Skip to main content

Talu Dirwy Parcio

Sefydlwyd ‘Grŵp Parcio De Cymru’ (SWPG) gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Merthyr Tudful. Mae’r ddau’n dilyn camau Gorfodi Parcio Sifil tebyg i’w gilydd o fewn eu Bwrdeistrefi Sirol er mwyn mynd i’r afael â pharcio anghyfrifol.

Mae Grŵp Parcio De Cymru yn gweithredu’r cynlluniau gorfodi drwy ddelio â thaliadau, heriau a sylwadau, ac yn prosesu pob Hysbysiad Cosb Benodol sy’n cael ei gyflwyno gan y ddau Gyngor.

Talu Dirwy Parcio (PCN)

Mae modd talu dirwy fel a ganlyn:

  • ar-lein: (talu â cherdyn credyd/debyd)
  • drwy ffonio: 033 33 200 867 (talu â cherdyn credyd/debyd)
Talu dirwy parcio (PCN)
Bydd taliadau yn cael eu gwneud drwy wefan SWPG (gwefan allanol)

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Merthyr Tudful wedi mabwysiadu polisïau er mwyn sicrhau bod y gwaith gorfodi yn gyson drwy ardaloedd Grŵp Parcio De Cymru. 

Mewn ffordd deg a chyson, mae’r Cyngor yn bwriadu gwella:

  • llif y traffig
  • diogelwch y ffyrdd
  • natur ddibynadwy cludiant cyhoeddus a theithio prydlon
  • rhwydd hynt i gerbydau argyfwng a cherbydau nwyddau
  • amodau i gerddwyr, seiclwyr a’r gymuned anabl
  • yr amgylchedd yn gyffredinol

Bydd y Cyngor yn rheoli pob maes parcio oddi ar y stryd, yn ogystal â rheoliadau arwyddion a llinellau - e.e. Llinellau melyn dwbl, mannau parcio i drigolion,  clirffyrdd ysgolion (llinellau igam-ogam) ac ati.

Caiff Hysbysiadau Tâl Cosb eu dosbarthu gan Swyddogion Gorfodi Parcio’r Cyngor i yrwyr sy’n parcio’u cerbydau’n ddifeddwl gan dorri rheoliadau maes parcio a rheoliadau traffig.

Yn rhan o’r Orfodaeth Parcio Sifil, cafodd adolygiad o’r holl Reoliadau Traffig presennol ei gynnal ac mae gorchymyn amrywio wedi cael ei osod sy’n adlewyrchu unrhyw newidiadau a gafodd eu nodi.

Erbyn hyn, mae’r holl Orchmynion Rheoleiddio Traffig (TRO) wedi cael eu cyfuno i un Gorchymyn (Gorchymyn Cyfuno).

Mae materion megis parcio ar droedffyrdd, rhwystro tramwyfeydd, a phob tramgwydd sy’n ymwneud â thraffig sy’n symud, yn parhau i fod o dan awdurdod Heddlu De Cymru.

Herio dirwy parcio

Mae ein hagwedd ni tuag at faterion gorfodi parcio yn gyson a theg. Hoffech chi apelio yn erbyn eich Hysbysiad Tâl Cosb? Ewch i wefan Grŵp Parcio De Cymru: https://www.swpg.co.uk a chlicio ar ‘Cymraeg’