Skip to main content

Rhys Jenkins - Technegydd

Enw: Rhys Jenkins

Blwyddyn dechrau (prentisiaeth): 2017

Swydd bresennol: Technegydd      

Cyn dechrau'r brentisiaeth, beth oeddech chi'n ei wneud?

Cyn dechrau'r brentisiaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, roeddwn i wedi gweithio mewn nifer o sectorau cyflogaeth gwahanol, y diwydiant gwasanaethau yn bennaf. Wrth weithio ym maes y diwydiant gwasanaethau, roeddwn i wedi gweithio nifer o swyddi, o gogydd i reolwr.

Pam cyflwynoch chi gais am le ar y cynllun?

Sylweddolais nad oedd gweithio 60+ o oriau yr wythnos mewn gwasanaeth oedd yn peri straen ac yn gofyn llawer, a hynny heb ddiolch, yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei wneud yn y tymor hir. Penderfynais wneud cais arall am le ar y Cwrs Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig a oedd o ddiddordeb i fi nifer o flynyddoedd cyn hynny.

Ar ôl ennill arian trwy flwyddyn gyntaf y cwrs trwy weithio mewn bariau a bwytai, dechreuais chwilio am brentisiaeth er mwyn cael profiad wrth ddysgu mewn ystafell ddosbarth.

Pa gyfleoedd datblygu rydych chi wedi eu cael ers dechrau gweithio yn y Cyngor?

Yn ystod fy nghyfnod yn y Cyngor, rydw i wedi cwblhau fy nghymhwyster NVQ Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil ar gyfer Technegwyr a hefyd gwblhau fy nghymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig.
Ar hyn o bryd, rydw i'n astudio Tystysgrif Genedlaethol Uwch (‘HNC’) mewn Peirianneg Sifil ac rydw i wedi ennill swydd barhaol yn yr adran.  Ochr yn ochr â'r datblygiad proffesiynol, mae'r profiadau rydw i wedi eu cael wrth gyflawni dyletswyddau gyda chydweithwyr amrywiol wedi cyflymu fy natblygiad yn gyffredinol.  Rydw i wedi cael manteisio ar sawl cyfle i gael hyfforddiant proffesiynol sydd wedi fy ngalluogi i fod yn fwy amrywiol wrth ennill sgiliau a gwybod yn fy amgylchedd.

Beth oedd yr uchafbwyntiau?

Yn bersonol, mae gyda fi gynifer o uchafbwyntiau o'm cyfnod fel prentis, pe bai rhaid i fi eu rhoi mewn trefn, amrywiaeth fyddai'r un mwyaf tebygol.  O'r ystod o gefndiroedd sydd gan fy nghydweithwyr i'r cwmpas eang o waith rydw i wedi bod yn rhan ohono, mae pob diwrnod wedi bod yn wahanol a dydy dwy sgwrs ddim wedi bod yn debyg.

Argymhellion i ymgeiswyr:

Byddwn i'n argymell gwneud ymchwil ar y swyddi sydd o ddiddordeb i chi cyn gwneud cais, bydd yr ymchwil yn eich helpu chi i feddwl am brofiadau rydych chi wedi'u cael sy'n berthnasol i'r hyn mae RhCT yn ei ddisgwyl gan ymgeisydd llwyddiannus.