Adeiladu ar Seiliau Cadarn yw ein cynllun ar gyfer 2013-2018 sy'n disodli'r Strategaeth Dai Leol flaenorol sef 'Materion Tai'. Mae'r cynllun newydd yn nodi bod llawer o lwyddiannau wedi cael eu cyflawni ond bod rhagor o heriau o'n blaenau ni.
Mae'r cynllun 'Adeiladu ar Seiliau Cadarn' wedi cael ei ddatblygu mewn partneriaeth â Chymdeithasau Tai lleol a bydd yn cynnwys y cyfnod rhwng 2013 a 2018. Mae'n amlinellu amcanion mewn perthynas â thai sy'n cyfrannu at gyflawni blaenoriaeth Cynllun Integredig Sengl y Cyngor - "Mae pobl yn Rhondda Cynon Taf yn byw mewn tai diogel a phriodol mewn cymunedau cynaliadwy a ffyniannus". Er ei fod e wedi'i osod o fewn y thema 'Ffyniant', mae'r Cynllun Darparu Tai yn darparu cynllun eang ar gyfer tai a hefyd yn cyfrannu at themâu 'Iechyd' a 'Diogelwch' y Cynllun Integredig Sengl.
Ers trosglwyddo stoc dros 5 mlynedd yn ôl, mae'r Cyngor wedi croesawu'i swyddogaethau o ran y Strategaeth Dai a galluogi, a chan weithio gyda Chymdeithasau Tai a phartneriaid eraill, mae e mewn sefyllfa dda i wneud gwahaniaeth i dai a chymunedau yn y fwrdeistref.
Yn y Cynllun Darparu Tai, mae'r blaenoriaethau ar gyfer tai yn cael eu rhoi o dan bedwar amcan sydd i gyd yn cyfrannu at addysg, tlodi, iechyd a diogelwch tra'u bod nhw'n helpu i greu cymunedau ffyniannus fel a ganlyn;
- Galluogi marchnad dai swyddogaethol
- Gwella cyflwr y tai yn y cymunedau sy'n hyrwyddo iechyd a lles a diogelwch
- Galluogi mynediad i dai addas, fforddiadwy
- Pobl mewn angen ariannol yn derbyn y cyngor a chymorth priodol.
Bydd y cynllun yn cael ei gyflawni drwy gynlluniau gweithredol a fydd yn cael eu diweddaru'n flynyddol i sicrhau ei fod e'n parhau i ddiwallu gofynion cyfredol y gwasanaeth ac amodau'r farchnad.
Y Cynllun Gweithredol ac Adroddiadau Monitro Chwarterol
Bydd y Cynlluniau Gweithredol blynyddol yn cynnwys nifer o gamau gweithredu sydd wedi cael eu cytuno gan y Cyngor a'i bartneriaid. I fonitro cynnydd o ran y camau gweithredu yma, bydd gofyn i bob sefydliad cyfrifol ddarparu diweddariadau chwarterol. Bydd hyn yn sicrhau y bydd unrhyw gynnydd a/neu rwystrau rhag cyflawni effeithiol yn cael eu cofnodi. Bydd copïau o'r holl gynlluniau gweithredol yn cael eu huwchlwytho i'r adran Dogfennau Perthnasol. Bydd y cynllun gweithredol cyfredol ar gyfer 2013-2014 yn cael ei uwchlwytho yn fuan, unwaith y bydd e wedi'i gwblhau.
Pe hoffech chi gopi o'r Strategaeth Dai Leol flaenorol, sef 'Materion Tai' neu unrhyw un o'i is-strategaethau, gan gynnwys unrhyw hen Gynlluniau Gweithredol, cysylltwch â'r Garfan Materion Strategaeth a Safonau Tai.
Manylion Cyswllt