Bydd dros 100 o adeiladau yn ardal Ynys-boeth ar eu hennill yn sgil cynllun a fydd yn cyfrannu at eu diogelu rhag llifogydd.
Diolch i gymorth Cronfa Cyfalaf Cyngor Rhondda Cynon Taf, Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Grant Rheoli Perygl Llifogydd gan Lywodraeth Cymru, bydd cynllun yn cael ei wireddu i liniaru materion llifogydd hanesyddol sy'n deillio o geuffos Nant y Fedw yn ystad tai Nant y Fedw, Ynys-boeth.
Bydd y prosiect yn cynnwys gosod rhwyll newydd ar fewnfa'r brif geuffos, a gosod cefnfur/penwal well wrth un o'r mewnfeydd llai, yn lle'r un sydd yno'n barod.
Yn Abercynon Road, bydd y system draenio dŵr wyneb yn cael ei gwella er mwyn iddi ymdopi pe bai'r cyrsiau dŵr yn gorlifo. Bydd y gwelliannau yma hefyd yn cynnwys adeiladu system newydd a fydd yn cysylltu â'r brif geuffos islaw Abercynon Road.
Bydd y brif system geuffos, sydd yno ar hyn o bryd ac sy'n gyfagos i'r briffordd, yn cael ei haddasu er mwyn gwella'r llif. Mae'r gwelliannau yma wedi cael eu cynllunio er mwyn lleihau'r tebygolrwydd o lifogydd yn y dyfodol. Serch hynny, pe bai gormod o ddŵr yn y system yma, neu pe bai'r system yn cael ei rhwystro, byddai'r dŵr yn gorlifo i'r briffordd ac yn llifo i mewn i'r system ddraenio newydd.
Bydd system ddraenio, sydd yno'n barod rhwng adeiladau yn ystad Nant y Fedw, yn cael ei chynyddu yn rhan isaf y briffordd ble mae dŵr llifogydd wedi cronni yn y gorffennol. Bydd y system yma yn arwain at adeiladu system newydd o bibellau a fydd yn cysylltu â'r brif geuffos yn Cross Street.
Bydd rhannau o'r brif geuffos yn cael eu trwsio, a bydd y brif geuffos gyfan yn cael ei leinio er mwyn ei chryfhau ac er mwyn iddi ymdopi â rhagor o ddŵr. Bydd y rhan fwyaf o waith trwsio'r geuffos yn cael ei wneud yn y geuffos er mwyn achosi llai o aflonyddwch i drigolion lleol ac i ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.
Bydd angen defnyddio'r tyllau archwilio sydd yno'n barod, a nifer o leoliadau eraill, er mwyn cael mynediad i'r geuffos. Bydd angen gwneud gwaith leinio mewn rhannau eraill o'r system bibellau yn ardal Abercynon Road.
Er mwyn gwneud rhywfaint o'r gwaith isadeiledd pwysig yma, bydd angen rhoi mesurau rheoli traffig dros dro ar waith.
Bydd y perygl o lifogydd lleol yn parhau i fod yn broblem yn ystod ac ar ôl y prosiect ac mae Carfan Rheoli Perygl Llifogydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid yn y gymuned a chyfadrannau Rheoli Gwastraff a Gofal y Strydoedd y Cyngor i leihau'r risg.
Serch hynny, mae'r perygl llifogydd yn cynyddu'n sylweddol os oes achosion o dipio anghyfreithlon mewn nentydd a cheuffosydd, neu ar eu glannau. Rydyn ni, felly, yn mynnu bod y cyhoedd yn defnyddio dulliau swyddogol a chyfreithlon i gael gwared ar eu gwastraff.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â gwasanaethau'r Cyngor o ran casglu gwastraff, a'i bolisïau, ewch i'r adran 'Gwasanaethau Gwastraff' ar wefan y Cyngor, neu ffonio 01443 425001.
Gwaith gwella'r briffordd – Abercynon Road
Mae'r Cyngor yn bwriadu cynnal gwaith gwella'r briffordd yn Abercynon Road, Ynys-boeth.
Y bwriad yw gwneud y gwaith ochr yn ochr â'r cynllun lliniaru llifogydd i achosi cyn lleied o aflonyddwch â phosibl yn yr ardal leol.
Bydd y cynllun yn cynnwys lledu'r droedffordd er mwyn i gerddwyr fynd heibio ei gilydd a chodi ffens newydd i ddiogelu cerddwyr. Bydd lledu'r droedffordd yn golygu culhau'r briffordd.