Skip to main content

Asesu Anghenion Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

 

Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n golygu bod rhaid i holl gynghorau Cymru gael gwybod sawl maes neu safle sydd eu hangen arnyn nhw, a sicrhau bod y safleoedd neu feysydd yma'n cael eu darparu ble mae'u hangen fwyaf.

 

Yn rhan   o'r dyletswyddau yn Neddf Tai (Cymru) 2014, cynhaliodd Cyngor Bwrdeistref   Sirol Rhondda Cynon Taf Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr yn   2015, sy wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.  

 

Cafodd Asesiad o Anghenion Llety Sipsiwn a Theithwyr ei gynnal er mwyn asesu anghenion llety cymunedau Sipsiwn, Teithwyr a Siewmyn Teithiol ar gyfer y dyfodol ac i bennu a oes angen sefydlu meysydd a safleoedd ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf.

Mae modd gweld yr asesiad llawn yma.

 

Gwyliwch y ffilm fer yma.   Ynddi, mae Sipsiwn a Theithwyr a phobl sy'n gweithio gyda nhw'n esbonio pa mor bwysig yw'r ddeddf newydd yma, pam mae safleoedd a meysydd yn hanfodol,   a'r rhesymau dros leisio'ch barn.

 

 

Asesu Anghenion Llety ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr

 

Eich Cartref Eich Barn

 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ystyried anghenion byw Sipsiwn a Theithwyr.

Os ydych chi’n Sipsi neu’n Deithiwr yn byw yn Rhondda Cynon Taf, rhowch wybod i ni.

Mae angen inni glywed eich barn er mwyn inni deal eich anghenion byw.

 

Os hoffech chi gyfranny:

Negeseuon testun: 07471 267095

Ffonio: 01792 535319

E-bost: Michael.bayliss@ors.org.uk

 

Bydd yr wybodaeth o’r cyfweliadau breifat. Fydd neb yn gallu olrhain o ble ddaeth yr atebion.