Skip to main content

Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd

Mae llunio'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn un o ofynion Rheoliadau Perygl Llifogydd 2009. Mae'r cynllun yn nodi sut bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac yntau’n Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol, yn rheoli perygl llifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin, dŵr wyneb a dŵr daear, yn ystod y chwe blynedd nesaf.

Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd yn bwrw ymlaen â'r amcanion a'r mesurau sydd wedi'u nodi yn ein Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol gyfredol.

Mae'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd hefyd yn bwriadu cyflawni rhai o amcanion Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, sy'n darparu fframwaith cenedlaethol ar gyfer rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru drwy 4 amcan cyffredinol:

  • Lleihau canlyniadau llifogydd ac erydu arfordirol ar gyfer unigolion, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd
  • Codi ymwybyddiaeth pobl o berygl llifogydd ac erydu arfordirol, a'u cynnwys yn yr ymateb i'r perygl hwnnw
  • Darparu ymateb effeithiol a pharhaus i lifogydd ac erydu arfordirol
  • Blaenoriaethu buddsoddiad yn y cymunedau sy'n wynebu'r perygl mwyaf

Cafodd Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd cyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac Atodiadau perthnasol eu cyhoeddi yn 2015.  

Pe hoffech chi weld unrhyw un o'r dogfennau cysylltiedig neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi, e-bostiwch y garfan rheoli perygl llifogydd ar RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk neu ysgrifennu i’r cyfeiriad post canlynol.

Rheoli Perygl Llifogydd 

Adfer Tir a Pheirianneg,
Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd

CF37 1DU

E-bost: RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk