Os nad oes gennych chi eich cludiant eich hun ac nid ydych chi'n gallu cyrraedd eich llyfrgell neu lyfrgell deithiol agosaf oherwydd salwch neu anableddau, yna gallech chi fod yn gymwys i gael cludiant.
Mae Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yn darparu cludiant i'r llyfrgelloedd canlynol:
-
- Llyfrgell Hirwaun
- Llyfrgell Tonypandy
- Lyfrgell Treorci
- Llyfrgell Aberdâr
- Llyfrgell Llantrisant
- Llyfrgell Rhydfelen
Darperir cludiant unwaith bob 3 wythnos, gallwch chi gael sgwrs a gwneud ffrindiau newydd, wrth ddewis eich llyfrau neu ddefnyddio ein cyfrifiaduron. Byddwch chi'n cael eich casglu o ddrws eich tŷ a'ch dychwelyd adref.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth yma, cysylltwch â ni:
- Ffôn: 01685 880061
- E-bost: LlyfrgellTeithiol@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Oedd yr wybodaeth yma'n ddefnyddiol?