Skip to main content

Trwydded barcio i breswylwyr - rhoi gwybod am drwydded sydd wedi'i cholli, ei dwyn, neu'i difrodi

Mae modd ichi roi gwybod am drwydded barcio i breswylwyr sydd wedi'i cholli, ei dwyn, neu'i difrodi ar-lein. Yna, cewch chi drwydded newydd am £12
Rhoi gwybod am drwydded barcio i breswylwyr sydd wedi'i cholli, ei dwyn, neu'i difrodi ar-lein.
Taliad wedi'i dderbyn trwy gerdyn credyd neu ddebyd

Neu, mae modd ichi roi gwybod am drwydded sydd wedi'i cholli, ei dwyn, neu'i difrodi: 01443 425001

Eich dyletswyddau chi o dan y drwydded

Eich dyletswydd chi yw gwneud yn siŵr bod:

  • eich trwydded barcio chi'n ddilys;
  • eich trwydded barcio chi heb ddod i ben;
  • y rhif cofrestru arni'n gywir;
  • eich trwydded barcio yn cael ei defnyddio yn unol â'r amodau.

Gweithredu'r gyfraith

Mae Swyddogion Gorfodi Sifil y Cyngor ar batrôl yn rheolaidd mewn Parthau Parcio i Breswylwyr. Os fydd dim trwydded ddilys i'w gweld ar gerbyd wedi ei barcio yn y parthau hyn, gall dderbyn Hysbysiad Tâl Gosb hyd at £70.

Diogelu Data

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn prosesu'r wybodaeth rydych chi wedi ei nodi ar y ffurflen yn unol â deddfwriaeth diogelu data berthnasol. I ddysgu rhagor am sut rydyn ni'n defnyddio eich data personol wrth brosesu trwyddedau parcio, ewch i'n hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth.

Ceisiadau twyllodrus

Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth y byddwch chi wedi'i nodi yn gallu cael ei chymharu ag unrhyw wybodaeth sy'n cael ei chadw gan adrannau eraill y Cyngor. Efallai y byddwch chi'n cael eich erlyn am nodi gwybodaeth ffug o fwriad a/neu byddwn ni'n canslo'ch trwydded barcio.

Diddymu trwydded parcio

Mae hawl diddymu neu annilysu eich trwydded os:

  • ydyn ni'n cael gwybod bod y drwydded yn cael ei defnyddio yn groes i'r amodau;
  • ydyn ni'n cael gwybod bod eich hawl i gael y drwydded wedi dod i ben;
  • yw'r drwydded wedi'i newid neu wedi'i difwyno mewn unrhyw ffordd, neu fod pobl eraill yn ei defnyddio heb awdurdod