Yn ystod mis Mawrth bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn symud i lwyfan recriwtio ar-lein newydd.
Fydd y wefan yma ddim ar gael mwyach ar ôl 28 Ebrill a bydd yr holl wybodaeth yn ymwneud â'r cyfrif yn cael ei dileu. Yn unol â rheoliadau diogelu data, fydd y Cyngor na darparwr y wefan ddim yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol sydd wedi'i chyflwyno.
Bydd unrhyw geisiadau sydd wedi’u cyflwyno ar ein gwefan bresennol yn parhau i gael eu rheoli yno hyd at 28 Ebrill - bydd modd i ymgeiswyr weld eu ffurflenni cais, cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu cais a threfnu cyfweliadau. Os bydd y broses recriwtio ar gyfer unrhyw swydd yn ymestyn y tu hwnt i'r dyddiad hwnnw, bydd yr wybodaeth ddiweddaraf a threfniadau amgen yn cael eu rhannu gydag ymgeiswyr drwy e-bost.
Bydd y Cyngor yn rhannu diweddariadau pellach a dolen i'n gwefan recriwtio newydd yn fuan.