Skip to main content

Pedro M Vecina Galian -Gwasanaethau Rheoli Prosiectau

Enw: Pedro M. Vecina Galian 

Blwyddyn Dechrau'r Rhaglen i Raddedigion: 2019 

Swydd bresennol: Swyddog Prosiect Graddedig - Gwasanaethau Rheoli Prosiectau 

Maes Astudio: MSc Rheoli Prosiectau Adeiladu ym Mhrifysgol De Cymru 

Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun? 

Astudiais yn Nhrefforest (Prifysgol De Cymru) a phrynais fy nghartref cyntaf yn Rhondda Cynon Taf y llynedd. Felly, roeddwn i'n teimlo’n gyffrous iawn am wneud cais am swydd gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf, lle'r wyf i nawr yn gweithio ac yn byw. Mae wedi caniatáu i mi gadw cydbwysedd da rhwng gwaith a bywyd, sy'n flaenoriaeth i mi.  

Roedd gen i gefndir academaidd ym maes Adeiladu ac roeddwn i'n barod i ddechrau gyrfa yn y diwydiant yma. Pan agorodd y Rhaglen i Raddedigion, roedd pedwar o'r swyddi'n addas i mi a wnes i ddim oedi  cyn gwneud cais.  Roedd modd i mi helpu i gyflawni Prosiectau Adeiladu ym mhob rhan o’r Cyngor fel y Prosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan wella ansawdd, addysg a bywyd plant a'r cymunedau. Dyna'r rhan fwyaf boddhaol o'm swydd ar hyn o bryd. 

Uchafbwyntiau: Fel Swyddog Prosiect Graddedig, rwy'n rhan o'r adran Dylunio Corfforaethol. Mae'n garfan aml-ddisgyblaeth sy'n cynnwys Penseiri, Peirianwyr Sifil, Peirianwyr Mecanyddol a Thrydanol, Rheolwyr Prosiect, Syrfëwyr a thechnegwyr Dylunio drwy Gymorth Cyfrifiadur. Mae'n cynnig gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr newydd i mi bob dydd yn y gwaith. Mae'n amgylchedd cydweithredol iawn lle rydw i'n cefnogi Swyddogion Prosiect a Rheolwyr Prosiect yn y gwaith o gyflwyno Prosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif. Rwy'n ymwneud yn bennaf â phedwar o'r prosiectau, sydd wedi'u dewis fel y rhai mwyaf addas ar gyfer fy Rhaglen i Raddedigion. Rwy'n ymwneud â'r broses Gwahoddiad i Dendro, adolygiad o raglenni adeiladu, gweithdai risgiau, contractau Tribiwnlys Contractau ar y Cyd (JCT) a Chontractau Peirianneg Newydd 4 (NEC4) ymhlith mwy o weithgareddau. Yn ogystal â hynny, rydw i'n ymweld â safleoedd adeiladu bob wythnos i ddilyn y broses adeiladu, sy'n gwneud fy rôl yn ddynamig iawn.  

Yn ystod yr ymweliadau â safleoedd, rwy'n meithrin perthynas broffesiynol â Phenseiri, Ymgynghorwyr a Rheolwyr Adeiladu. Mae'r cysylltiadau hyn a'r DPP sydd ar gael i mi bob mis yn werthfawr iawn ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol. O ganlyniad, mae'r Rhaglen i Raddedigion yn rhoi'r cyfle i mi ddod yn aelod siartredig o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig, ac rwy'n dechrau'r broses Asesiad o Gymhwysedd Professiynol (APC) ar gyfer y llwybr Rheoli Prosiect sy'n cael ei gefnogi gan RhCT, fy rheolwr a'm cydweithwyr. 

Argymhellion i ymgeiswyr: Fy nghyngor cyntaf i ymgeiswyr fyddai i "adnabod eich hun", yn enwedig eich gwerthoedd personol, eich sgiliau, eich cryfderau a'ch gwendidau. Ceisiwch ddeall rôl a gwerthoedd RhCT. Eglurwch y gwerthoedd rydych chi'n eu rhannu â'r cyngor a broliwch y sgiliau a'r cryfderau sydd gyda chi sy'n gysylltiedig â'r rôl. Ymchwiliwch a pharatowch ar gyfer y cyfweliad. Ac yn bwysig iawn, byddwch yn onest bob amser.