnyddio er mwyn creu'r achos busnes amlinellol i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan o gais am gyllid ar gyfer y cam nesaf sef cyflwyniad yr Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru ac yn y cam dylunio manwl.

 

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH