
'Gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau a'r Ganolfan Byd Gwaith'
Ydych chi'n chwilio am waith?
Mae'n bosib y bydd modd i Garfan Cymunedau am Waith eich helpu...
Rydyn ni'n darparu
- Mentor neu Ymgynghorydd Gwaith sy'n cynnig cymorth Un i Un
Mynediad i ystod eang o brofiad gwaith a chyfleoedd gwirfoddoli·
- Cyfleoedd hyfforddi eang ar gyfer cymwysterau arbennig megis Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu, Awdurdod y Diwydiant Diogelwch a Hylendid Bwyd.
- Sgiliau Cyflogadwyedd gan gynnwys CV, ceisiadau am swyddi a pharatoi am gyfweliadau
- Magu Hyder
- Cymorth a chyngor ynglŷn â thrafnidiaeth, rhwystrau gofal plant neu gyfrifoldebau gofal
- Canllawiau a chymorth ar sut i gael mynediad i'r we er mwyn cyflwyno ceisiadau am swyddi
- Cymorth â dod o hyd i gyfleoedd am swyddi
Mae modd i chi hefyd wylio’r fideo defnyddiol yma sy’n rhoi cyngor i chi ar lenwi ffurflen gais.
Beth yw Cymunedau am Waith (CaW)?
Mae Cymunedau am Waith (CaW) yn Rhaglen Bartneriaeth gan Lywodraeth Cymru, rhwng yr Awdurdod Lleol a'r Adran Gwaith a Phensiynau. Mae'n cael cymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop i ddarparu gwasanaethau cymorth cyflogaeth ym mhob un o'r 52 o glystyrau Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru.
Mae CaW yn gweithio gyda phobl o bob oed er mwyn rhoi cymorth a chyngor ar sut i ddod o hyd i waith a chyfleoedd hyfforddi.
Sut i gael cymorth gan Gymunedau am Waith (CaW)?
Mae Carfanau Cynllun CaW wedi'u neilltuo er mwyn rhoi cymorth i bobl.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â