Ydych chi'n rhedeg busnes neu'n gyflogwr? Mynnwch gymorth a chefnogaeth gyda grantiau busnes, recriwtio, cyllid, Adnoddau Dynol a Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol.
Mae cyngor ychwanegol ar gael ar ein tudalenau busnes...
Cymerwch olwg ar ein Llyfryn Cefnogi Cyflogwyr ar gyfer cyngor a chymorth wedi eu teilwra i fusnesau lleol.
Cysylltu â ni:
I ofyn cwestiwn cyffredinol, cysylltwch â:
Carfan Cymorth Ganolog - Tŷ Elái, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY
Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Rhaglenni sydd wedi'u hariannu gan gyllid Llywodraeth Cymru:
Caiff ein cyngor a chymorth cyflogaeth eu darparu trwy'r rhaglenni canlynol. Bwriwch olwg ar bob dolen am ragor o wybodaeth a manylion cyswllt:
Rhaglen bartneriaeth Llywodraeth Cymru rhwng awdurdodau lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau ac sydd wedi'i hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yw Cymunedau am Waith. Mae’n gweithio gyda phobl o bob oed i ddarparu cymorth a chyngor ar ddod o hyd i gyflogaeth a hyfforddiant.
Mae Cymunedau am Waith a Mwy yn cynnig cymorth i bawb yn Rhondda Cynon Taf sy'n chwilio am waith, hyfforddiant neu gyfle i wirfoddoli.
Mae cynllun Ysbrydoli i Weithio yn brosiect wedi'i ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a'i nod yw darparu hyfforddiant a chefnogaeth i sicrhau cyflogaeth i bobl ifainc 16-24 oed sydd ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.
Mae rhaglen Cadw'n Iach yn y Gwaith yn cefnogi iechyd a lles staff sy'n cael eu cyflogi gan fusnesau bach a chanolig yn Rhondda Cynon Taf. Mae ein gwasanaethau ar gael i fusnesau ac unigolion yn Rhondda Cynon Taf a hynny dan arweiniad Cyngor Rhondda Cynon Taf ac wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop