Skip to main content

Rhoi gwybod am broblem - Cerbyd wedi'i adael

Byddwn ni'n symud unrhyw gerbyd yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi'i adael os ydyn ni o'r farn ei fod wedi'i adael "heb awdurdod cyfreithlon".  Rydyn ni'n mynd i'r afael â cherbydau sy'n cael eu gadael ar y priffyrdd ond hefyd unrhyw gerbydau sy'n cael eu gadael "ar dir yn yr awyr agored".

Mae modd i chi roi gwybod i ni ar-lein am gerbyd wedi'i adael.

Os ydych chi o'r farn fod y cerbyd yn un sydd angen ein sylw ar frys, ffoniwch ni ar ein rhif ffôn argyfwng – 01443 425001 (y tu allan i oriau swyddfa – 01443 425011).

Cerbydau mewn cyflwr gwael

Os ydyn ni o'r farn bod cerbyd mewn cyflwr mor wael y dylid ei ddinistrio, mae'n rhaid i ni osod hysbysiad cyfreithiol ar y cerbyd cyn y gallwn ni ei symud.  Mae'r hysbysiad yn cynghori unrhyw berchennog y byddwn ni'n symud y cerbyd ac yn ei sgrapio os na fydd y cerbyd yn cael ei symud o'i leoliad presennol o fewn 24 awr.  Yn y sefyllfa yma, nid oes unrhyw rwymedigaeth arnom ni i geisio dod o hyd i berchennog ar gyfer y cerbyd.

Cerbydau mewn cyflwr rhesymol

Os yw cerbyd mewn cyflwr rhesymol, rhaid i ni gymryd camau penodol i ddod o hyd i berchennog.  Os oes modd dod o hyd i berchennog, rhaid i'r person yma gael cyfnod rhesymol i ymateb i'r hysbysiad sydd wedi'i gyflwyno iddyn nhw.  Os nad yw cerbydau wedi'u trethu, rydyn ni bob tro'n cysylltu â'r DVLA ac yn rhoi gwybod iddyn nhw.

Cerbydau mewn lleoliadau anhygyrch

Os yw cerbydau wedi'u gadael mewn lleoliadau peryglus neu anhygyrch, mae modd i ni benderfynu ei bod hi'n rhy beryglus neu'n rhy ddrud i'w symud.  Fodd bynnag, rydyn ni bellach yn gweithio mewn partneriaeth â'r Fyddin i fynd i'r afael â'r broblem yma. Mae'r Fyddin yn symud cerbydau o leoliadau heriol yn rhan o dasgau hyfforddi ar gyfer eu hadran adfer tanciau.

Cerbydau sydd wedi'u trethu

Os yw cerbyd wedi'i drethu, ni ellir ei ddinistrio hyd nes y bydd y cyfnod trethu wedi dod i ben.

Pwerau'r Heddlu i fynd i'r afael â cherbydau

Mae gan yr Heddlu bwerau hefyd i symud cerbyd neu i fynnu bod perchennog neu'r person sy'n rheoli'r cerbyd yn ei symud.  Mae'r pwerau yma wedi'u hymestyn i gynnwys cerbydau sydd wedi torri lawr, sydd wedi'u gadael neu sydd wedi'u gadael 'heb awdurdod cyfreithlon'. 

Cerbydau sydd heb eu gadael ond sy'n achosi niwsans.

Dylid rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw gerbydau sydd heb eu gadael ond sy'n achosi problemau.

Cerbydau sy'n achosi rhwystr

Dylid hysbysu'r heddlu am gerbydau sy'n rhwystro mynediad i'r briffordd.

Sut alla i ildio cerbyd diangen?

Os ydych chi'n cysylltu â ni, byddwn ni'n trefnu i gasglu cerbyd nad ydych chi ei eisiau mwyach.  Fodd bynnag, byddwn ni'n gofyn i chi brofi mai chi yw perchennog cyfreithiol y cerbyd neu'ch bod chi wedi sicrhau caniatâd perchennog y cerbyd i gael gwared ar y cerbyd.

Nodwch - bydd tâl am y gwasanaeth yma.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf i'n dod o hyd i hysbysiad ar fy ngherbyd?

Er ein bod ni'n gosod hysbysiadau ar gerbydau, nid yw pob hysbysiad yn dod gan y Cyngor. Mae'r Heddlu hefyd yn gosod hysbysiadau ar gerbydau, yn enwedig os yw'r cerbyd ar y briffordd a heb ei drethu.

Os ydych chi o'r farn ein bod ni wedi gosod hysbysiad ar eich cerbyd chi, mae modd i chi gysylltu â ni.

Sylwch:

  • Os ydyn ni'n gosod hysbysiad 24 awr ar gerbyd, byddwn ni'n symud y cerbyd ar ôl 24 awr os nad ydyn ni'n derbyn ymateb gan berchennog neu geidwad y cerbyd o fewn 24 awr.
  • Os yw cerbyd wedi'i adael ar dir ac rydyn ni'n rhoi hysbysiad i feddiannydd y tir yma, rhaid cyflwyno ymateb ysgrifenedig. Bydd gan y meddiannydd 15 diwrnod i ymateb i'r hysbysiad.  Os nad ydyn ni'n derbyn ymateb ysgrifenedig i'n hysbysiad, byddwn ni'n mynd ar y tir er mwyn symud y cerbyd.

Cysylltu â ni

Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd 

Gwasanaethau Gofal y Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf 
Tŷ Glantaf 
Uned B23, Ystad Ddiwydiannol Trefforest 
Pontypridd 
CF37 5TT

Ffôn: 01443 425001 

Ffacs: 01443 844310