Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yw datblygu a chyflawni rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru a Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol i leihau peryglon llifogydd yng nghymuned Pentre yng Nghwm Rhondda. Mae'r dudalen yma'n darparu manylion am y gwaith arfaethedig a'r arwyddocâd i gymuned Pentre.

Crynodeb o'r Cynllun

Ardal Risg Llifogydd Strategol

Rhondda Fawr Uchaf

Lleoliad

Pentre

Eiddo sy'n elwa

Oddeutu 395 eiddo preswyl ac 8 busnes

Math o Gynllun

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cymhleth

Statws

Cyllid a ddyfarnwyd Awst 2024 - Penodi ymgynghorydd yn parhau

Ffynhonnell Ariannu

Grant Cyfalaf Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru

 

Cefndir y Cynllun

Effeithiwyd ar bentref Pentre gan lifogydd ar bum achlysur gwahanol yn ystod 2020. Digwyddodd y mwyaf o’r pedwar digwyddiad llifogydd rhwng 15 ac 16 Chwefror 2020 o ganlyniad i lawiad eithafol, a enwyd yn 'Storm Dennis' gan y Swyddfa Dywydd. Arweiniodd effaith y digwyddiad yma ym mhentref Pentre at lifogydd mewnol mewn 159 eiddo preswyl, 10 eiddo masnachol a llifogydd helaeth ar y briffordd.

Mae Pentre wedi'i nodi yn ardal sy'n wynebu risg uchel o lifogydd dŵr wyneb a chwrs dŵr cyffredin yn seiliedig ar fapiau Asesu Risg Llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae wedi'i osod yn safle 1 yng Nghymru ar gyfer perygl llifogydd dŵr wyneb a chwrs dŵr cyffredin ar Gofrestr Cymunedau mewn Perygl (CaRR).

Mae’r risg uchaf i bobl ac eiddo ym Mhentre’n gysylltiedig yn fras â’r pedwar prif gwrs dŵr cyffredin sy’n draenio’r ucheldiroedd yn y dwyrain ac yn arllwys i Afon Rhondda Fawr. Mae'r cyrsiau dŵr hyn mewn ceuffosydd mawr o dan ardal drefol Pentre, gyda llifogydd yn dod yn bennaf o gilfachau cwlfer.

Ers Storm Dennis, mae'r Cyngor wedi cwblhau gwaith amrywiol lleihau'r perygl o lifogydd ym Mhentre tra bod rhaglen y Cynllun Lliniaru Llifogydd ehangach yn cael ei chyflwyno. Mae'r gwaith yma yn cynnwys:

  •  Gwaith arolygu a glanhau tua 3.2km o gwrs dŵr cyffredin a 5.5km o'r rhwydwaith draenio dŵr wyneb ym Mhentre.
  • Gosod system gorlifo yn rhan o’r system ddraenio priffyrdd yn Stryd Lewis a'i gysylltu â rhwydwaith gorlif stormydd Dŵr Cymru Welsh Water i gynyddu capasiti’r seilwaith draenio priffyrdd.
  • Uwchraddio twll archwilio cwrs dŵr cyffredin sy’n gorlifo i orsaf bwmpio gyfagos yn Stryd y Gwirfoddolwr, gan fanteisio ar gapasiti’r seilwaith presennol a darparu cydnerthedd i’r orsaf bwmpio.
  • Darparu cynllun dargyfeirio llifogydd ym Mharc Pentre - y nod yw gwella cwlfer cwrs dŵr arferol, drwy osod twll archwilio dalbwll mawr er mwyn lleihau risg malurion yn mynd i mewn i'r cwlfer.
  • Darparu strwythur gorlifo ger Stryd Lewis a Stryd Hyfryd- gosod llwybr rheoli llif dros y tir sy'n ceisio lliniaru llif sy'n cael ei achosi gan dyllau archwilio cwrs dŵr arferol ym Mhentre Isaf. 
  • Uwchraddio cilfach Heol Pentre yn dilyn difrod a achoswyd yn ystod Storm Dennis yn cynnwys darparu wal flaen a threfniadau cilfach newydd, sgrîn malurion uwch a llwyfan a gosod strwythur llif dros y tir i ddarparu capasiti ychwanegol a lleihau'r risg o rwystr i'r cwlfer.
  • Gosod dyfeisiau monitro telemetreg o bell ar strwythurau cwlfer allweddol.

