ADEILADU AR SEILIAU CADARN: Cynllun Darparu Tai newydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf
Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi lansio Cynllun Darparu Tai newydd, o'r enw ‘Adeiladu ar Seiliau Cadarn’, ar gyfer 2013–2018. Fel sydd wedi'i nodi yn y teitl, y bwriad yw adeiladu ar lwyddiannau'r 5 mlynedd ddiwethaf dan y Strategaeth Dai Leol flaenorol, ‘Materion Tai’.
Mae hyn yn dangos bod materion tai yn dal i fod yn bwysig i’r Cyngor a’i bartneriaid, a’i fod yn cydnabod bod nifer o welliannau wedi'u gwneud o ran gwasanaethau materion tai, ond, bod llawer o heriau ar y gorwel o hyd.
Cafodd stoc dai’r Cyngor ei throsglwyddo 5 mlynedd yn ôl. Yn ystod y cyfnod yma, mae perthnasau wedi'u meithrin ag amrywiaeth o sefydliadau lleol a rhanbarthol, sy'n canolbwyntio ar gydweithio er mwyn datblygu gwasanaethau sy'n cynnwys y farchnad dai gyfan.
Mae'r Cynllun Darparu newydd yma yn ddogfen sydd wedi'i pharatoi ar y cyd gan y Cyngor a Chymdeithasau Tai lleol. Mae'r cynllun wedi'i osod yn gadarn yng nghyd-destun ‘Cyflawni Newid: Cynllun Integredig Sengl ar gyfer Rhondda Cynon Taf’| ac mae'n darparu dull eang o fynd i'r afael â materion tai yn y fwrdeistref. Yn sail i hyn, mae Cynllun Gweithredu, a fydd yn cael ei ddiweddaru bob blwyddyn er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth a chyflwr y farchnad. Bydd cynnydd yn erbyn y Cynllun yma yn cael ei fonitro bob chwarter.
Y Garfan Strategaeth a Safonau Tai yw'r arweinydd strategol o ran gweithredu'r cynllun ac mae'n gyfrifol am amrywiaeth o faterion tai, gan gynnwys:
Tai fforddiadwy
Mabwysiadodd y Cyngor ei Ddatganiad Darparu Tai Fforddiadwy ym mis Mehefin 2009. Serch hynny, mae hwn nawr wedi cael ei ddisodli gan broses y Cynllun Datblygu Lleol a dydy e ddim yn gymwys bellach. Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â materion tai fforddiadwy ar gael ar y dudalen yma.
Asesiad o'r Farchnad Dai Leol
Mae Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol yn cael eu cynnal gan Swyddog Materion Tai Fforddiadwy y Cyngor bob 2 flynedd. I weld yr Asesiad mwyaf diweddar, gweler y dudalen yma.
Perchen ar gartref am bris gostyngol
Mae'r Cyngor wedi gweithredu'r cynllun 2006 er mwyn helpu pobl sy'n gadarn yn ariannol ond sydd ddim yn gallu prynu cartref eu hunain heb rywfaint o gymorth. Mae'n bosibl y bydd ymgeiswyr yn gallu prynu cartref newydd sbon sy'n rhan o ddatblygiad preifat a derbyn gostyngiad (70-75%, fel arfer) oddi ar werth marchnad agored yr eiddo.
I weld cartrefi sydd ar gael i'w prynu trwy'r cynllun Homestep, ewch i wefan Housing Solutions.
Manylion cyswllt