Skip to main content

Laura Roberts - Swyddog Graddedig - Ymgysylltu Busnes a Marchnata

Enw: Laura Roberts

Blwyddyn Dechrau'r Rhaglen i Raddedigion: 2017
Swydd bresennol: Swyddog Graddedig - Ymgysylltu Busnes a Marchnata
Maes Astudio: Gradd israddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd


Pam gyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?:

Ar ôl gweithio ym maes marchnata digidol am ddwy flynedd ar ôl graddio, roeddwn i'n chwilio am her newydd a chyfle i ehangu fy ystod o sgiliau. Roedd y swydd a oedd ar gael yn amrywiol, dynamig ac roedd hi wedi rhoi'r gallu i fi weithredu newid cadarnhaol yn fy nghymuned leol.

Yn ogystal â buddion personol y swydd, roedd hi'n galonogol gweld y cyfle'n cael ei gynnig yn Rhondda Cynon Taf, gan ei bod hi'n anodd fel arfer i ddod o hyd i swyddi deniadol i raddedigion tu allan i ddinasoedd mawr.

Uchafbwyntiau:

Mae nifer o uchafbwyntiau i'r swydd, yn enwedig y cyfle i weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau allanol, gan gynnwys y rheiny o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, yn ogystal ag awdurdodau lleol eraill a grwpiau cymorth i fusnesau.

Mae cwblhau cymhwyster mewn rheoli prosiectau wedi bod yn gyfle gwych i gyflymu fy natblygiad proffesiynol, gan ganiatáu i fi feithrin perthnasau proffesiynol gyda swyddogion graddedig eraill, ehangu fy ymwybyddiaeth o brosiectau gwahanol sy'n cael eu cynnal ledled yr Awdurdod ac ennill sgiliau newydd i'w rhoi ar waith yn fy swydd.

Y cyflawniad rydw i'n fwyaf balch ohono hyd yn hyn yw cael cymeradwyaeth y Cabinet i gyflwyno ystod well o wasanaethau dewisol i fusnesau, gan gynnwys gweithredu cynllun cymeradwyo masnachwyr cenedlaethol fydd o fudd i fusnesau lleol a defnyddwyr y busnesau.

Argymhellion i ymgeiswyr:

Sicrhau bod yr wybodaeth rydych chi'n ei rhoi yn berthnasol a'ch bod wedi gwneud digon o waith ymchwil wrth dynnu sylw at eich sgiliau a safbwynt unigryw. Os ydych chi o'r farn bod gyda chi'r wybodaeth a'r profiad sydd eu hangen ar gyfer y swydd, peidiwch â bod yn ddigalon a phenderfynu peidio â gwneud cais os nad ydy'ch cymhwyster wedi'i nodi yn y rhinweddau wedi'u hawgrymu. Er bod rhai swyddi yn arbenigol iawn, bydd eich profiad a'ch gallu yn fwy pwysig na'ch maes astudio mewn nifer o feysydd.

Unwaith eich bod chi'n cael cynnig swydd, gwnewch yn fawr o'r cyfle i ddysgu gan y bobl o'ch cwmpas a byddwch yn frwdfrydig wrth gyflawni tasgau newydd; fel arfer, gweithio'n groes i'r hyn sy'n gyfforddus i chi yw'r ffordd orau o ddatblygu eich gwybodaeth a'ch hyder dros gyfnod o amser. Os ydych chi'n cael cyfle i fod yn rhan o brosiectau tu allan i'ch maes gwasanaeth, rydw i'n argymell i chi fanteisio arnyn nhw. Dyma gyfle gwych i chi ehangu eich safbwynt a gwneud cysylltiadau â phobl sy'n gweithio ym meysydd eraill y Cyngor.

Os oes cyfleoedd a syniadau newydd yn dod i'r amlwg fydd o fudd i'r sefydliad, peidiwch â bod ofn lleisio eich barn. Fydd dim disgwyl i chi wybod popeth am y Cyngor neu'ch maes gwasanaeth, ond bydd eich brwdfrydedd a pharodrwydd i addasu yn cael eu croesawu a'u parchu.