Skip to main content

Cryfhau pontydd

Codwyd uchafswm y pwysau sy'n cael ei ganiatáu ar gyfer lorïau fis Chwefror 2001 i 44 tunnell. Rydyn ni wedi gorfod asesu'r holl bontydd i weld a allen nhw ymdopi gyda'r cynnydd yma yn ddiogel.

Tra'u bod nhw'n aros am waith atgyfnerthu, mae diogelwch y cyhoedd yn cael ei gynnal ar y pontydd gwan hynny drwy ddefnyddio cyfyngiadau pwysau dros dro, neu fesuriadau/cyfyngiadau eraill.

Mae'r gwaith sy'n cael ei wneud, yn rhan o'r rhaglen cryfhau, yn rhoi blaenoriaeth i bontydd sydd ar briffyrdd. Ar gyfer pontydd gwan sydd ddim ar briffyrdd, mae penderfyniadau yn cael eu gwneud ynglŷn ag a ddylid cyfyngu'r pwysau yn hytrach na chryfhau. Mae pob pont yn cael ei hystyried yn unigol, yn ôl ei ffactorau diogelwch, economaidd ac amgylcheddol.

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 494888