Skip to main content

Llwybrau'r llyfrgell deithiol

Yn rhan o weithredoedd y Cyngor i osgoi lledaenu’r Coronafeirws (COVID-19), bydd Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol yn dod i ben am 12pm ar 19 Mawrth 2020.

Mae llyfrgelloedd teithiol yn gwasanaethu cymunedau a lleoliadau sydd rywfaint o bellter o adeilad llyfrgell leol. Maen nhw hefyd yn ymweld ag unedau tai lloches ledled Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan asiantaethau sy’n awyddus i ddefnyddio ein llyfrgelloedd symudol fel canolfannau er mwyn hyrwyddo eu gwasanaethau neu ddarparu sesiynau cyngor ac arweiniad.

Rydyn ni bellach yn cynnig mannau aros am gyfnod hir gyda WiFi AM DDIM mewn lleoliadau cyfleus yn y gymuned.

Os ydych chi’n awyddus i ddefnyddio ein llyfrgelloedd symudol, cysylltwch â’r adran llyfrgelloedd symudol:

Ffôn: 01685 885277

Ebost: Aled.P.Thomas@rctcbc.gov.uk

            Tom.Owen@rctcbc.gov.uk

Llyfrgell deithiol un yn cynnwys ardal Cynon a Rhondda
Llyfrgell deithiol un yn cynnwys ardal Taf

Os nad oes gyda chi eich cludiant eich hun a does dim modd i chi gyrraedd eich llyfrgell neu lyfrgell deithiol agosaf oherwydd salwch neu anableddau, yna mae’n bosibl y byddwch chi’n gymwys i gael cludiant.

Gwasanaeth y Llyfrgell Deithiol
E-bost: LlyfrgellTeithiol@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01685 880061