Hoffech chi ymgymryd â hyfforddiant, dysgu sgiliau newydd ac ennill cymwysterau newydd i'w rhoi ar eich CV?
Mae'r rhaglen hyfforddi Meddwl am Ddysgu newydd wedi ei lansio yn ddiweddar ac mae'n cynnwys llu o gyfleoedd achrededig ynghyd â rhai heb eu hachredu. Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bwriwch olwg ar y ddolen yma i weld ein hamserlen fwyaf diweddar.
Hyfforddiant sy'n Berthnasol i Sector Benodol - Hyfforddiant achrededig gyda chysylltiadau â chyflogwyr a chyfweliadau wedi ichi gwblhau'r cwrs.
Mae hyn yn cynnwys:
Accredited traininng
Hyfforddiant achrededig
- Diogelwch Trac Personol
- Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu
- Cadw warws
- Lletygarwch ac Arlwyo Gofal (Cartref / Preswyl)
|
- SIA (Diogelwch/Stiwardio)
- Canolfannau Galwadau/Gwaith Gweinyddol
- Trafnidiaeth/Manwerthu
- Peirianneg Sifil a Pheiriannau
|
Sgiliau Allweddol
Mae rhywbeth at ddant pawb, o Fathemateg syml i Saesneg hyd at hyfforddiant achrededig wedi’i ddarparu gan Wasanaeth Addysg i Oedolion RhCT.
Yn ogystal â'r rhaglenni hyfforddi, mae modd inni drefnu bod unigolion yn cymryd rhan mewn rhaglenni hyfforddi a rhaglenni sy'n berthnasol i sectorau penodol os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer ein rhaglenni mentora.
Mae Cymunedau am Waith, Cymunedau am Waith a Mwy ac Ysbrydoli i Weithio yn darparu'r hyfforddiant.