Gallwch dalu’ch hysbysiad gorfodi Gofal y Strydoedd ar-lein trwy ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd. Rhaid bod cyfeirnod yr Hysbysiad Cosb Benodedig gyda chi.
Cyn ichi ddechrau
- Rhaid derbyn eich taliad o fewn 14 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad.
- Mae gofyn bod gyda chi gerdyn debyd neu gredyd; dydyn ni ddim yn derbyn American Express.
- Os ydych chi wedi colli’ch Hysbysiad Gorfodi Gofal y Strydoedd, ffoniwch y Garfan Gorfodi Gofal y Strydoedd ar 01443 425001.
Hysbysiad gorfodi Gofal y Strydoedd
Mae’n gyflym, diogel a hawdd i dalu ar-lein.
Ffyrdd eraill o dalu
Gallwch dalu hefyd drwy siec neu archeb bost (dylech chi gynnwys copi o'ch hysbysiad gyda'r taliad). Gwnewch eich siec yn daladwy i: "Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf". Postiwch y taliad neu'i gyflwyno â llaw:
Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gofal y Strydoedd,
Gwasanaethau Gofal y Strydoedd Rhondda Cynon Taf,
Tŷ Glantaf
Uned B23
Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Pontypridd
CF37 5TT
Ffôn: 01443 425001
Beth os na fydda i’n talu’r ddirwy?
Os ydych chi wedi cael Hysbysiad Gosb Benodedig gan un o Swyddogion Gorfodi Gofal y Strydoedd, bydd gofyn i chi, yn unol â thelerau’r gosb, dalu’r ddirwy o fewn 14 diwrnod o gyhoeddi’r hysbysiad.
Os byddwch chi’n dewis peidio â thalu’r ddirwy o fewn yr 14 diwrnod, bydd y Cyngor yn bwrw ymlaen â threfniadau i’ch erlyn drwy achos llys fel rhan o bolisi’r Awdurdod i wella’r amgylchedd ac i leihau trosedd sy’n ymwneud â’r amgylchedd o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf.