Skip to main content

Cymorth Un wrth Un

Mae gyda ni staff arbenigol sy'n rhoi cymorth i unigolion i wneud newidiadau cadarnhaol; boed hynny ar ffurf bod yn fwy heini, manteisio ar gyfleoedd hyfforddi neu weithgareddau, ennill cymwysterau, gwirfoddoli a dod o hyd i swydd.

Sut?

Mae ein Mentoriaid yn gweithio gydag unigolion ar adegau sy'n gyfleus i'r unigolyn. Yn ystod y sesiynau, bydd ein mentoriaid yn gofyn i'r unigolyn osod nodau bach, y mae modd eu cyflawni ar hyd y ffordd. O ganlyniad i hyn, mae pobl fel arfer mewn sefyllfa well erbyn diwedd y rhaglen.

Ble?

Ar-lein neu mewn lleoliad lleol sy'n gyfleus i chi.

Os ydych chi'n derbyn cymorth gan ein mentoriaid mae modd ichi gael mynediad i:

  • Hamdden am Oes - mynediad i’r gampfa a sesiynau hyfforddi personol yng Nghanolfannau Hamdden RhCT.
  • Mae modd i'n Cronfa Rhwystr fod o gymorth wrth fynd i’r afael â chostau trafnidiaeth i fynychu hyfforddiant, cyfweliadau neu gyflogaeth, offer er mwyn bodloni gofynion cynnig swydd amodol, cerdyn adnabod gyda llun ohonoch chi er mwyn agor cyfrif banc a dillad er mwyn cwblhau lleoliad gwaith neu fynd i gyfweliad.

Mae modd gwneud atgyfeiriadau i'r gwasanaeth yma:

Mae Cymunedau am Waith, Cymunedau am Waith a Mwy ac Ysbrydoli i Weithio yn darparu Cymorth Mentora.