Cewch chi ddirwy barcio gan Gyngor Rhondda Cynon Taf am dorri rheoliadau parcio unrhyw faes parcio'r Cyngor neu unrhyw reoliadau traffig ar y strydoedd.
Mae Grŵp Parcio De Cymru yn cynorthwyo gyda'r gwaith gorfodi drwy ddeilio â thaliadau, heriau a sylwadau a thrwy ymgymryd â'r gwaith o brosesu pob Hysbysiad Cosb Benodedig y mae'r Cyngor yn eu cyflwyno.
Dyma feysydd lle y caiff Rheolau Parcio Sifil eu gorfodi
- Meysydd parcio oddi ar y stryd y mae'r Cyngor yn eu rheoli ar hyn o bryd
- Llinellau ac arwyddion rheoli traffig ar y stryd e.e. llinellau melyn dwbl, lleoedd parcio i breswylwyr, clirffyrdd ysgolion (llinellau igam-ogam)
Noder: Heddlu De Cymru sydd ag awdurdodaeth dros faterion megis parcio ar lwybrau troed, rhwystrau ar dramwyfeydd a phob trosedd gysyslltiedig â thraffig sy'n symud.
Rhoi gwybod am drosedd parcio
Mae modd i chi roi gwybod am drosedd barcio ar-lein