 

Amcanion y Cynllun Arfaethedig

  • Lleihau perygl i fywyd drwy leihau nifer y bobl sy'n cael eu heffeithio gan beryglon gan lifogydd dwfn a chyflym.
  • Lleihau aflonyddwch yn y gymuned drwy leihau nifer yr adeiladau preswyl a masnachol sy'n cael eu heffeithio gan beryglon o lifogydd.
  • Dim niwed i'r cwrs dŵr/afon sy'n derbyn y dŵr yn bellach i lawr yr afon.
  • Gwella gwytnwch cymuned mewn achosion o lifogydd a newid yn yr hinsawdd - hyrwyddol cynaliadwyedd a lles.
  • Darparu opsiwn a ffefrir sy'n gweithio gyda phrosesau naturiol ac yn hyrwyddo isadeiledd gwyrdd.
  • Gwella bioamrywiaeth lleol a chefnogi gwytnwch gwasanaethau'r ecosystemau.
  • Gwella gwytnwch yr asedau perygl llifogydd yn erbyn newid yn yr hinsawdd - hyrwyddo gofynion hygyrchedd a chynnal a chadw isel
  • Lleihau effaith newid yn yr hinsawdd - lliniaru ôl troed carbon y prosiectau.
  • Gwella lles y gymuned trwy wella amwynder lleol.

 

Disgrifiad o'r Cynllun Arfaethedig

Diben Cynllun Lliniaru Llifogydd Pentre yw datblygu a gweithredu rhaglen o fesurau lliniaru llifogydd yn unol â chanllaw achos busnes Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru. Mae'r fenter yma'n cyd-fynd ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), sy’n canolbwyntio ar leihau’r perygl o lifogydd o ganlyniad i ddŵr wyneb a llifogydd cwrs dŵr cyffredin drwy roi mesurau lliniaru hirdymor cynaliadwy ar waith.

Mae'r Cyngor, ar y cyd ag ymgynghorwyr penodedig RPS, wedi cynnal gwaith sgrinio a dadansoddi helaeth o opsiynau amrywiol i fynd i'r afael â'r perygl llifogydd ym Mhentre. Canlyniad y broses oedd nodi opsiwn a ffefrir ar gyfer datblygiad pellach. Mae gwybodaeth fanwl am yr opsiwn a ffefrir ar gael i'w hadolygu ar-lein trwy ofod ymgynghori rhithwir yma.

Cafodd yr opsiwn a ffefrir yma ei gynnwys yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a oedd yn cael ei gynnal rhwng 19 Mehefin 2023 a 17 Gorffennaf 2023 ac yn cynnwys dau ddigwyddiad wyneb yn wyneb i drafod y cynllun ar y 29 a 30 Mehefin 2023. Mae modd i chi fwrw golwg ar wybodaeth fanwl am yr ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein yma.

Mae’r opsiwn a ffefrir yn cynnwys y canlynol:

  • Cyfeirio Llif Dŵr ar y Tir yn y ddalgylch uchaf trwy sianeli i gyfeirio llif y dŵr i rwydwaith gwlferi newydd yn lleoliad Rhwydwaith St Stephens.
  • Dargyfeirio Llif – Gosod cwlfer newydd i dderbyn llif y 3 cilfach cwlfer rhwydwaith cwrs dŵr blaenorol a lleihau’r pwysau ar y rhwydwaith presennol.
  • Uwchraddio cwlferi ar Heol Pentre a phibell stormydd Coedlan St Stephen
  • Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) yn y Dalgylch Uchaf,  
  • Systemau Draenio Trefol Cynaliadwy (SUDs) yn y Dalgylch Isaf

Bydd yr adborth sy'n cael ei dderbyn gan randdeiliaid yn ystod yr ymgynghoriad yma'n cael ei adolygu gan garfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor, a'i ddefnyddio er mwyn creu'r achos busnes amlinellol i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru fel rhan o gais am gyllid ar gyfer y cam nesaf sef cyflwyniad yr Achos Busnes Llawn i Lywodraeth Cymru ac yn y cam dylunio manwl.

 

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH