Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Heol Tirfounder – Bro Deg

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Heol Tirfounder - Bro Deg yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i leihau perygl llifogydd yng nghymuned Cwm-bach yng Nghwm Cynon. Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'r arwyddocâd i gymuned Cwm-bach.

Crynodeb o'r Cynllun

Ardal Strategol Perygl Llifogydd

Canol Cwm Cynon 1

Lleoliad

Tirfounder Road FAS Location Plan - ENG & CYM

Eiddo sy'n elwa

Tua 9 eiddo preswyl a 30 busnes

Math o Gynllun

Adfer Sianel Cwrs Dŵr

Statws

Aros am gyllid ar gyfer y cam dylunio manwl

Ffynhonnell Ariannu

Grant Cyfalaf Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru


Cefndir y Cynllun

Mae cymuned Cwm-bach wedi'i gosod yn safle 122 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd dŵr wyneb a chwrs dŵr cyffredin ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR), a ddatblygwyd i ddarparu dull gwrthrychol o nodi risg a blaenoriaethu gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ar lefel gymunedol Cymru gyfan.

Mae ardal Heol Tirfounder, Cwm-bach, wedi wynebu sawl digwyddiad llifogydd dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phrif ffynhonnell perygl llifogydd yn yr ardal yn cael ei hystyried fel dŵr wyneb a chyrsiau dŵr cyffredin.

Mae'r cynllun yma’n cael ei ddarparu mewn ymateb i lifogydd yn dilyn y glaw trwm yn ystod misoedd cynnar 2020; cafodd swm sylweddol o falurion eu cludo i lawr yr afon o'r cwrs dŵr agored a arweiniodd at rwystro'r rhwydwaith ac achosi llifogydd lleol i eiddo trigolion a busnesau.

Achosodd y digwyddiadau llifogydd diweddaraf, Storm Ciara a Storm Dennis ym mis Chwefror 2020, lifogydd y tu mewn i 17 eiddo masnachol a 4 eiddo preswyl. Disgwylir i’r newid yn yr hinsawdd gynyddu amlder a dwyster stormydd a pherygl llifogydd o'r fath yn yr ardal o ganlyniad i hynny.

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

  • Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
  • Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd. 
  • Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
  • Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo cynaliadwyedd a lles.
  • Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd.
  • Gwella bioamrywiaeth leol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
  • Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel.
  • Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd - lliniaru ôl troed carbon y prosiectau.
  • Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Nod y cynllun lliniaru llifogydd arfaethedig yw gosod mesurau amddiffyn rhag erydu a/neu fesurau rheoli malurion ar hyd rhan o gwrs dŵr agored i fyny'r afon o rwydwaith draenio Ystad Ddiwydiannol Cwm-bach. Bwriad y prosiect yma yw sefydlogi ac atgyweirio sianeli ac argloddiau’r dalgylch uchaf, gan sicrhau cyn lleied o erydu a malurion yn cael eu cludo i strwythur y gilfach isaf â phosibl.

Mae'r cynllun yn ceisio cynnal llwybr trafnidiaeth hanfodol, sef cylchfan yr A4059 yn benodol, sydd yn bwysig o ran cysylltu Cwm-bach ac Aberdâr. Wrth gyflawni'r gwaith yma, bydd amlder ac effaith digwyddiadau llifogydd yn y dyfodol yn cael eu lleihau gan wella gwytnwch cymunedau yn hirdymor.

Bydd cam adeiladu'r prosiect yma yn helpu i atal dirywiad sianel y dalgylch canol a lleihau achosion o falurion yn cael eu cludo,  fyddai'n gallu rhwystro cilfach y cwlfer a'r rhwydwaith draenio casgen i lawr yr afon. Bydd hyn, yn ei dro, yn helpu i leihau perygl llifogydd i oddeutu 30 busnes lleol a 4 eiddo preswyl. Yn ystod stormydd yn y gorffennol, mae'r eiddo busnes a phreswyl yma wedi wynebu llifogydd mewnol o ganlyniad i lifogydd dros y tir yn sgil y storm.

Hysbysiad Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999

Dydy'r Cyngor ddim yn bwriadu paratoi datganiad amgylcheddol mewn perthynas â'r gwaith gwella arfaethedig. Gan gyfeirio at Atodlen 2 o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Draenio Tir) 1999, ni fwriedir paratoi datganiad amgylcheddol oherwydd, o ystyried nodweddion y gwaith gwella, sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol sy’n debygol o gael eu heffeithio gan y gwaith gwella a math a nodweddion effaith bosibl y gwaith gwella ar yr amgylchedd, ni ystyrir y bydd y gwaith arfaethedig yn cael effaith arwyddocaol ar yr amgylchedd. Cafodd hysbysiad ar gyfer y gwaith yma ei gyhoeddi ar 16 Awst 2024. Mae modd bwrw golwg ar yr hysbysiad yma.

 

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH

E-bost: FRM@rctcbc.gov.uk